Hannah Daniel yn cae lei chastio yn y sioe un fenyl hn. NTW

July 5, 2019 by

Bydd actores Y Gwyll ac Un Bore Mercher, Hannah Daniel, yn perfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yr haf hwn yng nghynhyrchiad National Theatre Wales o For All I Care. Gall cynulleidfaoedd yng Nghymru weld rhagddangosiadau Caeredin o’r sioe yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ar 24 a 25 Gorffennaf 2019.

Mae For All I Care wedi’i hysgrifennu gan Alan Harris, y mae ei waith blaenorol, uchel ei glod a gyflwynwyd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn cynnwys Sugar Baby a How My Light is Spent. Mae’r cynhyrchiad wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr theatr clodwiw Jac Ifan Moore.

Mae For All I Care yn un o ddau gynhyrchiad gan National Theatre Wales  fydd yn cael eu llwyfannu yn Summerhall Caeredin drwy gydol Gŵyl Caeredin eleni. Bydd Cotton Fingers, a ysgrifennwyd gan Rachel Tresize, a’i gyfarwyddo gan Julia Thomas, gydag Amy Molloy yn y bri fran, hefyd yn rhedeg drwy’r ŵyl.

Dywedodd Hannah Daniel, “Rwy’n teimlo’n ffodus dros ben i fod yn gweithio gyda National Theatre Wales ar y prosiect hwn – mae Alan wedi ysgrifennu darn teimladwy a doniol ac rwy’n edrych ymlaen at fynd o dan ei groen gyda chymorth cyfarwyddyd Jac. Yn ei hanfod, mae’n stori am berthynas ddynol, gofal a charedigrwydd – rhywbeth rwy’n credu sydd angen ar bob un ohonom y dyddiau hyn! Rwy’ wrth fy modd â Gŵyl Caeredin – rwy’ bob amser yn gadael yn llawn mwynhad, felly mae cael perfformio yno eleni gyda NTW, yn gyffrous iawn.”

Wrth sôn am y ddrama, dywed yr awdur Alan Harris, “Mae angen atebion ar gymdeithas ar hyn o bryd; atebion i pam na fu, i bob pwrpas, unrhyw lywodraeth ers pleidlais Brexit, pam yn ddiweddar y teimlai’r Arolygiaeth Iechyd fod angen beirniadu’r ddarpariaeth o welyau i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru, gallai’r rhestr “pam” hyn fynd ymlaen … Mae un peth yn sicr, nid yw’r status quo yn rhoi unrhyw atebion ac mae hynny’n gwthio pobl i mewn i weithredoedd radicalaidd. Mae hon yn ddrama am y dewisiadau anodd ac amhosib yn aml y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd. Mae dau gymeriad canolog gwahanol iawn yn For All I Care, ill dwy’n dyheu am gysylltiad er gwaetha’r pwysau sydd arnynt. Mae angen y cysylltiad hwnnw arnom yn awr, o gymeriad i gymeriad, o actor i gynulleidfa i’r byd ehangach.”

Clara a Nyri. Dwy fenyw wahanol iawn. Dau fywyd cymhleth. Y ddwy yn cael diwrnod gwael iawn.

Mae’r nyrs iechyd meddwl Nyri wedi deffro â phen mawr gyda dyn iau. Yn y cyfamser, mae Clara wedi datblygu winc cymhellol ac nid yw’n gallu cofio os yw wedi cymryd ei meddyginiaeth.

Mae angen i Nyri fynd i Ysbyty Glynebwy gan alw yn Greggs, ac mae Clara yn osgoi arwyddion – rhai anghwrtais iawn – sy’n dweud wrthi am ladd ei hun, fel y gall hi fwrw iddi gyda’i rhestr siopa i’r Diafol.

Mae For All I Care a Cotton Fingers yn ddwy fonolog o ‘’Love Letters to the NHS’, cyfres o fonologau a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2018 fel rhan o Ŵyl NHS70, dathliad National Theatre Wales o ben-blwydd y gwasanaeth yn 70.

Tra yng Nghaeredin, caiff For All I Care ei chyflwyno fel rhan o arddangosfa Caeredin – Dyma Gymru. Bydd Cotton Fingers yn cael ei chyflwyno fel rhan o Arddangosfa Caeredin y Cyngor Prydeinig 2019.

Mae National Theatre Wales yn dychwelyd i Ŵyl Ymylol Caeredin yr haf hwn ar ôl ymweld â sioeau megis Dark Philosophers, Wonderman a The Radicalisation of Bradley Manning – drama am y milwr Americanaidd a gafwyd yn euog o ryddhau cyfrinachau gwladol yr Unol Daleithiau i Wikileaks. Cyhoeddwyd cynhyrchiad NTW o Bradley Manning fel enillydd cyntaf Gwobr James Tait Black am ddrama yn yr ŵyl.

Bydd For All I Care yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd ar 24 a 25 Gorffennaf 2019 am 7.30pm. Pris y tocynnau yw £ 12/£10. Mae tocynnau bellach ar werth drwy’r Swyddfa Docynnau – 029 2030 4400/ www.chapter.org

Caiff For All I Care ei pherfformio ym Mhrif Neuadd Summerhall, Caeredin rhwng 31 Gorffennaf a 25 Awst (ac eithrio dydd Llun) am 1.30pm 0131 226 0000/https://tickets.edfringe.com/
Pris y tocynnau: £14 (£12 gost), £8 ar 1 Awst, £5 ar 31 Gorffennaf

Caiff Cotton Fingers ei berfformio ym Mhrif Neuadd Summerhall, Caeredin rhwng 31 Gorffennaf a 25 Awst (ac eithrio dydd Llun) am 12.15pm 0131 226 0000/https://tickets.edfringe.com/
Pris y tocynnau: £14 (£12 gost), £8 ar 1 Awst, £5 ar 31 Gorffennaf.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *