Haf 2015
Pinc, pinc, pinc a mwy o binc. Llond lle o binc! Môr o binc oedd y sioe gerdd Legally Blonde sydd yn llifo dros Theatr y werin yr haf yma.
Addasiad o’r ffilm enwog Legally Blonde gyda’r enwog Reese Witherspoon yn serennu yn yr agoriad Broadway yn 2007. Sioe a ddaeth yn boblogaidd iawn yn theatrau’r West End hefyd.
Stori Elle Woods ydyw hon, sef llywydd ‘Delta Nu’. Ymgais Elle i ceisio adennill ei chariad Warner yw sylfaen y stori, a hithau yn gweithio’n galed yn astudio i sicrhau mynediad i’r ysgol gyfraith ym Mhrifysgol enwog Havard. Trwy waith caled mae’n sicrhau ei lle yn y Brifysgol ac yn dilyn ei chyn gariad yno gyda’i chihuahua. Er ei bod yn derbyn yr holl addysg yn ystod y cyfnod yma mae’n dysgu llawer mwy am ei hunan ac yn cael gwell dealltwriaeth o bersonoliaeth ei chariad ac yn ail ystyried ei asesiad hi ohono. Cefndir rhamantus yn llawn hiwmor sydd i’r stori ond mae hefyd yn cynnig mwy gan bod y cymeriadau mor gredadwy.
Hoffais y defnydd o’r awditoriwm ar y dechrau. Defnyddiwyd yr awditoriwm yn gelfydd gyda rhai o aelodau’r cast yn dod i mewn trwy’r drysau ochr a ninnau yn teimlo’n rhan o’r ddrama a’r cyflwyniad. Derbyniaf fod cynnal acen Americanaidd yn anodd ond ar ddechrau y perfformiad collwyd tipyn ar eglurdeb y dweud ac ar eiriau y caneuon gyda sgil effaith bod hi’n anoddach dilyn plot cychwynnol y stori.
Plot syml iawn ond un a oedd a llawer o feddwl a dyfnder iddo.
Roedd y datblygiad yng nghymeriad Elle gyda thwf y stori yn dangos bod yr hyn sydd yn ymddangosiadol amhosib yn bosib phenderfyniad a dyfalbarhad. Y mae modd llwyddo mewn maes academaidd a dilyn proffesiwn sydd yn draddodiadol tywyll ei gwisg gyda gwen a bod yn ffasiynol ddeniadol ar yr un pryd.
Wrth i Elle gyrraedd Havard siom sydd yn ei gwynebu gan fod ei chyn-gariad Warner wedi cael cariad newydd, Vivienne. Yn ystod y stori mae Vivienne yn newid ei meddwl am Elle ond ar y dechrau, oherwydd actio credadwy di ffws Vivienne roedd yn ymddwyn mewn modd atgas at Elle. Roedd yn manteisio ar bob cyfle posib i fychanu Elle, er engraifft, pan wahoddwyd Elle i barti ffurfiol a soffistigedig roedd Vivienne yn ei chamarwain trwy ddweud mai parti gwisg ffansi oedd parti soffistigedig. Gwisgodd Elle wisg cwningen a phawb yn meddwl ei bod yn ffŵl ac yn gwireddu yr ystrydeb “dumb blonde”.
Ond gyda help Paulette y ddynes trin gwallt a oedd a’r llais gorau y cast, yn fy marn i, a’i ffrind Emmette yn Havard mae Elle yn medru concro ei hofnau a gwynebu her y byd cyfreithiol ac mae’i gwybodaeth am fyd fasiwn ac ymddygiad menywod o fewn y byd hwnnw yn galluogi Elle i groes hoeli yn effeithiol gyda’r canlyniad o ennill yr achos llys. Teimlais bod Paulette wedi codi’r to gyda ‘r gân Ireland. Roedd hi’n gymeriad credadwy gyda llais cyfoethog a ychwanegodd at y sioe.
Cafodd Elle ei chwarae gan yr anhygoel Rebecca Stenhouse a oedd ar y llwyfan bron drwy’r amser yn ystod y sioe. Rôl sydd yn gofyn am danc llawn o egni a mwy. Mae’n rôl ofynnol iawn ar y llais a’r corff ond cafwyd perfformiad caboledig iawn ganddi. Credaf fod y bartneriaeth rhyngddi hi ac Emmet a gafodd ei chwarae yn sensitif gan David Barrett yn un hynod o lwyddiannus. Cymeriad a dyfodd yn ystod y sioe a llais bendigedig ganddo. Un o uchafbwyntiau y sioe i mi oedd ei deuawd o ‘Legally Blonde’ tu ôl i’r drws yng nghanol y llwyfan a oedd yn hynod o ddirdynnol.
Perfformiad cadarn fel y disgwyl oedd gan yr adnabyddus Peter Karrie o’r athro Callahan cas. Nid oeddwn wedi hoffi y cymeriad yma o’r dechrau fel y dylai ddigwydd; dyma dystiolaeth o lwyddiant Peter Karrie i greu y gwr drwg a ‘villain’ y sioe gerdd.
Cafwyd chwerthin iach yn ystod y perfformiad ac fe grëwyd dipyn o hiwmor gyda Kiara Jay fel Paulette a Wade Lewin fel Kyle. Perfformiadau comedi arbennig gyda amseru celfydd.
Ròl corws personol Elle yn effeithiol ac yn un o’m ffefrynau wrth iddyn nhw fod yn gyfuniad o lais a chydwybod trwy y perfformiad a hynny ar gan.
Perfformiad cawslyd llawn hwyl a chwerthin ac er ei fod wedi ei leoli yn America roedd jôcs a leolwyd yn yr ardal leol yn plesio y gynulleidfa. I goroni y cyfan cafwyd cawod o gonffeti arian i ddiweddu y perfformiad