Fe es i weld Grav ar y diwrnod y bu farw’r hanesydd Dr John Davies, Bwlchllan. Os oedd John Davies yn ymgorfforiad o gof ein cenedl, roedd Ray Gravell yn ymgorfforiad o’i henaid. Er bod Grav yn anorfod yn canolbwyntio ar yrfa rygbi y canolwr byd enwog a’i gariad at y gêm, o’i brofiadau cyntaf yn gwylio Llanelli gyda’i dad, i’r gemau dros Lanelli ac yna Cymru a’r Llewod, nid drama am rygbi yw hon mewn gwirionedd (er y bydd o gymorth mawr i chi os ydych chi’n deall arwyddocad y sgôr 9 – 3, a beth yw tacl hwyr! ) Mae rygbi gymaint yn fwy na’n gêm genedlaethol. Mae’n rhan o’n traddodiad gwerin ni fel cenedl bron, ac felly’n medru gweithredu, fel y mae yn y cynhyrchiad hwn, fel trosiad diwylliannol. Mae yna amryw o linellau yn sgript gelfydd Owen Thomas sy’n tanlinellu hyn: Wrth sôn am chwarae gyda maswr Llanelli a Chymru a Phil Bennett , dywed Ray, “Mae rhai chwaraewyr, fel eich gwlad, angen cael eu gwarchod.” A’r brwydrau ar y cae yn frwydrau hefyd dros falchder cenedlaethol a chymuned, wrth i Ray deimlo bod y gemau y mae’n ei hail-fyw yn “fwy na ni’r chwaraewyr.”
Mae’r ddrama yn agor gyda Ray yn cyrraedd hen ystafell newid, gyda’r loceri, gwely ffisio, beinciau a chawodydd cyfarwydd, ac yn methu’n lan â deall ble mae e. Mae’r ystafell yn cyfleu rhyw fath o limbo ac yn raddol mae Ray yn ceisio cofio pwy yw e, yn ceisio deall yr hyn sy’n ei ddiffinio, gan hel meddyliau’n uchel mewn rhyw fath o sgwrs gyda’i ddiweddar fam. Mae Owen Thomas wedi creu sgript farddonol, deimladwy sy’n llwyddo cerdded y ffin denau rhwng emosiwn a sentimentaliaeth. Sgript Saesneg ydyw, sy’n teimlo’n ddigon naturiol yn sgil y ffaith mai Saesneg yr oedd Ray a’i fam yn siarad gyda’i gilydd, ond mae yna deimlad Cymraeg i rhythm y geiriau sy’n cynnwys ambell ymadrodd a brawddeg Gymraeg o dro i dro. Efallai y byddai ychydig mwy o Gymraeg wedi gweddu, gan fod diwylliant y byd rygbi Cymraeg – o Max Boyce i Jonathan Davies – yn llwyddo bodoli’n ddwyieithog yn ddigon naturiol, ac o gofio bod yr iaith Gymraeg mor ganolog i gymeriad a bydolwg Ray Gravell. Fel y diwylliant rygbi hwnnw, mae yna ddigon o hiwmor yn y sgript, a’r gynulleidfa yn chwerthin yn uchel yn gyson wrth glywed hanesion Ray ar ac oddi ar y cae.
Mae’r set yn un awgrymog, gan gynrychioli cyfnod sydd wedi mynd heibio neu rhyw orffennol coll. Mae’r propiau – pêl rygbi, sgarff goch, cot fawr – yn rhai syml ond effeithiol, sy’n ennyn ochneidiau o gydnabyddiaeth gan y gynulleidfa wrth iddyn nhw gael eu hatgoffa o’r ffigwr fu mor gyfarwydd. Yn ogystal â’r rygbi, cawn glywed drwy gyfrwng storiau cyfarwydd am ei yrfa actio a’i falchder o fod yn Geidwad y Cledd yn yr Orsedd Eisteddfodol, ond mae Grav hefyd yn datgelu stori hynod bersonol Ray y dyn. Profodd drasiedi enbyd yn ystod ei ieuenctid yn sgil hunanladdiad ei dad ac mae’r ddrama’n defnyddio’r digwyddiad tyngedfennol hwnnw i daflu goleuni ar ei fywyd a’i bersonoliaeth.
