Rydwi’n cofio’r tro cyntaf i mi weld Anweledig— ym mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog oedd hynny a dwi’n cofio cael fy nghyfareddu gan ddau beth, perfformiad eithriadol Ffion Dafis a sgript gyhyrog Aled Jones Williams. Dwi wedi bod yn lwcus i allu dilyn y gwahanol benodau yn hanes Glenda dros y blynyddoedd diweddar a dyma fachu ar y cyfle prin (does yna’m llawer o docynnau ar ôl) i fynd i weld y ddrama eto yn Eisteddfod Caerdydd.
Yng nghrombil hen fanc oedd y perfformiad, stafell dywyll, gyfyng, gyda ond lle i nifer gymharol fach o gynulleidfa a rheiny bron wrth draed Ffion Dafis. Roedd hyn wrth gwrs yn ychwanegu at agosatrwydd ac annifyrrwch yr oedd rhywun yn ei deimlo am yn ail. Dyma leoliad a oedd yn gweddu ar sawl ystyr— gweithio mewn banc oedd Glenda cyn iddi gael ei chyfnod o iselder yn un peth ac fe aeth yr awyrgylch gorthrymus law yn llaw â’r drafodaeth o iselder a’i effeithiau. Cyfeiriodd Glenda hefyd fod yr ystafell yn Ysbyty Dinbych yn un wen a mwya’r sydyn roedd rhywun yn sylwi mai waliau teils gwynion oedd o’n cwmpas ninnau.
Defnyddiwyd nodweddion eraill o’r ystafell wreiddiol, fel bariau’r folt, yn gelfydd gan Ceri James y dylunydd fideo a goleuo wrth i’w cysgodion gael eu taflu ar sgriniau. Taflunwyd delweddau eraill, y môr, tegeirian, pelydrau’r haul (yr haul mae rhywun yn ei gofio yn hytrach na’r un yn yr awyr) hefyd mewn dull ystyriol iawn o’r actio. Fel y gwaith sain gan Osian Jones doedd y nodweddion hyn ddim yn tynnu gormod o sylw at eu hunain, a gorau oll, cyd-fynd yn hytrach nac arwain oedd eu pwrpas nhw. Defnyddiwyd goleuo hefyd i ddynodi gwahanol adrannau o fewn y fonolog ac er bod y gwaith at ei gilydd yn dda iawn ac yn llwyddo i atgyfnerthu’r perfformiad, roedd y toriadau’n amlwg braidd ar brydiau a rhywun wedyn yn paratoi ei hun am newid yn y sgript bron cyn i hwnnw ddigwydd.
Un seml oedd y set hefyd, gyda adleisiau o lan y môr yn dywod a gwymon yn cael eu plethu gyda chadair ward ac ambell degeirian wen— eto’n ychwanegu heb dynnu sylw at ei hun a hynny am nad oedd angen dim byd arall mewn difri, dim ond Glenda.
Addaswyd rhai o’r darnau blaenorol yn y saga fel bod y monolog fymryn yn hirach na’r un cyntaf hwnnw welais i flynyddoedd yn ôl. Does yma’m dadl nad ydi Anweledig yn werth ei weld, roedd Ffion Dafis yn ysgubol, yn dal pob aelod o’r gynulleidfa yng nghledr ei llaw ac mae hi’n werth i unrhyw un ei gweld yn dod a Glenda yn ei holl gymhlethdod yn fyw o’u blaen. Nid ar chwarae bach mae dal angerdd ac egni emosiynol fel hwn am awr ond gwnaeth Ffion Dafis hynny’n feistrolgar. Llwyddodd Aled Jones Williams i wneud y peth prin hwnnw o roi mynegiant eglur i gyflwr hynod o aneglur ac mae’r ddeialog, weithiau’n cosi, weithiau’n colbio, yn naturiol farddonol a choeth.
Dwi wastad yn falch o gael y cyfle i weld Anweledig oherwydd y rhesymau hynny, heb sôn am nodweddion eraill newydd fel y rhai uchod ond fydd yna’r un perfformiad, waeth yn lle y bydd o, yn gallu cyrraedd goruchafion y cyntaf hwnnw y gwelais i ar glustog mewn stafell ym Mhlas Glyn y Weddw a hynny dim ond am mai hwnnw oedd y cyntaf welais i a’i fod o’n llachar yn ei newydddeb. Yn ei hanfod, mwy o’r un peth a geir yn Eisteddfod Caerdydd, ac er fod yr un peth hwnnw’n wych mae hi’n biti efallai iddo gymryd lle rhywbeth arall gwreiddiol, gwahanol. Mewn difri calon mae’n rhaid gofyn os ydi lleoliad gwahanol yng ngwaelod banc yn gyfiawnhad ynddo’i hun dros ail-bobiad. Wrth gwrs, chafodd pawb mo’r cyfle i weld y rheiny a gobeithio y bydd y gyfres hon o berfformiadau’n caniatáu i gynulleidfa ehangach gael gweld y ddrama. Ewch i weld Anweledig ar bob cyfri os hoffwch chi— fe gewch berfformiad solat, werth ei weld, ond efallai fod yna’r fath beth a gormod o beth da hefyd.
http://eisteddfod.cymru/eisteddfod-2018/manylion-digwyddiadau-ychwanegol/anweledig
The Independent Voice of Artists and Reviewers in Wales / Llais Artistiaid ac Adolygwyr yng Nghymru