Addasiad o gyfrol o lenyddiaeth yw drama ddiweddaraf Theatr Bara Caws, 5 cynnig i Gymro, a seiliwyd ar brofiadau John Elwyn Jones o’r Ail Ryfel Byd.
Dyfan Roberts yw awdur y ddrama, ac yntau hefyd sy’n chwarae rhan y prif gymeriad, ac mae i’w longyfarch ar y ddwy gamp. Gwelir ôl gwaith ymchwil trwyadl yma, ac mae’r cymeriad yn gydnaws â’r portread a geir yn y gyfrol.
Gall llwyfannu addasiad o ddarn o ryddiaith brofi’n gryn her oherwydd natur gwahanol y cyfrwng, ond mae’r disgrifiadau byw yn y gyfrol yn cynnig eu hunain fel rysáit delfrydol ar gyfer drama gref yn weledol. Yn hyn o beth, bu’r cyfarwyddo’n llwyddiant diamheuol.
Ynddi ceir hanes y bachgen ifanc o Ddolgellau yn ymuno â’r fyddin ar drothwy’r Ail Ryfel Byd, ond hen ddyn sy’n adrodd y stori ac yn dwyn i gof ei brofiadau. Yr hyn sy’n gwneud y cyferbyniad hwn rhwng ieuenctid a heneiddio yn fwy dirdynnol yw bod fersiwn ifanc o’r un cymeriad yn sefyll ochr yn ochr ag o ar y llwyfan yn dramateiddio ei stori, rhan a berfformir yn gelfydd gan Meilir Rhys Williams.
Tra bo rôl yr actor ifanc yn naturiol yn fwy corfforol er mwyn dangos asbri ieuenctid, cryfder pennaf Dyfan Roberts yw ei adnoddau lleisiol. Mae’n actor penigamp, a gwelwyd ystod ei brofiad yn ei ddehongliad o’r cymeriad fel un credadwy a chrwn, a gallwn uniaethu â’i gofnod o’r gorffennol yn sgil ei arddull ddi-flewyn ar dafod. Mae ganddo’r ddawn amheuthun i amseru’r dweud er mwyn consurio awyrgylch, gan amrywio tonyddiaeth ei lais hudolus a seibio’n bwrpasol.
Cafwyd dechrau gafaelgar gyda ffilm ddu a gwyn o fachgen ifanc yn rhedeg ar hyd caeau, ac ymddangosiad y prif gymeriad wedyn yn amlygu dau begwn plentyndod a henaint. Mae’n datgan ei fod eisiau rhannu ei stori gyda’r gynulleidfa, er nad yw’n hoffi pobl am eu bod fel magl iddo. Mae’r unigrwydd paradocsaidd hwn yn fwy dirdynnol fyth oherwydd presenoldeb y fersiwn ifanc ohono ef ei hun, gan ddwysáu’r teimlad o orfod dibynnu ar atgofion i adrodd hanes, er mor fyw ydynt yn ei gof. Mae’r ddeuoliaeth hon i’w gweld drwy gydol y ddrama yn y cyfnewid rhwng goleuni a thywyllwch, a’r dyn ifanc a’i afiaith yn mynd a dod yn ystod y naratif, fel atgofion ac isymwybod yr hen ddyn.
Mae’r actorion yn atgyfnerthu ei gilydd yn y ddyfais arbrofol hon, ond i mi roedd y rhannau ble nad oeddent yn dod i gysylltiad uniongyrchol â’i gilydd yn fwy trawiadol na phan oeddent yn uno i ddramateiddio digwyddiad yn ei fywyd – er bod hynny’n fodd o amrywio’r cyflwyniad. Gwell gen i fyddai cynnal cynildeb drwy gyfosod y ddau ar y llwyfan heb gydnabod ei gilydd drwyddo draw, er mwyn tanlinellu cyfnodau gwahanol. Wedi dweud hynny, gellid dadlau hefyd bod y gorffennol a’r presennol yn plethu drwy’i gilydd yn ei atgofion.
Gwelwyd goleuo hynod o effeithiol, a’r pendilio rhwng cysgodion a thywyllwch yn miniogi’r synhwyrau. Ar un adeg safai’r actor ifanc y tu ôl i’r sgrîn fel cysgod, a byddai rhagor o elfennau tebyg wedi cryfhau’r teimlad o absenoldeb yn gymysg â phresenoldeb y gorffennol.
