Yr haf hwn mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhedeg i ffwrdd i’r syrcas, gan ymuno â dathliad gydol y DU o 250 mlynedd o syrcas yn 2018, ac fe’ch gwahoddir i ymuno â nhw yn eu pabell fawr felen sef y ‘Ty; Haf’!
Mae’r ‘Ty Haf’ yn cynnig rhaglen o berfformiadau ysblennydd o dan gynfas gan gynnwys actau acrobatig syfrdanol, syrcas ryngwladol, gwesteion dirgel, cerddoriaeth fyw, theatr gerddorol, sioeau teulu, gweithgareddau hwyliog i’r plant a phicnic mawreddog – y cyfan am brisiau fforddiadwy – ceir rhywbeth at ddant pawb! Bydd y bar a chaffi, yn cynnig bwyd a diodydd gydol y tymor haf arbennig hwn.
Cadwch lygad ar ein gwefan aberystwythartscentre.co.uk am y newyddion diweddaraf am berfformiadau a gweithgareddau gydol mis Awst.