Addasiad Cymraeg o glasur Strindberg i fynd ar daith o amgylch Cymru yn ystod gwanwyn 2018.
Bydd addasiad Cymraeg newydd sbon Theatrau RhCT o ddrama glasurol August Strindberg, Miss Julie, yn mynd ar daith o amgylch lleoliadau yng Nghymru yn ystod y gwanwyn. Dyma gyfle prin i siaradwyr y Gymraeg fwynhau’r cynhyrchiad yma yn y Gymraeg.
Mae’r adfywiad gwefreiddiol yma o glasur bythol Strindberg, wedi’i addasu i’r Gymraeg a’i osod yng Nghymru ar droad yr 20fed ganrif, yn stori o angerdd a grym, lle mae rhwystrau dosbarth cymdeithasol ac agweddau cymdeithasol yn cael eu torri’n deilchion.
Mae Miss Julie wedi’i chyfarwyddo gan Gareth John Bale, sydd hefyd yn chwarae prif ran. Cafodd Gareth John Bale glod gan feirniaid yn ddiweddar am ei bortread gwefreiddiol o’r arwr rygbi a’r eicon diwylliannol Cymreig, Ray Gravell, yn ei sioe un dyn arobryn, Grav, a aeth ar daith o amgylch lleoliadau yng Nghymru ac sydd hefyd mewn theatr ‘Off Broadway’ yn Efrog Newydd ym mis Mawrth 2018. Mae modd ei weld yn aml ar y llwyfan ac ar y sgrîn, ac mae e’n actor llais profiadol hefyd. Mae’n rhoi ei resymau dros awch i berfformio yn y sioe yma: “Mae’n ddrama ryfeddol a naturiolaidd. Ers astudio’r ddrama am y tro cyntaf yn y coleg dwi wedi bod yn awyddus i gymryd rhan ynddi. Mae themâu’r ddrama, sef statws cymdeithasol, gwrthdaro rhwng y rhywiau ac agwedd y dramodydd tuag at fenywiaeth, yr un mor perthnasol nawr ag oedden nhw adeg ysgrifennu’r ddrama ym 1888. Efallai hyd yn oed yn fwy berthnasol. Mae cynifer o bethau yn y fantol yn y ddrama yma, ac mae hynny’n fy nghyffroi.
Mae tri chymeriad y sioe yn cyflwyno her i’r actorion ac i’r cyfarwyddwr. Y temtasiwn yw edrych arnyn nhw fel cymeriadau un dimensiwn, ond mae cymaint yn fwy na hynny iddyn nhw. Ein nod ni yw cloddio’n ddyfnach er mwyn deall beth sy’n digwydd i’r tri ar Noswyl Ifan.”
Mae Gwenllian Higginson hefyd yn ymddangos yn y sioe yn chwarae’r brif ran.
Mae Miss Julie yn gynhyrchiad Theatrau RhCT gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Dyma sioe gyntaf y cwmni o’u rhaglen reolaidd o berfformiadau theatr drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Rydyn ni’n falch iawn i allu cyflwyno addasiad i’r Gymraeg o ddrama glasur Strindberg, yn ogystal â chael cyfle i weithio â Gareth John Bale unwaith eto. Rydyn ni’n frwdfrydig iawn dros y cynhyrchiad yma. Dyma’r tro cyntaf i ni gynhyrchu sioe Gymraeg ei hiaith a mynd â hi ar daith o gwmpas Cymru – bydd hyn yn digwydd yn flynyddol o hyn ymlaen.
“Mae nod Theatrau RhCT yn un syml; sef creu a chyflwyno cynyrchiadau hygyrch o safon mewn partneriaeth â pherfformwyr a chymunedau, sydd hefyd yn berthnasol ac yn brofiad pleserus. Rydyn ni’n hyderus bod Miss Julie yn cyflawni’r nod hwnnw,” Angela Gould, Rheolwr Datblygu Rhaglenni’r Theatrau a Chynulleidfaoedd wng y Gymraeg.
Angela Gould, Rheolwr Datblygu Rhaglenni’r Theatrau a Chynulleidfaoedd
Dydd Iau/ Thursday 19 7.30pm.
Y COLISËWM ABERDÂR THE COLISEUM, ABERDARE 03000 040 444 rct-theatres.co.uk
Dydd Gwener/ Friday 20 7.30pm.
THEATR Y FWRDEISTREF, Y FENNI BOROUGH THEATRE, ABERGAVENNY 01873 850805 boroughtheatreabergavenny.co.uk
Dydd Sadwrn/Saturday 21 7.30pm.
CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN ABERTAWE TALIESIN ARTS CENTRE SWANSEA
01792 602060
taliesinartscentre.co.uk
Dydd Sul/Sunday 22
CHAPTER CAERDYDD CHAPTER CARDIFF 290 2030 4400 chapter .org.
Dydd Mawrth/ Tuesday 24 7.30pm.
SEFYDLIAD Y GLOWYR COED DUON BLACKWOOD MINERS’ INSTITUTE 01495 227206 blackwoodminersinstitute.com
Dydd Mercher/ Wednesday 25 7.30pm.
Y MINERS’ RHYDAMAN THE MINERS’ AMMANFORD 0845 2263510 theatrausirgar.co.uk
Dydd Iau / Thursday 26 7.30pm.
THEATR BRYCHEINIOG ABERHONDDU THEATR BRYCHEINIOG BRECON
01874 611622
brycheiniog.co.uk
Dydd Gwener/ Friday 27 7.30pm.
CAMPWS CYMUNEDOL GARTH OLWG GARTH OLWG COMMUNITY CAMPUS 01443 570075
Dydd Sadwrn/ Saturday 28 7.30pm.
Y LYRIC CAERFYRDDIN THE LYRIC CARMARTHEN 0845 2263510 theatrausirgar.co.uk
Dydd Iau/ Thursday 19 7.30pm.
Y COLISËWM ABERDÂR THE COLISEUM, ABERDARE 03000 040 444 rct-theatres.co.uk
Dydd Gwener/ Friday 20 7.30pm.
THEATR Y FWRDEISTREF, Y FENNI BOROUGH THEATRE, ABERGAVENNY 01873 850805 boroughtheatreabergavenny.co.uk
Dydd Sadwrn/Saturday 21 7.30pm.
CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN ABERTAWE TALIESIN ARTS CENTRE SWANSEA
01792 602060
taliesinartscentre.co.uk
Dydd Sul/Sunday 22
CHAPTER CAERDYDD CHAPTER CARDIFF 290 2030 4400 chapter .org
.
Dydd Mawrth/ Tuesday 24 7.30pm.
SEFYDLIAD Y GLOWYR COED DUON BLACKWOOD MINERS’ INSTITUTE 01495 227206 blackwoodminersinstitute.com
Dydd Mercher/ Wednesday 25 7.30pm.
Y MINERS’ RHYDAMAN THE MINERS’ AMMANFORD 0845 2263510 theatrausirgar.co.uk
Dydd Iau / Thursday 26 7.30pm.
THEATR BRYCHEINIOG ABERHONDDU THEATR BRYCHEINIOG BRECON
01874 611622
brycheiniog.co.uk
Dydd Gwener/ Friday 27 7.30pm.
CAMPWS CYMUNEDOL GARTH OLWG GARTH OLWG COMMUNITY CAMPUS 01443 570075
Dydd Sadwrn/ Saturday 28 7.30pm.
Y LYRIC CAERFYRDDIN THE LYRIC CARMARTHEN 0845 2263510 theatrausirgar.co.uk