Mae cynnal sioe un dyn yn dipyn o her i unrhyw actor, ac mae portreadu ffigwr mor adnabyddus o ran ei bryd a’i wedd a’i ymadroddion yn cynyddu’r pwysau hynny. Ydy, mae Gareth Bale wedi tyfu barf, ond yn hytrach na chyflwyno dynwarediad, mae’n llwyddo i ddal hanfod Ray Gravell drwy oslef a rhythm llais, drwy ambell ystum ac ymadrodd adnabyddus, (er dwi’n falch o ddweud na chlywn “West is Best” yn ddibendraw.) Mae’n gwneud digon i ddarbwyllo ein bod yn gwylio’r dyn ei hun, ond creu portread, fersiwn ei hunan o’r cymeriad y mae a hynny’n llwyddiannus. Mae Gareth Bale yn dal yr egni a’r angerdd naturiol a heintus, yr elfen fachgennaidd hoffus oedd mor annwyl gan bawb, yn ogystal ag ansicrwydd y dyn oedd yn ddigon bregus ei ego ar brydiau, ac a deimlai nad oedd yn haeddu’r clod a’r llwyddiant a brofodd.
Mae’r cynhyrchiad yn delio’n sensitif gydag effeithiau creulon clefyd y siwgr ar Ray, a achosodd ei farwolaeth anhymig yn hanner cant a chwech oed. Mae’r dechneg sy’n cael ei defnyddio yn yr ail hanner, wrth i’r ddrama dorri nôl a blaen rhwng dau uchafbwynt emosiynol ei fywyd, sef canfod corff ei dad pan oedd yn bymtheng oed , a chwarae ei ran ym muddugoliaeth fawr Llanelli yn erbyn y Crysau Duon yn 1972, yn hynod effeithiol gan uchelseinio ergyd ac effaith y ddwy garreg filltir ym mywyd Ray arno ef a ninnau.
Golygfa fwyaf trawiadol y ddrama heb os yw’r diweddglo, sy’n gweld Ray yn diosg ei ddillad ac yn rhoi’r sanau cochion, y siorts gwynion a’r crys coch amdano, gan greu’r rhyfelwr tanbaid balch sydd yn ei eiriau ei hun, am “roi i’r bobl yr hyn y maen nhw ei angen” ac yn camu allan am y tro cyntaf i chwarae dros ei wlad. Mae pob tad o Gymro am i’w fab chwarae dros ei wlad a phob mab am gael y profiad o wisgo’r crys coch. Mae rhwybeth defodaidd o weld Ray yn gwisgo’r crys coch a chamu i fyd chwedloniaeth . Yn ystod ei angladd, dywedodd y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards bod Ray Gravell wedi cymryd ei le ymhlith y ffigyrau chwedlonol sy’n adrodd hanes Cymru. Llwyddodd y diweddglo gyfleu hynny i’r dim.
Doedd e ddim yn syndod bod y gynulleidfa wedi codi ar eu traed i gymeradwyo’r cynhyrchiad hwn. Rhoddodd y cynhyrchiad chwistrelliad i ni o’r hwn a alwodd Hywel Teifi Edwards yn ‘Fitamin C o Gymro’. Yn sgîl ei bersonoliaeth annwyl didwyll, fe wnaeth Ray Gravell ein caniatau i fwynhau teimlo balchder yn ein cenedl yn hytrach nag ymddiheurio dros neu deimlo embaras am y teimladau hyn. Drwy gyfleu anian bersonol yn ogystal ag ystyr symbolaidd Ray Gravell yn llwyddiannus, dyma’n sicr yr effaith a gafodd Grav.
Am fanylion y daith, cliciwch yma.