Bydd rhaglen artistig Ionawr-Ebrill 2018 Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor yn mynd ar werth heddiw, 24 Tachwedd 2017 am 10.00. Ar agor ers Rhagfyr 2015, mae’r ganolfan yn gartref i theatr maint canolig, theatr stiwdio a sinema 200 sedd yn ogystal â llefydd bwyd a diod ac ar agor 7 niwrnod yr wythnos i’r cyhoedd.
Ymysg yr uchafbwyntiau mae perfformiadau gan Sir Bryn Terfel a Hannah Stone, Dr John Cooper Clarke, Mark Steel a Shappi Khorsandi, mwy o syrcas gyfoes o’r radd flaenaf, sioeau plant, drama, pob math o gerddoriaeth a dwy Ŵyl, yn ogystal â’r rhaglen sinema gyfredol a darllediadau byw.
Dywedodd cyfarwyddwr artistig Pontio, Elen ap Robert, “Wrth i ni droi’n golygon at flwyddyn newydd, rydym yn cyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau fydd yn eich ysgwyd, eich deffro ac yn sicr o’ch bywiogi. Dewch i fwynhau!”
Mae’r rhaglen newydd yn cychwyn mewn steil gyda Blwyddyn Newydd yn Fienna gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gan ddilyn gyda rhediad arbennig o sioe’r cwmni syrcas-theatr Pirates of the Carabina Relentless Unstoppable Human Machine, cynhyrchiad newydd sy’n cadarnhau enw Pontio fel lleoliad pwysig ar gyfer cyflwyno syrcas gyfoes ym Mhrydain.
Bydd Gŵyl Gerdd Bangor 2018 yn cael ei gynnal Ddydd Sadwrn 3 Chwefror gyda thema’r ‘gofod’ eleni, ac mi fydd gŵyl gyntaf Cymru-Tsieina yn Pontio yn nodi’r Flwyddyn Newydd Tsieinïaidd mewn partneriaeth â chwmni cysylltiol Pontio Invertigo a chyda Sefydliad Confucius a Phrifysgol Bangor. Bydd Pontio hefyd yn croesawu dau ddigwyddiad fydd yn cael eu darlledu ar y teledu ar ffurf Cân i Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi a Chystadleuaeth Côr Ifanc y Flwyddyn y rhaglen BBC Songs of Praise.
Bydd première y ddrama Gymraeg newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru, Y Tad, yn Pontio. Byddwn hefyd yn croesawu Ŵy, Chips a Nain gan Cwmni’r Frân Wen, yn ogystal â phrosiect amgylcheddol 2071 Cwmni Pendraw.
Bydd y ganolfan yn ail-lansio Clwb Comedi Pontio, gan symud i nos Iau, gyda bwyty Gorad yn cynnig byrgyr a pheint am £10 ar y nosweithiau yma. Hefyd o ran comedi, bydd ffefryn Radio 4 Mark Steel (The News Quiz, Mark Steel’s In Town) a Sophie Willian (enwebwyd ar gyfer Gwobr Sioe Comedi Orau Caeredin 2017) yn perfformio ym mis Chwefror, Kiri Pritchard-McLean ym mis Mawrth a Shappi Khorsandi ym mis Ebrill. Ym mis Mawrth, rydym wrth ein boddau’n croesawu Dr John Cooper Clarke a gwesteion arbennig yma ar gyfer noson o gerddi, deunydd newydd rhyfeddol a myfyrdodau doniol am fywyd modern.
Bydd ein nosweithiau Cabaret Pontio yn parhau, gyda byrddau crwn a mynd a dod o’r bar yn cael ei ganiátau, a pherfformwyr yn cynnwys y pumawd o’r Alban Elephant Sessions, The Gentle Good yn perfformio caneuon o’u halbwm Y Bardd Anfarwol, cerddoriaeth o Haiti ar ffurf Chouk Bwa a’r arwyr cerddoriaeth o Fadagascar, Toko Telo. Bydd hefyd gig gan Colorama a Plu, sy’n dod at ei gilydd i greu Bendith, a Jon Boden, cyn brif-leisydd Bellowhead, sydd ar daith cenedlaethol The Afterglow Tour.
Croesawn Gerddorfa Ffilharmonic Frenhinol Lerpwl yn ôl i Theatr Bryn Terfel gyda rhaglen ramantus yn cynnwys gwaith gan Verdi, Dvorák, Wagner a Brahms, a bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyflwyno Haydn & Mozart yn Neuadd Prichard-Jones. Bydd Opera Canolbarth Cymru yn cyfuno stori ysgogol Pushkin gyda telynegiaeth ysgubol Tchaikovsky yn Eugene Onegin. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru hefyd yn dychwelyd gyda Terra Firma, gyda’r rhaglen yn cynnwys cyfle i weld Tundra, y darn syfrdanol a berfformiwyd yn gyntaf fel rhan o P.A.R.A.D.E yn ddiweddar.
Mae nifer o grwpiau lleol a chymdeithasau myfyrwyr hefyd yn cynnal digwyddiadau, gyda gig cyntaf Menter Iaith Bangor yn Pontio gyda Crys a Maffia Mr Huws, bydd Gwynedd School of Dance and Performing Arts Centre yn gwneud cynhyrchiad o Beauty and the Beast, High School Musical yn cael ei berfformio gan Gymdeithas Drama Gerdd Prifysgol Bangor, a hefyd perfformiadau gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor a’r grŵp cerdd Sistema Cymru-Codi’r To. Gall bobl ifanc hefyd fwynhau’r celfyddydau drwy rhaglen cyfranogol Pontio, BLAS.
Bydd hwyl i’r teulu cyfan yn parhau gyda Teulu Pontio sydd yn croesawu Dafydd Iwan i gyflwyno caneuon Cwm-Rhyd-y-Rhosyn i genhedlaeth newydd, a bydd y cwmnïau theatr poblogaidd i blant Lyngo Theatre ac M6 yn ôl, , ynghyd â gweithdai creadigol am ddim a gweithgareddau hwyliog dros y Pasg.
Bydd tocynnau ar werth o Ddydd Gwener 24 Tachwedd am 10am o www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28. Am gopi o’r rhaglen ewch i www.pontio.co.uk neu galwch mewn yn y ganolfan.
https://issuu.com/pontio/docs/pontio_jan_april_welsh