Jeremy Turner: Cwmni Theatr Arad Goch – Ar daith yn Ffraic a Chatalonia, Medi-Hydref 2016

January 24, 2017 by

Mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi bod yn creu a chyflwyno theatr i gynulleidfaeodd ifanc yng Nghymru ers 1989, yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae cydweitho rhyngwladol a theithio tramor wedi bod yn elfennau pwysig yn ein gwaith: ym 1996 fe drefnon ni’r ŵyl AGOR DRYSAU-OPENING DOORS Wales International Festival of Theatre for Young Audiences gyntaf; ym 1996 fe wnaethon ni ein teithiau tramor cyntaf i berfformio yn Iwerddon a Denmarc, ym 1997 i’r Unol Daleithiau a Chanada, ac ym 1998 i Singapore.

Rydyn ni’n deall llawer o’r pethau ymarferol ynglŷn â theithio rhyngwladol; rydyn ni’n gwybod pa mor flinedig ac anodd mae’n gallu bod; a gwyddom ei bod yn ffordd wych o gwrdd a rhannu, ffordd o allu ystyried eich gwaith eich hun o fewn cydestun newydd.

Ond ein cynulleidfaoedd pwysicaf yw plant a phobl ifanc Cymru: rydyn ni’n perfformio i, neu yn darparu cyfleoedd cyfranogol i tua 25,000 o bobl bob blwyddyn. Rydym yn chwilio, arbrofi a chreu ffyrdd newydd o greu gwaith newydd yn barhaus.

Yn 2010 fe ddechreuom brosiect tymor-hir er mwyn (i) ystyried ffyrdd newydd o greu theatr gyfranogol, wahanol a seicolegol i blant bach (ii) gan ddefnyddio gwrthrychau cyffredin: mae’r trioleg wedi defnyddio cerrig a thywod, dail a phren, a deunyddiau meddal. Yr Hydref diwethaf aeth un o’r drioleg, BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN / WHERE THE LEAVES BLOW sy’n defnyddio pren a dail, i deithio yn FFrainc am bedair wythnos; fe fydd ar daith eto yn FFrainc yn 2017 am chwech wythnos.

 

 

Diwrnod 1 yn fan Arad Goch yn Ffrainc gyda Ffion Wyn Bowen, Aaron Davies a Jeremy Turner.

Dechrau’r daith hir: canol y byd yw Aberystwyth felly mae’n bell o bobman ac rydyn ni’n hen gyfarwydd â theithio pellteroedd hir. Yn aml iawn fe glywn gydweithwyr yn cwyno am orfod teithio i gyfarfodydd yn yn Canolbarth oherwydd bod y daith yn hir:  Wel calliwch!

Gyrru ar draws Cymru a Lloegr a dan y twnel (yr unig beth o werth adawodd Thatcher) i gyrraedd ein gwesty yn Berthune ar ôl i’r bwyty gau – felly dim byd amdani ond McD. O siom!

 

Diwrnod 2 yn fan Arad Goch yn Ffrainc.

Dilyn y traffyrdd ar draws Gogledd Ffrainc – Normandie, y Somme ac, yn raddol, mewn i ardal Champagne; gyrron ni’r ffordd yma ac yn ôl ddwywaith yn barod eleni i berfformio yn Epinal a Dijon – felly rydyn ni’n dechrau adnabod y llefydd bwyd-a-thanwydd-ochr-y-draffordd gorau erbyn hyn; gyrru da a thywydd da, ond cafodd Aaron dipyn o sioc wrth dalu’r doll mewn Peage a finne’n dweud wrtho i ofyn am dderbyneb – yn Ffrangeg! Hwn fydd ‘debut’ Aaron yn BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN / LÀ OÙ VOLENT LES FEUILLES  gan iddo ddysgu’r rhan  ar gyfer y daith hon sy’n agor yn Ffrainc cyn dychwelyd i gael ei pherfformio yng  Nghymru eto. Crewyd y rôl yn wreiddiol gan Gethin Evans (a’i perfformiodd yng Ngymru, Rwsia a Tiwnisia) ac wedyn gan Mark Roberts (a’i perfformiodd yng  Nghymru, De Korea a Frainc). Mae Aaron yn gweithio gyda’r actores brofiadol Ffion Wyn Bowen – a gyfrannodd at y gwaith ymchwil a pharatoi cynnar ar gyfer y cynhyrchiad a sydd wedi gwneud pob un o’r teithiau. Fe yrrodd Ffion rhan o’r ffordd heddiw, ond heblaw hynny roedd hi’n dawel yn y seti ôl yn y fan yn gwylio ffilmiau – lot o ffilmiau! Rhan ola’r daith – gadael y traffyrdd a dringo yn uchel ar ffyrdd bach ardal fynyddig y Jura yng Ngogledd-Ddwyrain Ffrainc i’r Hôtel Lacuzon yn Moirans-en-Montagne, mewn da bryd i gael gwers Ffrangeg fach a diod ar y sgwâr cyn cael bwyd da a chroeso cynnes iawn yn y gwesty. Tref fach a thawel yw Moirans-en-Montagne ble mae llawer o ffatrïoedd gwneud tegannau.

