Dyma gyfanwaith caboledig sy’n fersiwn deilwng o’r glasur enwog ‘Mamma Mia’. Cynhyrchiad lliwgar a hwyliog, a oedd yn drawiadol ar sawl ystyr.
Rhybuddiwyd ni ar y dechrau bod llawer o lycra i’w weld yn y perfformiad, ac yn wir cafwyd mwy na digon o hwnnw yn ystod y ddwy awr! Dyma sioe gerdd adnabyddus iawn erbyn hyn oherwydd ei hapêl eang. Prin y ceir cynhyrchiad sy’n gallu apelio at bob oedran, ond gwelwyd cymysgedd o blant, oedolion a phobl hŷn yn y gynulleidfa.
Lleolir y stori ar ynys yng ngwlad Groeg. Mae merch ugain oed yn chwilio am ei thad, ac ar noswyl ei phriodas, ceir parti enfawr ble mae tri o ddynion a allai fod yn dad iddi ymysg y gwahoddedigion. Er bod y fam yn gorfod wynebu ei gorffennol a’r ferch yn dod i delerau â’i hunaniaeth, does dim yn drwm nac yn ddwys am y sefyllfa. Cafwyd llawer o hiwmor gan ffrindiau’r fam, ac mae cariad a chyfeillgarwch yn themâu sy’n disgleirio drwyddo draw.
Roedd Canolfan y Mileniwm dan ei sang gyda chaneuon Abba, sy’n cael eu defnyddio fel cyfrwng i adrodd y stori.
Tyst i fwrlwm y canu a’r dawnsio oedd bod nifer o’r gynulleidfa’n symud yn reddfol rhythmig drwy gydol y perfformiad. Roedd y canu mewn grŵp yn wirioneddol ddyrchafol, a’r cydsymud yn atgyfnerthu grym y lleisiau. Yr uchafbwyntiau i mi oedd ‘Gimme, Gimme, Gimme’ a ‘Lay all your love on me’. Roedd ‘Waterloo’ ar y diwedd hefyd yn gofiadwy. Hoffais yn fawr rai o ganeuon llai adnabyddus gan Abba.
Er bod yr adnoddau lleisiol yn wych, weithiau teimlais fod yr unawdau yn dioddef problemau traw. Roedd llais y prif gymeriad hefyd braidd yn galed ar adegau, a’r sain efallai’n rhy gryf ar gyfer rhai caneuon, er nad oedd cynildeb yn nodwedd o’r sioe wrth gwrs! Byddai amrywio dynameg wedi ychwanegu at y caneuon yn fy marn i. Roedd y dawnsio grŵp yn wledd i’r lygad, ond efallai bod coreograffi’r unigolion wedi ei or-wneud ar adegau. Ond wrth gwrs, gormodedd ac afiaith sy’n gyrru’r holl gynhyrchiad! Yn aml, doeddwn i ddim yn dilyn y llinell storïol, ond credaf mai’r canu a’r dawnsio yw craidd y sioe gerdd beth bynnag.
Mae’n rhaid canmol effeithiau arbennig y cynhyrchiad, yn enwedig y golau. Fe’i defnyddiwyd yn bwrpasol, a’r fflachiadau o liw yn dwysáu’r hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan. Roedd y sain hefyd yn effeithiol, a’r canu i gyfeiliant cerddoriaeth gefndirol yn rymus.
Hoffais symlrwydd y set, gan fod mwy na digon yn digwydd fel arall, a gwnâi pob perfformiwr ddefnydd llawn o’r gofod. Symudent yn hwylus, gan lenwi pob cornel o’r llwyfan. Un o’r nodweddion mwyaf trawiadol oedd y gwisgoedd ysblennydd, a’r lliwiau’n gweddu’n berffaith â bywiogrwydd y canu a’r dawnsio.
Weithiau teimlais fy hun yn cymharu’r cynhyrchiad â’r ffilm, ond mae gan y ddau gyfrwng eu rhinweddau. Efallai nad oedd yr hiwmor yn treiddio i’r gynulleidfa cymaint ag yr oedd yn y ffilm, ond yn sicr credais fod y sioe gerdd yn fwy byw wrth gyfathrebu â’r gynulleidfa. Gwerthwyd y cynhyrchiad fel un ‘feel-good’, ac yn bendant gallaf ddweud ei fod wedi llwyddo yn ei amcan gan fy mod yn canu’r caneuon yn fy mhen yn ystod y diwrnod canlynol. Alla i ddim dychmygu unrhyw un yn gadael y theatr yn benisel ar ôl rhannu eu hasbri. Roedd fel un parti diddiwedd.
wmc.org.uk