Bydd Cabaret Ffresh, tymor newydd sbon o adloniant eclectig i bawb, bob penwythnos, yn lansio ym Mar a Chegin Ffresh yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o Ebrill 2020.
Gyda rhaglen yn cynnwys perfformiadau drag, bwrlesg a chomedi beiddgar yn ogystal â dosbarthiadau ‘Voguing’ a pherfformiadau sy’n addas ar gyfer plant a phobl ifanc, gydarhywbeth cyffrous ar gyfer bob oedran.
Bydd Cabaret Ffresh yn cynnwys:
Dydd Iau – Dosbarthiadau ‘Voguing’
Bob nos Iau bydd y tiwtor dawns River Medway, sy’n frenhines Drag ac yn arbenigwr mewn crefft Vogue, yn arwain dosbarth 90-munud twymgalon, cefnogol a hwyliog. Mae’r dosbarth yma’n addas ar gyfer bob lefel ffitrwydd. Pob siâp corff. Pob rhywedd. Pob cyfeiriadedd rhywiol.
Dydd Gwener – Comedi
Mae Leroy Brito yn dychwelyd gyda’i sioe stand-yp sy’n serennu rhai o ddigrifwyr gorau’r sîn. Yn digwydd bob yn ail dydd Gwener, yn cyfnewid yn wythnosol gyda Comedy Translates, y sioe anarchaidd sydd eisoes wedi bod yn hynod boblogaidd yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth, i’ch gwefreiddio’n ddwyieithog.
Dydd Sadwrn – i Blant
Rhaglen amrywiol i bobl ifanc sy’n digwydd bob prynhawn Sadwrn. O adrodd straeon, caneuon, gemau, helfeydd trysor a the prynhawn pefriog wedi’i gyflwyno gan y frenhines drag Gladys Allover, i gomedi Gymraeg i bobl ifanc. Yn ogystal, mae Flossy a Boo yn rhoi rhagolwg o’u sioe newydd sbon. Hwyl a sbri i oedolion ac i blant bach.
Dydd Sadwrn – i Oedolion
Bydd ein Brecinio Drag yn digwydd bob yn ail prynhawn Sadwrn ac yn cynnig gwesteion arbennig, comedi, dawns, bwyd a 90 munud o Brosecco diddiwedd. Bydd FooFooLaBelle a Chlwb Cabaret Caerdydd yn cyflwyno nosweithiau bwrlésg ar y trydydd nos Sadwrn o bob mis, yn cynnwys sêr y sîn, o’r Breninesau Mai eofn a’r Dawnswyr Morris secsi, i fwrlésg paganaidd hudolus i ddathlu Heuldro’r Haf.
Gallwch fwynhau’r perfformiadau gyda’r nos gyda choctel melys neu ddau. Bydd y coctels clasuron gyda thwist yn cael eu gweini i’ch bwrdd yn syth o far Ffresh.
Bydd Cabaret Ffresh yn lansio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o Ebrill 2020. Am yr holl wybodaeth ynglŷn â phob perfformiad ac i archebu tocynnau ewch i wmc.org.uk/cabaret.