 

Diwrnod 3 yn fan Arad Goch yn Ffrainc.

Dro bore Dydd Sul o gwmpas y dref – ynte pentre? – i ffindio’r Salle de Fêtes ble byddwn ni’n perfformio; wedyn cerdded i weld y llynoedd – enfawr, fel drych ar ben mynydd. Coffi mewn bwyty yn uchel uwchben y llyn cyn mynd nol i’r Salle de Fêtes i gwrdd â Paul a Toni ein technegwyd hyfryd a chymwynasgar am yr wythnos. Roedden nhw wedi bod i’r fforestydd o gwmpas y pentref i gasglu dail a brigau ar gyfer y perfformiad; pob tro mae BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN wedi bod tramor mae’r trefnyddion a’r technegwyr lleol wedi mwynhau cyfrannu at y sioe drwy gasglu pethe naturiol lleol – ffordd hyfryd o ddechrau sgwrs am yr ardal a’i phobl, ac o wneud ffrindiau newydd yn gyflym iawn. Gosod y set a goleuo mewn dwy awr yn union – diolch, Paul a Toni. Gwers Ffrangeg fach arall ac aperitif cyn cael croeso mawr eto gan ddyn y bwyty a bar. Barod ar gyfer 2 berfformiad yfory – cyffrous.

 

Diwrnod 4 yn fan Arad Goch yn Ffrainc.

Codi’n sionc heddiw i adael Hôtel Lacuzon yn Moirans-en-Montagne. Y pentre’n brysurach heddiw gyda rhieni yn mynd â’u plant i’r ysgolion lleol: tybed faint o rhain byddwn ni’n eu gweld nes ymlaen yn y theatr. Wrth gerdded o’r gwesty at y fan roedd nifer o’r plant bach wedi fy nghyfarch  ‘Bonjour, monsieur’: prin y byddai hynny’n digwydd ym Mhrydain bellach.

Mae’r Salle de Fêtes yn Moirans-en-Montagne yn hyfryd: adeilad modern gyda gofod theatr fawr a neuadd aml- bwrpas chwaethus. Mae trefnyddion ein hymweliad www.cotecour.fr – diolch iddynt – yn cynnal digwyddiadau celfyddydol ar hyd y flwyddyn yn yr ardal wledig hon: gwych. Erbyn hyn rydyn ni wedi perfformio’r sioe mewn nifer o wyliau mawr –  yn Rwsia, De Corea, Tiwnisia, Ffrainc a Catalwnia; ond mae’r daith hon yn wahanol – rydyn ni’n ymweld â chymunedau bychain i berfformio i’r bobl leol. Ers talwm roedd yr arfer o theatr gymuned yn gryf yng Nghymru gyda nifer o gwmnïau yn pasio’i gilydd mewn hen faniau i berfformio mewn neuaddau tref a phentref ar wahoddiad cymdeithasau a chlybiau lleol. Ond erbyn hyn, gyda mwy o arian yn mynd ar weithgareddau diwylliannol mawr mewn canolfannau celfyddydol, mae’r theatr gymuned yng Ngymru yn denau iawn – gyda dim ond Bara Caws ac Arad Goch yn parhau yn gyson i fynd i gynnal teithiau i gymuned lleol. Trueni. Da gen i weld yr arfer yn ffynnu yn Ffrainc a’r arianwyr yn cydnabod gwerth y celfyddydau yn agos at y bobl.

