Cwmni August 012, Of Mice and Men

September 11, 2017 by
 Mae August 012 yn falch i gyhoeddi manylion cynhyrchiad nesaf y cwmni, Of Mice and Men gan John Steinbeck. Bydd y cwmni gwobrwyol August 012 mewn cydweithrediad â Hijinx yn archwilio monolith Americanaidd John Steinbeck, gan berfformio yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yn ystod mis Hydref.

Mae Lennie yn gryf ac yn ddiniwed. Mae George yn fyr ac yn siarp. Gweithwyr fferm mudol ydyn nhw. Mae’n gyfnod y Dirwasgiad Mawr. Mae arogl chwys ym mhobman. Caiff cŵn eu saethu. Caiff pobl dduon eu dienyddio, a phuteiniaid yw’r merched. Mae Lennie a George yn trafod byw’n dda oddi ar y tir, yn magu cwningod a bwyta tartenni llus Modryb Clara.

Mae’r cast yn cynnwys Wil Young sydd yn chwarae rhan Lennie. Mae Wil yn aelod o gwmni Academi y Gogledd Hijinx, un o bump Academi yng Nghymru sydd yn hyfforddi oedolion ag anableddau dysgu ac/neu awtisiaeth i ddod yn actorion proffesiynol. Bydd Neil McWilliams (Volcano Theatre, The Other Room, Sherman Theatre) yn chwarae rhan George, Tom Mumford (NPT Theatres, August 012, Theatr Genedlaethol Cymru) yn chwarae rhan Slim, Anthony Corria (yn cael ei adnabod fel Wella; National Theatre Wales) a Sara Lloyd Gregory (Parch, Alys, Con Passionate, S4C; Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol Cymru) yn chwarae rhan Curly a Gwraig Curly.  Mae’r sioe yn cael ei chyfarwyddo gan Mathilde Lopez (La Voix Humaine, Aldeburgh Festival 2017 / Gŵyl Llais 2016 Canolfan Mileniwm Cymru / Opera Cenedlaethol Cymru; Yuri, August 012 / Chapter / Underbelly Edinburgh 2016; City of the Unexpected, cyfarwyddwr cyswllt National Theatre Wales & Canolfan Mileniwm Cymru) a’r cynllunydd set yw Tina Torbey (Cynorthwy-ydd Stiwdio Cynllunio National Theatre, Llundain).  Y Cynllunydd Goleuo yw Ace McCarron (Music Theatre Wales, Scottish Opera, English Touring Opera), y Cynllunydd Gwisgoedd yw Brighde Penn (sydd newydd raddio o gwrs meistr Cynllunio Perfformiadau yn Ngholeg Cerdd a Drama Cymru) a’r Cyfansoddwr yw Gareth Evans (Tonypandemonium National Theatre Wales; Roberto Zucco August 012).  Bydd y sioe yn agor ar y 18fed o Hydref yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, ac yn perfformio tan yr 28ain o Hydref.

Mae August 012 yn gwmni theatr sydd yn creu dramau cyfoes a rhyngwladol sydd yn weithiau grymus ac uchelgeisiol nad ydynt yn ymddangos yn aml yng Nghymru.  Bwriad y cwmni yw dod ag ysgrifennu a syniadau gweddill y byd i lwyfan Cymreig; yn Saesneg, Cymraeg a ieithoedd gwahanol.

Meddai’r Cyfarwyddwr Mathilde Lopez;

“Rydyn ni’n gyffrous iawn i fod yn ymuno â Hijinx i ymdrin â’r darn arloesol Of Mice and Men.  Dwi hefyd yn ofn gallu gwneud iawn â’r darn, ac atsain cryfder, perthnasedd a chrynoder y nofel ar lwyfan.  Byddwn yn archwilio dogfennu realaeth ac fe fydd y darn yn eistedd rhywle rhwng Sergio Leone a The Little House on the Prairie.”

Meddai Clare Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Hijinx;

“Mae Hijinx yn cymeradwyo August 012 am eu dewrder i gastio actor sydd â dealltwriaeth gwell o gymeriad Lennie nag actor niwro-nodweddiadol.  Mae wedi bod yn uchelgais i Hijinx i gwmniau theatr prif ffrwd i adnabod gwerth castio amrywiaethol ac mae’r cynhyrchiad yma o Of Mice and Men yn berffaith ar gyfer hyn.”

Bydd y cwmni yn cynnig perfformiadau i ysgolion yn ystod y 10 diwrnod o berfformiadau yn Chapter.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *