Welais i ambell ddiddanwr yn ‘marw’ ar lwyfan yn dilyn set erchyll o boenus i bawb. Ond welais i erioed un a aeth i eithafion mor arteithiol ag Elis James i atgyfodi ei hun. Wedi set tra amrywiol o gynnig ‘gwaith mewn llaw’ – ar noson gyntaf ei daith newydd, yng Nghanolfan Gymunedol Gartholwg, Pentre’r Eglwys, ger Pontypridd – daeth y noson i ben â rwtin a fu bron i lithro o’i afael; ond o enau angau, fe’i achubwyd gan ei nautur hoffus ei hun.
Mae’n deg i ddweud nad oedd Elis ar ei orau yng Ngartholwg, wrth gyfeirio’n gyson at ei nodiadau, y gafaelodd yn dynn ynddynt ar hyd y sioe, a barhodd am dros awr o hyd. Cyfeiriodd at normalrwydd nosweithiau tebyg yng nghlybiau comedi Llundain, a rhannodd feirniadaeth dyn ym Mhwllheli a siomwyd gan natur ddi-doreth sioe baratoadol o’r fath, yn ystod ei daith Gymraeg ddiwethaf, Rhacs Jibadêrs.
Ond roedd hufen y deunydd – a chrynswrth y sioe hon – ymysg y rwtîns doniolaf a glywais erioed yn yr iaith Gymraeg. Fe ddweda i hyn, yn blwmp ac yn blaen, fe wnawn i rywbeth i fachu tocyn i’r noson olaf, ar ddiwedd y daith, a gynhelir yng Nghaerdydd. Erbyn hynny, bid siwrt, ac ar bob cam o’r daith, bydd na dynhau, a chryfhau ar y deunydd doniol iawn, sydd i’w ffilmio ar ar gyfer sioe arbennig i’w darlledu dros Nadolig ar S4C.
Dechreuwyd y noson yn hwyliog iawn yng ngofod orlawn canolfan gymunedol Gartholwg – man perffaith, a phoblogaidd, ar gyfer cynnal digwyddiadau o’r fath, a sefydlwyd yno naws, a system ddodrefnu digon tebyg i glwb comedi’r Gee Club yng Nghaerydd.
Fel sy’n arferol â gig comedi, cynheswyd y dorf gan act gefnogol Steffan Evans; enw cymharol newydd ym myd comedi Cymraeg, sy’n arddangos potensial mawr. Yn ‘Hambôn o Shir Benfro’ – yn ôl ei ddisgrifiad ei hun – rhannodd Steffan Evans o Eglwyswrw ei gipolwg unigryw ar y byd; o’i argraffiadau yntau o ardal ei fagwraeth, ‘fel Deliverance ond heb y soothing banjo music’ – i fewnfudwyr hunllefus, a’i daith anochel yntau, ‘fel pawb’, i ganfod gwaith yng Nghaerdydd. Fel cyn-farman y Mochyn Du – neu’r ‘unofficial Welsh Embassy’ – uchabwynt ei set yntau oedd ei farn di-flewyn ar dafod am arferion cwsmeriaid, a phlant, ‘Cont-Panna’. Bydd deunydd Steffan yn bownd o daro deuddeg â nifer, ledled y wlad.