Mae gweld perfformiadau o’n gwaith ein hunain mewn diwylliant neu wlad neu iaith arall yn ein galluogi i’w weld o’r newydd. Yn Rwsia roedd pobl yn gweld MAE’R DAIL YN HEDFAN fel stori am wrthdaro; yn Tiwnisia stori am gymodi oedd hi. Nawr, gyda chynifer o furiau ffisegol a gwleidyddol yn cael eu codi i rwystro pobl estron rwy’n gweld ein sioe fel drama am ffoaduriaid a brodorion yn ceisio deall ei gilydd a darganfod ffyrdd o gydfyw. Mewn un o’r golygfedd mae PEGI yn creu llinell neu wal i rwystro DERI rhag dod yn agos ati; mae’r ymateb gan y gynulleidfa ifanc yn gymysg: rhai, yn reddfol, am i’r naill amddiffyn ei thiriogaeth yn erbyn y llall; eraill yn siomi bod y berthynas chwareus yn dod i ben: a’r naill garfan a’r llall fel petai yn cydnabod safbwynt ei gilydd.

Dechreuodd un bachgen grio, wrth i’r ddau gymeriad ddechrau ymateb yn elyniaethus i’w gilydd: am wn i roedd e’n synhwyro’r tyndra a’r gwrthdaro – a doedd e ddim eisie gweld mwy.

Ar ddiwedd y sioe mae’r ddau gymeriad yn cymodi a’r gynulleidfa yn eu helpu i greu cartref newydd; try hyn yn 20 munud o chwarae dyfeisgar a chreadigol gyda dim byd ond dail, brigau a phren. Hyfryd i’w wylio!

Ar ôl dau berfformiad, tynnu’r set a theithio yn uwch fyth i Saint Claude – tref yng ngeseiliau troellog mynyddoedd garw y Jura.

 

Diwrnod 5 yn y fan yn Ffrainc gyda Ffion Wyn Bowen, Aaraon Davies a JT

Gyrru heddiw i Molignes, pentre bach, bach i fyny yn y mynyddoedd. Roedd ein technegwyr Jurrassic, Paul a Toni, wedi gadael hen ddigon o amser i osod y set a gyda dim byd arall i’w wneud yn y pentref – h.y. dim byd! – cafodd yr actorion hoe haeddiannol yn yr haul. Roedd y sioe brynhawn yma’n hyfryd, y plant yn fywiog ac yn creu naratif i’r stori wrth iddi ddigwydd: rydyn ni wrth ein boddau yn eu clywed nhw yn siarad ymysg ei gilydd am y sioe – weithiau’n rhagweld rhywbeth, weithiau’n rhesymu emosiwn neu ymddygiad, weithiau’n gweld bai cyn difaru eu bod nhw wedi cefnu ar un o’r cymeriadau – ond fel ‘na mae bywyd, ynte: mae eu cydymdeimlad fel pendil rhwng y ddau cymeriad. Cawson ni waith celf ffantastig gan rai ohonyn nhw ar ddiwedd y sioe (mae’r gynulleidfa yn cael eu gwahodd i helpu’r cymeriadau i addurno’u ‘ty newydd’ gyda’r darnau pren, brigau a dail); er gwaetha’r ffaith fod 70 o blant yn gweithio mewn lle cyfyng iawn roedden nhw’n ofalus iawn o’i gilydd a’u hymwybyddiaeth gofodol yn gryf iawn. Tua awr ar ôl i’r perfformiad orffen daeth un o’r athrawesau ‘nôl; roedd hi wir eisiau trafod y perfformiad, cael mwy o wybodaeth am drefnu mwy o berfformiadau yn y dyfodol, ac yn holi a ydyn ni’n perfformio i blant a chanddynt anghenion arbennig; fe ddisgrifiodd y perfformiad yn ‘très poetique’. Hyfryd cael sgwrs gydag athrawon sy’n gweld potensial y fath yma o waith

 

Diwrnod 6 yn Fan Arad Goch yn Ffrainc.

Dim angen gosod y set heddiw felly amser i bacio’n bagiau cyn gadael y gwesty i wneud yr ail sioe yn Molignes.

