Mae na ddathlu mawr eleni, i nodi canmlwyddiant geni Roald Dahl; un o’r awduron mwyaf llwyddiannus ym maes llenyddiaeth plant, a aned yn Llandaf ym 1916 ar y 13eg o Fedi.
Ar strydoedd Caerdydd rhwng Medi 17-18 cynhelir ecstrafagansa go iawn; dan ofal Canolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales, bydd cast o filoedd yn dod ynghyd i berfformio gweithiu Roald Dahl mewn lleoliadau pur annisgwyl. Ond ar y diwrnod mawr ei hun, bydd cynhyrchiad arall i’w weld yn y Tramshed, bydd yn archwilio gwreiddiau creadigol yr awdur o Gaerdydd, a’i straeon ar gyfer oedolion.
Derbyniodd Wonderman adolygiadau ffafriol tu hwnt yng Ngŵyl Caeredin yn ystod mis Awst, ac fe’i lwyfannwyd yn un o’r canolfannau mwaf, yr Underbelly. Cyd-gynhychiad yw’r gwaith rhwng National Theatre Wales a chwmni clodwiw Gagglebabble.
Comedi tywyll a gafwyd yn Wonderman; addasiad o straeon byrion Roald Dahl i oedolion, a blethwyd a digwyddiad tyngedfennol ym mywyd yr awdur. Yn 1942, ag yntau’n beilot yn yr awyrlu, profodd ddamwain ddifrifol, a’i laniodd mewn ysbyty yn yr Aifft. Yno, profodd gyfres o hunllefau byw, y mae’r sioe Wonderman yn awgrymu oedd yn sbardun i’w waith creadigol.
Gyda’r awdur yn gaeth i’w wely, profwn gyfres o rithweledigaethau, wrth i Dahl ddrysu’n llwyr rhwng nyrsys a doctoriaid a chyfres o ‘fwystfilod’. O’r landledi gwely a brecwast a’i hoffter o stwffio anifeiliaid, i gigydd a gamblwr lloerig; â nhwythau’n yn erfyn am waed, Roald Dahl yw eu prae – a phorth i fyd y dychymyg.
Cynhelir naws gothig ar hyd y sioe, sy’n gwyro rhwng rhamant ac anesmwythyd, diolch i gerddorfa fyw sy’n swyno drwyddi draw. Taenai’r gerddoriaeth yr un hud â morffin y claf, gan ennyn cydymdeimlad llwyr â dryswch Dahl. O linynnau hiraethus, band jazz gelyniaethus, a calypso honco bost; amneidir rhwng arddulliau sy’n deillio o’r cyfnod, i’n cadw ar flaenau ein traed.
Mae’r perfformiadau’n ddisglair iawn – yn enwedig Adam Redmore, sy’n plethu diniweidrwydd mawr a sgiliau dawns yn ei bortread hoffus o’r awdur adnabyddus. Mae merched Gagglebabble – Lucy Rivers a Hannah McPake – yn aml-dasgio’n fendigedig, wrth droi eu llaw at sawl offeryn tra’n darbwyllo llwyr wrth chwarae sawl cymeriad . Ceir goleuo hynod drawiadol, a sgript ffraeth gan Daf James, sy’n arbenigo mewn plethu’r macabre a mwynhad y dorf.
Ond serch hyn oll, mae na rywbeth ar goll; i mi, ceir yma fymryn ormod o bwdin. Mwynheais waith clodwiw criw Gagglebabble o’r blaen – maent yn arbeigwyr ar gomedi tywyll cerddorol Ond mae’r stori Wonderman yn mynd i bobman braidd, sy’n awgrymu wrtha i, mai casgliad o syniadau a geir yma, ac nid naratif mor glir a gafaelgar a’u campwaith, The Bloody Ballad (2013). Dychmygwch gyfuniad gorffwyll o The English Patient a Sweeney Todd, a fyddwch chi ddim yn bell iawn ohoni.
Wedi dweud hynny, mae na dynerwch, a dyfeisgarwch gwych ar waith, ac mae’r elfen ‘gig byw’ yn drydanol iawn ar brydiau. Ond dw’r sioe ddim yn cynnig y ‘tocyn aur’, er mor sgleiniog yw ei glawr, a dyw’r un pathos ddim yma ag y ceir gan yr awdur mawr.