‘Croeso’n ôl Dad’ meddai’r faner uwchben y llwyfan ac er bod Milwr yn y Meddwl yn ddrama am sawl peth, mae teulu yn ganolog iddi yn ogystal â effaith anhwylderau meddwl ar y teulu hwnnw. Daeth Ned y prif gymeriad adref o gyrch mewn cadair olwyn ond wrth gwrs, nid ei gorff yn unig sydd heb lawn fod yn ei le. Mae’r straen arno a’i deulu yn amlwg gyda’i berthynas rhyngddo a’i wraig (Elin Phillips) a’i ferch fach yn dirywio.
Aled Bidder & Phylip Harries
Aled Bidder, Elin Phillips & Ceri Murphy
Un o uchafbwyntiau’r cynhyrchiad hwn i mi oedd perthynas Ned (Ceri Murphy) a’i dad (Phylip Harries) yn ei thynnu coes i dynnu sylw oddi ar difrifoldeb y sefyllfa a’i lletchwithdod amlwg wrth drafod salwch Ned a hon oedd y berthynas fwyaf realistig yn y ddrama. Digon oeraidd oedd yr un rhwng Ned a’i frawd (Aled Bidder mewn un o sawl rôl ar y llwyfan) a’i wraig hefyd, gallai hynny wrth gwrs fod yn fwriadol, holl ddiben y ddrama oedd nad oedd pobl yn gwybod sut oedd ymateb yn iawn i Ned, nac yntau i’w deimladau a’i feddyliau ei hun.
Dyma gynhyrchiad gwahanol ac un bydd yn aros yn y cof am ei lwyfannu yn sicr. O’r cychwyn cyntaf roedd rhywun ar ddeall nad cynhyrchiad cwbl naturiolaidd oedd hwn gyda’r cymeriadau’n trywanu bagiau a’u llond nhw o dywod gyda chyllyll, a’r tywod hwnnw wedyn yn meddiannu’r set (y stafell fyw a chegin mewn tŷ digon arferol) yn styrbiol drosiadol am yr hyn mae rywun yn ddod yn ôl o ryfel gyda nhw.
Ceri Murphy & Elin Phillips
Drwyddo draw roedd hwn yn gynhyrchiad gweledol iawn a’r delweddau’n aml yn drawiadol ac yn helpu cyfleu effaith anhwylder pryder ôl-drawmatig a chyflwr meddyliol bregus Ned. Enghraifft gofiadwy arall oedd defnyddio peiriant mwg mewn popty i gyfleu oglau porc yn codi pwys ar Ned (mae oglau porc a chnawd dynol yn rhyfeddol o agos yn ôl y sôn). Wrth i’r mwg ymledu ar draws y llwyfan roedd Ned yn ei chael hi’n anoddach cadw’i bwyll wrth gwrs doedd gweddill y cymeriadau ddim yn ymateb iddo felly dim ond y ni, a Ned oedd yn gweld pethau fel ac yr oedden nhw.
Yn yr un modd roedd y defnydd o sain, y meicroffonau ar y llwyfan y nodau atmosfferig a ffrwydradau yn gosod y perfformiad hwn mewn tir mymryn yn wahanol, ac mae hynny i’w ganmol. Daeth natur anghonfensiynol y llwyfannu ar brydiau yn fodd o gyfleu dieithrwch profiad Ned o ddychwelyd adref a hylldra rhyfel i ni fel cynulleidfa. Diolch i’r cyfarwyddwr Jac Ifan Moore am lwyddo i gyfleu gweledigaeth o’r fath ar lwyfan mewn modd mor effeithiol.
Ceri Murphy
Phylip Harries
Er bod pob delwedd yn drawiadol iawn fe wthiwyd llawer ohonyn nhw i awr ac yn yr un modd roedd yna lawer iawn i’w drafod mewn cyfnod byr o amser efallai fod y fath beth a gormod o bwdin. Eto’i gyd dyma ddrama rymus ar adegau, un oedd yn cyfleu cymhlethdod sefyllfa unigolyn mewn modd gofiadwy ac un a fyddai’n elwa o fynd i’w gweld yr eildro heb os.
Drama fuddugol Cystadleuaeth y Fedal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
The Independent Voice of Artists and Reviewers in Wales / Llais Artistiaid ac Adolygwyr yng Nghymru