Unwaith eto, fe’m cyfareddwyd gan gynhyrchiad theatr Nansi, am fywyd cynnar ‘Telynores Maldwyn’, Nansi Richards (1888-1979). Ofnais braidd y collai’i hud, o’i thrawsblannu o’i chynefin, wedi i mi ddotio ati y llynedd yn Llanfair Caereinion. Ond ar gyfer ei thaith ledled Cymru, dewisodd gwmni’r Theatr Gen leoliad perffaith yn nhre Penarth, The Paget Rooms.
Mae’r gair ‘hud’ yn gwbl addas i ddisgrifio’r wefr a grewyd gan ddrama sydd wedi’i brithio â chyfeiriadau at y tylwyth teg. Y dylwythen amlycaf wrth gwrs yw Nansi, gyda’i dawn i swyno’r dorf , ac i dorri calonnau dynion di-ri. Mae’n gynhyrchiad sy’n dathlu Cymraes a aeth yn gwbl groes i’r graen, gan dorri’i chwys ei hun wrth ddilyn ei chalon.
Yn ferch fferm o Benybontfawr, fe’i hamgylchynwyd gan dalentau lleol, o sipsiwn y fro, ei rhieni cerddorol a Tom Lloyd, Telynor Ceiriog . Enillodd le yng ngholeg Guildhall cyn croesi’r Iwerydd i’r Amerig a chreu argraff fawr ar y werin, a byddigion. Ond, a hithe’n ddi-briod am flynyddoedd mawr, bu’n destun sgwrs yn lleol. Onid oedd modd iddi fyw a bod fel artist yn ei hawl ei hun? Dyma’r cwestiwn mawr, sy’ dal yn berthnasol, a gyflwynir yn y ddrama hon.
A minnau’n gwybod dim am ei hanes y llynedd, fe nadlenwyd i’n fawr gan y stori, gaiff ei fframio rhwng dwy olygfa ar noson ei phriodas â Cecil Jones. Llywiwyd sgript lawn pathos Angharad Price â chryn gydymdeimlad gan y gyfarwyddwraig Sarah Bickerton, ac fe’i berfformiwyd ag asbri gan gast ar ben eu digon
Dychwelyd eleni fel Nansi wnaeth yr actores Melangell Dolma, a daenodd ei hudlath ei hun dros y dorf; gwyrodd rhwng ing a direidi ar amrantiad. Dychwelyd, yn ogystal, i rôl Tom, tad Nansi, wnaeth yr actor Gwyn Vaughan Jones, er mawr ddiddanwch y dorf. Rhwng y bloeddio a’r bytheirio bendigedig, cafwyd cip ar gariad amherffaith y tad.
Wedi canmol Carwyn Jones i’r entrychion y llynedd, am chwarae rhannau niferus, petrusais braidd o glywed na fyddai’n dychwelyd eleni. Nid oedd angen poeni; rhoddodd Nansi y cyfle i Martin Thomas ddisgleirio mewn ffordd wahanol i’w ragflaenydd, a dyma’r showcase orau posib i’w amryw ddoniau. Roedd ar ei orau, yn fy marn i, fel yr hurtun o Sais, sy’n troi at drais ’rôl cael ei frifo gan Nansi. Ond fel Carwyn Jones, y llynedd, fe ddenodd gydymdeimlad mawr fel y Cecil hynod addfwyn ond hunan-feddiannol.
Gyda chymaint yn digwydd mewn drama mor ymdrochol, wrth i’r actorion rhyngweithio o fewn y dorf, roedd hi’n braf cael canolbwyntio ar ambell berfformiwr fodfeddi yn unig i ffwrdd. Cynorthwyodd y goleuo yn fawr a hyn, a cofiaf un ennyd amlwg yn glir.
Wrth i Nansi gael ei drysu gan anallu ei rhieni i’w derbyn fel y mae, fe wawriodd y gwir yn llygaid pefriog Melangell Dolma, a safodd o fy mlaen fel darlun cain. Ond yr un mor bwerus oedd ymarweddiad Annie, mam Nansi, a chwaraewyd ag urddas tawel gan Betsan Llwyd. Gwelwyd ynddi aberth oesol y fam Gymreig, wrth ddymuno’r gorau posib i’w merch.