Bwriad y cynhyrchiad ‘Merch yr Eog’ oedd creu rhywbeth beiddgar a mentrus. Dyma gydweithrediad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ffrwyth y cydweithio hwn yw drama amlieithog sy’n cynnwys y Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg. Gall y di-Gymraeg hefyd ei mwynhau drwy ddefnyddio’r ap Sibrwd.
Cefndir y stori yw’r cymeriad Mair a’i thaith emosiynol wrth iddi ddychwelyd i gefn gwlad Cymru ar gyfer angladd deuluol. Pan ystyrir gwerthu’r fferm, teimla gyfrifoldeb a dyletswydd i warchod y rhan hon o’i hetifeddiaeth. Mae’r hiraeth am ei chynefin yn ei sbarduno i gwestiynu ei bywyd yn Llydaw, a gwelwn densiwn rhwng ei magwraeth wledig a’i phresennol dinesig. Caiff drafferth hefyd ymgodymu ag effeithiau’r newid byd ar ei pherthynas â Loeiza, a braf oedd gweld y theatr gyfoes yn archwilio perthynas hoyw – yn enwedig ochr yn ochr â thema draddodiadol gadael bro enedigol amaethyddol. Wrth iddi wynebu tyndra rhwng ei gorffennol a’i dyfodol, sefyllfa sy’n effeithio ar nifer ohonom, mae’n chwilio am arwydd i’w chynorthwyo i wneud y penderfyniad cywir. Craidd y ddrama yw’r diffyg cyfathrebu ac uniaethu a ddaw yn ei sgil.
Mae’n rhaid cyfaddef nad oeddwn yn gwbl argyhoeddedig o neges y ddrama. Er bod rhwydd hynt i bob unigolyn ddehongli themâu fel cariad a pherthyn a gawsai eu harchwilio yma, teimlais fy hun yn cael trafferth deall arwyddocâd rhai rhannau. Rwy’n croesawu’n frwd y cydweithio ar lefel rhyngwladol gan fod angen llawer mwy o hyn yn ein byd amlddiwylliannol yn fy marn i, yn enwedig y cyfle i gymharu nodweddion theatrig y diwylliannau Celtaidd. Roedd y berthynas rhwng Cymru a Llydaw yn amlinellu sefyllfa’r alltud fel sy’n gyffredin i gymaint mewn byd mor symudol. Roedd yr elfen hon hefyd yn amlygu sut y gall hunaniaeth amlochrog gyd-fyw y tu mewn i ni, a sut y mae sawl lle gwahanol yn bwysig i ni.
Fodd bynnag, mae’n rhaid cyfaddef bod cymaint o gydweithio wedi llesteirio llais a gweledigaeth i ryw raddau, yn fy marn i. Gwelwyd ôl paratoi a meddwl dygn yma, ond roedd partneriaeth ym mhob cam o’r broses – o’r ysgrifennu i’r cyfarwyddo – efallai’n cymylu’r ystyr. Mae’r ddrama sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourges yn cynnwys llawer o gymysgu lleisiau. Roedd gan y cyd-gyfarwyddwyr Sara Lloyd a Thomas Cloarec yn amlwg lawer i’w gynnig, ac roedd plethu dau ddiwylliant theatrig yn esgor ar bosibliadau ffrwythlon iawn. Tra bo’r Cymry yn rhoi cymaint o bwyslais ar eiriau, mae’r Llydawyr yn rhoi bri ar y gweledol a’r corfforol, ac roedd y plethiad hwn yn amlwg yn y perfformiad – er bod hynny yn arwain at ddiffyg cysondeb rhwng dwy arddull.
Gwnaed y penderfyniad yn fuan yn y broses i beidio â chyfieithu pob gair yn llythrennol, ond teimlais fy mod yn colli pwysigrwydd y ddeialog o’r herwydd. Yn hytrach, rhoddwyd braslun o’r hyn oedd yn digwydd ar y sgrin, a olygai fy mod yn colli’r symudiadau ar lwyfan ar adegau. Gan nad oedd angen dilyn pob gair, golygai hyn hefyd bod y tempo araf yn peri imi golli diddordeb o bryd i’w gilydd. O’r herwydd, teimlais na allwn bob amser uniaethu â chymeriadau o gig a gwaed, ond wrth gwrs mae’n bosib ein bod fel Cymry wedi arfer dod i adnabod pobl drwy gyfrwng eu geirio yn hytrach na’u hystum.
Roedd y set yn effeithiol, yn enwedig yr ynys o graig yn y canol a’i gyfoeth o ddehongliadau. Bu’r sgrin fel cefnlen hefyd yn fodd i ddwysáu’r digwydd. Defnyddiwyd effeithiau golau a sain i’w llawn botensial, yn enwedig y defnydd o olau coch. Llwyddwyd i greu awyrgylch iasol gyda’r sain, a’r gerddoriaeth yn cyd-fynd yn bwrpasol gyda natur yr olygfa. Efallai bod rhai golygfeydd yn rhy ffuantus a ffarsaidd at fy nant i, ac nid oeddwn yn llwyr argyhoeddedig ynghylch arwyddocâd yr elfennau absẃrd a grotesg. Roedd symbolaeth yr eog hefyd braidd yn ddirgelwch imi, yn enwedig gan mai dyma sail y cynhyrchiad. Serch hynny, roedd y naws farddonol ar y dechrau a’r diwedd yn drawiadol.
Er fy mod yn croesawu’r uchelgais i dorri tir newydd a’r cysyniad cefndirol a roddodd fod i’r prosiect, efallai bod arbrofi gormod wedi peri i graidd y stori fynd ar goll yn fy marn i. Serch hynny, bydd cyflwyno’r gwaith yn Llydaw yn gam mawr ymlaen er mwyn rhoi theatr Cymru ar y map mewn gwledydd eraill.
http://theatr.cymru/portfolio/merch-yr-eog-merch-an-eog