Llwyddwyd i oresgyn peryglon llwyfannu monolog undonog a llonydd gan y symudiadau deinamig a’r golygfeydd cymharol fyr yn llifo’n rhwydd. Roedd y cyfuniad o hen ddyn yn myfyrio wrth sefyll ar ei ffon ochr yn ochr â dyn ifanc egnïol yn sicr yn argyhoeddi. Yn rhyfedd, er mai hiraethu am orffennol pell sydd yma ar un ystyr, llwyddir i osgoi gormod o hunandosturi yn y disgrifiadau o erchyllterau rhyfel yn sgil yr antur a nodweddai’r fersiwn ifanc, ond sydd wedi goroesi yng nghof y cyn-filwr.
Cafwyd disgrifiadau manwl o ryfel sydd wedi eu croniclo droeon mewn pob math o lenyddiaeth, ac felly ei stori bersonol yng nghyd-destun y brwydro a apeliai ataf. Roedd ei ymdriniaeth dyner o Celinka, Pwyles a briododd yn answyddogol, yn arbennig o gofiadwy. Ond wrth newid trywydd yn sydyn cawn ein hatgoffa o ffawd a thynged, cwestiynau y ‘petai’ a’r ‘petasai’, yr hyn a allai fod wedi digwydd. Wrth wau stori serch gyda realiti’r brwydro, cawn ein hatgoffa sut y gallai diffyg cyfathrebu neu beidio â derbyn gwybodaeth gywir arwain at lwybr cwbl wahanol ym mywyd unigolyn.
Roedd y set yn syml ac yn cynnwys cefnlen, sgrîn ar un ochr i’r llwyfan ble roedd y fersiwn ifanc yn ymddangos ac yn cuddio drachefn, ac ar yr ochr arall stafell fyw gyda silff lyfrau, bwrdd a desg fel lleoliad i’r prif gymeriad. Unwaith eto, roedd y cyfosod hwn yn nodweddiadol o ddalen lân ieuenctid o’i gymharu â pherson hŷn sydd wedi casglu geriach a’u cadw fel cofnod o hanes.
Ychwanegai’r gerddoriaeth gefndirol at y naws, yn enwedig y carolau Nadolig. Roedd yr iaith yn ffurfiol ar y cyfan, ac er na fyddai hyn o bosib yn apelio at rai pobl ifanc, roedd yn gweddu i’r cyfnod. Gellid ystwytho rhai ymadroddion efallai, megis ‘adnabûm’ er mwyn gwahaniaethu rhwng yr iaith lafar a’r llenyddol, ond ar y cyfan roedd y cyffyrddiadau hyn yn driw i’r gyfrol wreiddiol wrth i ni weld y byd drwy ei lygaid ef, a’i argraffiadau o bobl a gwledydd wedi eu portreadu yn y ffurf hon.
Arwyddocâd y teitl yw ymdrechion y prif gymeriad i ddianc o garchar rhyfel yn Ffrainc, yr Almaen a gwlad Pŵyl bum gwaith, ond datgelir haenau eraill o ystyr i ddihangfa hefyd, ysfa sydd wedi dylanwadu’n drwm ar ei fywyd. Er gwaethaf ei rwystredigaeth, mae’n dychwelyd at ei atgofion dro ar ôl tro fel rhyw faeth sy’n gynhaliaeth iddo, a’r tueddiad i grwydro yn ei blentyndod yn parhau yn nheithiau’r cof. Er gwaethaf ei ddewrder a’i fywyd cyffrous, yr unig ffordd y gall deimlo fel arwr bellach yw drwy ail-fyw ei brofiadau gyda’r gynulleidfa. Er bod elfennau hunangofiannol yn hanes John Elwyn Jones, mae plymio i ddyfnderoedd ei enaid hefyd yn rhoi darlun ehangach i ni o effaith rhyfel ar fywydau ac unigolion.
Dyma gyfraniad gwerthfawr i’r drioleg am ryfel gan Theatr Bara Caws. Edrychwn ymlaen at yr olaf yn y gyfres.