Mae Theatr Clwyd yn cyhoeddi chwe chyfnod preswyl yn 2019 i gefnogi artistiaid a chwmnïau i ddatblygu eu gwaith.
Mae’r cyfnodau preswyl yn cynnig rhwng un a dwy wythnos o ofod ymarfer, gofod swyddfa, cyngor a chefnogaeth un i un gan ein staff cynhyrchu, rhaglennu, marchnata, cyllid ac ymgysylltu creadigol, cefnogaeth gyda cheisiadau cyllido a chyfle i rannu eich gwaith ar ddiwedd y cyfnod preswyl gyda thîm Theatr Clwyd a rhanddeiliaid eraill.
Cymerodd Wildcard Collective ran yn y cynllun yn gynharach eleni i ddatblygu eu sioe theatr egnïol Electrolyte, a aeth ymlaen i gael adolygiadau pum seren yng Ngŵyl Fringe Caeredin.
Dywedodd Maimuna Memon, Cyswllt Creadigol a Chyfansoddwr Preswyl Wildcard, “Fe gawsom ni amser gwych yn Theatr Clwyd, oedd mor gefnogol. Roedd yn grêt cael gofod creadigol i ganolbwyntio ein hegni ar ysgrifennu cerddoriaeth a dyfeisio ar gyfer ein sioe. Fe gawsom ni lawer iawn o gyngor ar gyfer ein cynhyrchiad o ran marchnata, cyllidebu a sut allwn ni wneud yn siŵr bod gan y sioe fywyd yn y dyfodol ar ôl Caeredin. Fe ddangoswyd y sioe ar y diwrnod olaf ac fe gawsom ni adborth defnyddiol iawn gan bawb ddaeth i’n gweld ni. Fe wnaethon ni lwyddo i drefnu cytundeb a chael wythnos hwyliog ac ysbrydoledig!”
Mae’r cyfnodau preswyl ar gael am hyd at bythefnos, gan ddechrau ar 28 Ionawr, 18 Chwefror, 11 Mawrth a 28 Hydref.
Hefyd, mae Theatr Clwyd yn gyffrous i gyhoeddi dau gyfnod preswyl ar gyfer cwmnïau sy’n datblygu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd teuluol. Bydd y cyfnodau preswyl yma ar gyfer yr wythnosau sy’n dechrau ar 8 a 15 Gorffennaf ac maent yn cynnwys cyfle i berfformio perfformiad byrfyfyr yn ystod y Penwythnos Celfyddydau Teuluol blynyddol. Denodd yr ŵyl hon fwy na 5000 o bobl i’r theatr ar ddechrau gwyliau’r haf o’r ysgol y llynedd.
Rhaid gwneud cais am Gyfnod Preswyl ar dair ochr A4 neu ar ffurf fideo 3 munud gyda chrynodeb o’ch gwaith fel artist neu gwmni, gwybodaeth am gynyrchiadau blaenorol ac esboniad o’r gwaith rydych chi eisiau ei greu. Gall y cyflwyniad gynnwys lluniau, mapiau meddwl neu unrhyw wybodaeth briodol arall. Hefyd dylid cynnwys manylion am sut byddai’r wythnos/au yn cael eu treulio, o ran datblygu’r gwaith a pha gyngor fyddai’n ddefnyddiol gan Theatr Clwyd. Dylai’r ceisiadau nodi hefyd pa un o’r cyfnodau preswyl fyddai’n gweithio i chi – os oes sawl un yn bosib, rhestrwch nhw yn y drefn rydych yn eu ffafrio.
Rhaid anfon y ceisiadau at Tom Bevan, Cynhyrchydd Cynorthwyol, yn Theatr Clwyd erbyn 5pm ddydd Gwener 9 Tachwedd tom.bevan@theatrclwyd.com
Byddwn yn cynnig y cyfnodau preswyl i gwmnïau erbyn 16 Tachwedd.