Perfformiad hyfryd arall gan Ffion ac Aaron – mor ffres ag erioed a’r plant yn sicrhau bod y newydd-deb yn parhau. Yn rhedeg drwy’r stori mae ‘na linyn seicolegol cryf am wrthdaro, hunanoldeb, diniweidrwydd, dieithrio; ond mae’r plant bach yn gallu ymdopi â hyn; maen nhw’n gwylio, ymateb, cynghori, dadansoddi, rhoi sylwadau – a thyfu. Fel arfer ar ddiwedd y perfformiad rwy’n gwylio’r gynulleidfa yn helpu’r cymeriadau i addurno’u cartref newydd gan greu lluniau a phatrymau gyda dail a brigau; ond heddiw camais i mewn i annog cwpwl o blant swil i ymuno drwy rannu darnau o bren gyda nhw a dechrau creu lluniau bach; cyn bo hir roedden nhw wedi ymgolli yn llwyr – a finnau hefyd.

Tynnu’r set yn gyflym ac wedyn gyrru i fyny i fyny i fyny ac i fyny eto i uchelfannau’r Jura. Ffordd droellog iawn, iawn: peidied neb a dweud bod y ffordd o Landysul i Bencader yn anodd (er roedd y ffordd hon, a’i golygfeydd gwych, llawer mwy diddorol na Phencader – sori Pencader, dim byd personol)!

Cyrraedd Les Rousses, gosod y set yn hwylus yn y neuadd fawr, hyfryd, aml-bwrpas a modern (pam nad ydyn ni’n adeiladu mwy o rhain yn nhrefi a phentrefi Cymru yn lle gwario’n wyllt ar ‘ganolfannau’ trefol a dinesig?!?) cyn cael awr fach brin i fod yn ymwelwyr a chrwydro’r pentre mynyddig pert hwn, a’i adeiladau pren.

Cyrraedd gwesty Le Gai Pinson sy’n edrych dros y mynyddoedd. Yn fy ‘stafell i mae gwely mawr a dau wely bync ac arnynt gwrlidau traddodiadol wedi’i gwehyddu gyda lluniau o eirth tedi yn sgïo – efallai gysga i o dan un o rheiny! Cawson ni swper gyda Paul y technegydd yn y gwesty heno – grêt cael cyfle i drafod ein gwaith yn hamddenol (er roedd yn rhaid ei atgoffa taw nid Saeson yw’r Cymry: mae’n deall yn iawn nawr!)

Mae mynydd uchel yn y pellter.

 

Diwrnod 7 yn Fan Arad Goch yn Ffrainc.

Perfformiad gwych arall y bore ‘ma. Y plant yn dawel iawn i ddechrau ond yn eu tro fe ffindiodd pob un rywbeth gwahanol oedd yn apelio a’u tynnu nhw mewn i’r stori a’r digwyddiadau emosiynol. Does dim llawer o iaith yn BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN / LA OU VOLENT LES FEUILLES ac mae pob ystum a sŵn gan yr actorion yn bwysig. Erbyn 10 munud ar ôl dechrau’r perfformiad roedd pob un wedi ymgolli a’r gwaith ‘addurdno’ ar y diwedd yn gyfoethog iawn. Sylwais ar un grŵp o fechgyn, tua 7 ohonynt, a ddechreuodd gydweithio fel tîm yn reddfol heb drafod: rhai yn casglu, rhai yn trefnu, rhai yn arsylwi ac awgrymu: gwych!

Daeth Jerome, un o gyfarwyddwr Cote Cour a drefnodd ein taith, i weld y perfformiad: wrth ei fodd eto, diolch byth. Dros baned o goffi ar ôl y perfformiad dechreuodd drafod ein gwahodd nol yn 2017 neu 2018; tybed a fydd teithio i weithio yn Ewrop mor hawdd erbyn hynny ar ôl penderfyniad hurt Brexit.

Wedyn prynhawn ‘ma i’r mynydd! Doeddwn i ddim wedi dod â ‘sgidiau cerdded na ffon (pan ga i amser rhydd adre’ rwy’n cerdded Llwybr Arfordir Cymru), felly bu’n rhaid ymweld â rhai o siopau hyfryd Les Rousses cyn dechrau cerdded i fyny un o fynyddoedd ucha’r Jura. Tipyn o lethr i fi, ond Ffion ac Aaron yn bell o’m blaen: roedd yr olygfa o’r copa yn werth yr ymdrech – golygfa ar draws Llyn Geneve i Ffrainc, y Swistir, Awstria a’r Eidal gyda Mont Blanc yn y pellter. Picnic o fara ffres a chaws Comté lleol o siop fach yn y pentre cyn dod ‘nôl lawr. Wrth gwrs bu’n rhaid i Aaron a fi dorri syched ar beint o gwrw lleol cyn cyfarfod i drafod gwaith yfory.  A fel mae Ffion yn dweud yn aml – ‘Braf ein byd ni, bois’.

