Dros y Pasg, bydd We Made This yn cyflwyno ei sioe newydd The Girl with Incredibly Long Hair, ailddychmygiad o Rapunzel, i Goed Duon a Chaerdydd.
Yn gynhyrchiad theatr uchelgeisiol ac ymdrochol i gynulleidfaoedd ifanc, bydd The Girl with Incredibly Long Hair yn agor yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar 4 tan 6 Ebrill 2018 cyn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 10 a 15 Ebrill 2018.
Gwahoddir teuluoedd i ymuno â Rapunzel a’i ffrind newydd, Daf, yn y goedwig wrth iddynt fynd ar antur i ganol y goedwig i gael eu hymdrochi yn ei golygfeydd, ei seiniau a’i harogleuon, gyda’r stori’n datblygu o amgylch y gynulleidfa. Sioe deulu newydd yw The Girl with Incredibly Long Hair gan We Made This sy’n ail-ddychmygu stori Rapunzel ar gyfer ein hoes, ac sy’n addo bod yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan.
Mae’r cast yn cynnwys Connor Allen (Daf), Rebecca Killick (Mam) a Roanna Lewis (Rapunzel), a’r cyfarwyddwr yw Matt Ball. Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Alison Neighbour (Dyluniwr), Elanor Higgins (Dyluniwr Goleuadau), Sam Jones (Dyluniwr Sain).
Meddai Matt Ball, y cyfarwyddwr;
“Pan oeddem yn creu Light Waves Dark Skies, gwnaethom ddechrau sgwrs ynghylch y straeon amser gwely rydym yn eu darllen i’n plant. Roedd hi’n rhwystredig i ni yn yr 21ain ganrif fod cynifer o lyfrau plant dal yn darlunio golwg hen ffasiwn iawn o’r byd. Sawl stori sy’n cynnwys tywysoges yn aros i gael ei hachub gan dywysog neu ferch sy’n hoffi ffrogiau disglair a bachgen sy’n hoffi bod yn fwdlyd?
O’r trafodaethau hyn y daeth The Girl with an Incredibly Long Hair; ailddychmygiad o Rapunzel, lle nad oes rhaid iddi gael ei hachub gan y tywysog. Dyma’r math o sioe rydym am i’n plant ei gweld ac ni allwn aros i rannu’r stori hon â chynulleidfaoedd ifanc a’u teuluoedd yn ne Cymru dros y Pasg.”
Bydd perfformiadau’n cynnwys perfformiad hamddenol yn y ddau leoliad sy’n agored i unrhyw un, ond fe’u bwriedir ar gyfer pobl sy’n ei chael hi’n anodd mynd i’r theatr, yn enwedig pobl sydd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig, anabledd dysgu neu anhwylder synhwyraidd a chyfathrebu. Bydd dau berfformiad Iaith Arwyddion Prydain gan Sami Thorpe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Cwmni yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithiol ein proses. Nid yw’r cwmni’n defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig oni bai fod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, mae wedi’i leoli ym Mhontypridd, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.
Manylion y perfformiadau
We Made This mewn partneriaeth â Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Dros y Pasg, dewch i ymuno â Rapunzel, ei mam a’i ffrind newydd, Daf, yn y goedwig wrth iddynt fynd ar antur. Bydd angen eich help chi arnynt. Sioe newydd i’r teulu yw The Girl with Incredibly Long Hair gan We Made This sy’n ail-ddychmygu stori Rapunzel ar gyfer ein hoes ni.
Wedi’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Creu Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
4 Ebrill, 4pm
5 Ebrill, 11am a 3pm
6 Ebrill, 11am (Perfformiad hamddenol a Thaith Gyffwrdd*)
* Uchafswm o 20 o docynnau ar gyfer y Daith Gyffwrdd, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 10.15am a 10.45am. Prynwch eich tocynnau drwy’r swyddfa docynnau.
Tocynnau: £5 / £3.50 (sy’n cynnwys ffi cadw lle o 50c)
Tocynnau a gwybodaeth: www.blackwoodminersinstitute.com / 01495 227206
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 5AL
10 – 15 Ebrill, 11am a 3pm
13 Ebrill, 11am a 3pm (Perfformiadau wedi’u Dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain)
14 a 15 Ebrill, 11am (Perfformiad Hamddenol a Thaith Gyffwrdd*)
* Uchafswm o 20 o docynnau ar gyfer y Daith Gyffwrdd, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 10.15am a 10.45am. Prynwch eich tocynnau drwy’r swyddfa docynnau.
Tocynnau: £7
Tocynnau a Gwybodaeth: wmc.org.uk