Bu oedi am hanner awr, wrth aros am set y seren fawr, oed yn gam gwag, wrth golli’r momentwm a grewyd gan Steffan. Mewn rhai ffyrdd, roedd set Steffan yn dynnach nag un Elis James, oedd ddim cweit wedi hoelio’r ‘gadwyn’ euraidd sy’n clymu popeth at ei gilydd, fel yn achos ei set orchestol, Do You Remeber the First Time, a brofais yng Ngŵyl Caeredin yn 2011. Ond hawdd dweud hynny am set fer ugain munud o hyd, yr oedd â hoel ymarfer dwys a chryn fireinio arni. chynnes dros ben oedd y croeso i Elis, a gyrhaeddodd, yn ôl ei arfer, yn hamddenol a diymhongar
Ond wrth i’r set fynd yn ei blaen, yr hyn a ddaeth yn bendant i’r amlwg yw fod enill enwogrwydd pellach – ym myd actio ar ddramau comedi fel Crims a Josh ar BBC3, ynghyd â’i rol cynyddol fel ‘mascot’ answyddogol tîm pel droed Cymru a ‘Meseia’ comig cefnogwyr angerddol y tîm, mewn gemau gartref a thu hwnt – wedi talu ar ei ganfed mewn sawl ffordd. Ac mae byw yn Llundain, a dod yn dad, yn brawf pendant – yn ei achos ef – o’r hen ddihareb; ‘Gorau Cymro, Cymro oddi Cartref’.
Mae e’n giamstar ag acenion o bob math, ac mae’n bleser cael gweld yr actor ynddo yn cael mynegi ei hun. Fe gychwynnodd wrth ganfod ‘Gog’ o Ddyffryn Nantlle ymysg y dorf Ddeheuol, a sbardunodd rwtîn ardderchog – a llêd-fyrfyfyr – am ddilyn ‘y Palmant Aur’ o Benygroes, yr holl ffordd i Bontypridd. Ni hoffwn roi’r cam-argraff fod ganddo ragfarn yn erbyn Gogleddwyr (er fod ganddo ‘biwt’ o bwt am gadernid yr acen, a’i thebygolrwydd o oresi Dydd y Farn) oherwydd mae e’r un mor finiog am rai o drigolion ei filltir sgwâr. Cynigodd astudiaeth feistrolgar o’r gwahaniaethau meicrosgopig rhwng acenion disgyblion ysgolion uwchradd amrywiol Sir Gâr.
Ag yntau newydd ddychwelyd o’r gêm bêl-droed ragbrofol rhwng Cymru a Moldofa, rhannodd elfennau o saga ysblennydd pencamwriaethau’r Ewros y llynedd, gan gynnwys ei edmygedd o faneri anferthol pentrefi lleiaf posib Cymru wrth geisio denu sylw rhyngwladol at eu hunain. A sôn am dactegau, fe aeth hefyd â ni ar wibdaith ’nol mewn mewn amser, i’w ymdrechion ofer wrth geisio bachu cariad o blith merched Gorllewin Cymru. Roed graddfa bendant, o griw ‘glamorous’ Aberystwyth, i ferched Maes yr Yrfa, na feiddiwn ail-adrodd yma.
Ond efallai taw’r rwtîn ddoniolaf (o bosib; roedd cynifer ohonynt, a dweud y gwir), oedd sylweddoliad Ellis, o Lundain bell, nad oes neb yn y byd yn siarad â hen bobol fel y Cymry, ag aelodau aeddfetaf eu teuluoedd eu hunain. Fel yn achos y fideo ‘Bat-Dad’ am deulu o Iwerddon a aeth yn ‘feiral’ ar y rhyngrwyd yr wythnos ddwethaf, rwy’n debygol o ail-chwarae sgets Elis am ‘Welsh Cakes’ Anti Beryl ac Wncwl Jac o Gefneithin yn ‘happy place’ fy mhen am flynyddoedd maith. Gyda’r Wasanaeth Iechyd Genedlaethol ar ei gliniau, byddai argymell gwylio fideo o’r sgets honno yn codi calonnau mwy o Gymry na phrescripsiwn blwyddyn o dabledi Prozac.
Fel yn achos yr ychydig diddanwyr Cymraeg eraill i brofi poblofrwydd torfol, a hawlio ‘sbesials’ ar S4C, ar yr arwyenb, mae Elis James yn troedio tir digon cyfarwydd; o brofiadau yn yr Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol, a chyfieithu diarhebion Cymraeg, a cheisio egluro Sali Mali a ‘Jackie Jokes’ i’r di-Gymraeg. Ond fel y lleill, mae’n defnyddio’r comfort-zones cyfarwydd hynny fel sbardun i wreiddioldeb mawr. Pwy arall ond Elis James allai gysylltu baner bel-droed o Ffostrasol â diddordeb Oligarch o Rwsia mewn masnachu’n rhydd â thrigolion pentre Plwmp, a medru dynwared y ddwy acen i’r dim?
Ac yn bendant does neb tebyg i Elis James, am gloddio am gomedi euraidd yng nghysgod canghennau ei goeden deulu ei hun. Fel yn chos Tudur Owen a Stifyn Parri – y profais i ei set Cau Dy Geg bythefnos yn ôl – mae Elis James yn gwrthbrofi’r wireb fod y diddanwyr mwyaf llwyddiannus yn depressives llwyr, ac mae’n amlwg fod magwraeth ddedwydd ar aelwyd draddodiadol Gymraeg yn cynnig trysorfa ddi-ddiwedd o ddiddanwch i gystadlu â’r gorau yn y maes, mewn unrhyw iaith. Y gwahaniaeth mawr rhwng yr anialdir o gomedi Cymraeg a’r dilyw o ‘ddigrifwch’ dros y ffin, yw fod cynulleidfaoedd cynhenid wedi bod yn ysu am fab (neu ferch) darogan o gomig i osod (a dathlu, a dychan) eu diwylliant mewn cyd-destun comig ers llawer rhy hir.
Ond wrth ymsefydlu ei hun ynmhellach yn Llundain, gan brofi llwyddiant proffesiynol ac yn ei fywyd personol, mae’n amlwg fod yr Elis James hamddenol bellach gryn dipyn fwy uchelgeisiol. Ac wrth fagu’i ferch fach a rhannu’i fywyd a’i bartner (yr actores gomig a’r ddiddanwraig lwyddiannus Issy Suttie), sy’n dysgu’r Gymreg, mae e hefyd i weld gryn dipyn yn fwy gwleidyddol (ag ‘g’ fach), ac angerddol yn ogystal – ac yn yn fwy ‘crac’, sydd i’w groesawu, yn y byd sydd ohoni.
Peidiwch â ’nghamddeall– dyw e ddim yn debygol o droi ar neb, ac ar hyn o bryd, mae ei orffwylledd amlycaf, ar hyn o bryd, yn gymharol i obsesiwn ei Dad â’r immersion heater. Ond mae’n naturiol fod dod yn riant wedi esgor ar bryderon pellach, sydd – trwy drugaredd, i gynulleidfaoedd Cymru – yn hilarious ar hyn o bryd. Ond mae e’n amlwg yn un sy’n rhoi pwysau mawr arno’i hun, a fel a brofwyd â’r ‘jôc’ olaf yr oedd yn benderfynol o’i chofio cyn gadael, er nad oedd hi, mewn gwirionedd yn haeddu’r fath or-bryder. Tua’r diwedd, roedd yn boenus braidd i wylio Elis annwyl yn bygwth dadelfennu o’n blaenau – cyn i’w gof gwyrthiol ennill y dydd. A synnwn i ddim na fu dan deimlad mawr yn yr wythnosau diwethaf, yn dilyn marwolaeth anhymig, a thrasig, Gethin Thomas, sef cynhyrchydd y daith a’r sbesial ar S4C.
Beth a brofais yng Ngartholwg oedd noson gyntaf taith sylweddol wnaiff gryfhau yn bendant mewn ryddm a strwythur ar hyd yr wythnosau nesaf. Mae e’n arwr comig i mi, a miloedd o Gymry eraill, ac roedd yn bleser cael ei weld yn diddanu neuadd orlawn o gefnogwyr brwd. Dolch i’w lwyddiant mawr yn y Saesneg, mae e’r un mor ddifrifol am ei gomedi Cymraeg, ac oherwydd hynny mae cynulleidfaoedd Cymru yn bendant ar eu hennill.
Mae taith gomedi Elis James yn parhau ledled Cymru tan y 30ain o Fedi, 2017. Cliciwch yma am fanylion pellach.