 

Diwrnod 8 yn fan Arad Goch yn Ffrainc.

Mae hi wedi bod yn wythnos wych gyda pherfformiadau i dros 500 o blant a’u hathrawon mewn pentrefi mynyddig yng Ngogledd-Ddwyrain Ffrainc.

Yma rydyn ni wedi perfformio yn Saesneg a Ffrangeg. Parch Mawr i Ffion Wyn Bowen a greodd gymeriad Pegi a sydd wedi dysgu’r rhan yn Rwsieg, Coreeg, Arabeg, Catalaneg, Ffrangeg ac, wrth cwrs Saesneg a Chymraeg. Llongyfarchiadau hefyd i Aaron Davies am gymryd y rhan a chreu ei fersiwn hyfryd ei hun o gymeriad Deri.

Mae’n bleser cael gwylio’r sioe o hyd a gweld ymateb y plant. Yn y perfformiad olaf yn Les Rousses roedd un crwt bach a’i geg ar agor mewn syndod am 10 munud cynta’r perfformiad ac wedyn gwen mawr yn tyfu wrth i Pegi sôn am y ‘mouton dansant et l’arc en ciel’ – ‘enfys a dafad yn dawnsio’.

O fewn yr awr mae’n cymryd i berfformio’r sioe rydyn ni a’r gynulleidfa yn creu byd newydd – byd amgen o fwynhad a chwarae a chreu – gyda dail, pren a llond basged o ddychymyg yn troi yn gegin, ty, car, milwr, brws, cyw bach, llygoden, nyth a, pan dry’r chwarae yn chwerw, wal i rwystro cyfeillgarwch.

Ac mae ‘na daith emosiynol hefyd: bodlonrwydd, gobaith newydd , ansicrwydd, amddiffyn, herio, gwrthdaro, ymosod, colli parch, siom, dinistrio, unigrwydd, cyfaddawdu, cymodi a gobaith newydd eto. Mae’n siwr bod pob un disgybl yn gweld tameidiau bach o’u profiadau’u hunain rhywle yn y stori. Creu drych profiad ac agor drws dychymyg yw gwaith Arad Goch.

Sawl gwaith yr wythnos hon mae athrawesau wedi dod ataf ar ddiwedd y sioe gan rannu eu syndod at ymateb a chreadigolrwydd eu disgyblion. Rhowch lond fasged o bren a dail a digon o ryddid i blant ac fe grean’ nhw fyd llawn gobaith.

Mae rhan yma’r daith wedi dod i ben i mi. Mae Simon Lovatt, Rheolwr Techengol y cwmni, wedi cyrraedd a bydda i’n dychwelyd  i Aberystwyth i weld un arall o gynyrchiadau Arad Goch i bobl Ifanc sef, KING HIT / Y GLEC  a  gynhyrchwyd ar y cyd â Zeal Theatre o Awstralia ac a berfformir gan Rhodri Sion a Llyr Edwards. Bydd Ffion, Aaron a Simon yn parhau i deithio a pherfformio yn Ffrainc. Fe wela i nhw nesaf yng ngŵyl Fiet Sa Xerxa ym Mallorca pan fyddwn ni’n perfformio OES RHAID I MI DDEFFRO / DO I HAVE TO WAKE yn yr iaith Gatalan.

‘Dyw’r teithio rhyngwladol yma ddim yn digwydd yn rhwydd.  Bu’n bosib oherwydd buddsoddiad Cyngor y Celfydyddau yng ngwaith Arad Goch ac oherwydd cefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’n galluogodd i fynd â’r cynhyrchiad dramor y tro cyntaf i Rwsia – a phedair mlynedd o waith gan Arad Goch wrth hyrwyddo, trafod, a gwerthu’r cynhyrchiad i farchnad y tu allan i Gymru. Mae’n bwysig, bwysig iawn, i ni hyrwyddo diwylliant Cymru ochr yn ochr â d

Leave a Reply