Dydw i ddim fel arfer yn mynd i weld perfformiadau ar gyfer plant, ond yng nghwmni ffrind a’i mab dwyflwydd oed, mae’n rhaid cyfaddef y gwnes i wir fwynhau ‘Dilyn Fi’ gan gwmni’r Frân Wen.
Cefndir y stori yw bod Nansi yn ymgodymu ag effeithiau cael brawd bach. Wrth i Bleddyn gymryd cyfran o’r sylw a’r synau amrywiol a ddaw yn ei sgil, mae hi’n encilio i fyd ffantasi gyda’i ffrind Cai. Datblyga berthynas agos gyda’i thegan, sef eliffant, ac o dipyn i beth gwelwn daith ei dychymyg. Roedd gen i ddiddordeb personol yn y stori gan fy mod i wedi cael chwaer pan oeddwn yn bump oed, ac mae gen i lawer o atgofion am y cyfnod, sy’n dangos bod babi newydd yn achosi cryn newid byd. Wrth iddi anwylo’r eliffant, daw i sylweddoli hefyd ei bod yn hoff o’r eliffant bach, sy’n peri iddi dderbyn ei brawd yn y pen draw. Hoffais yn fawr yr elfen addysgiadol wrth iddi deithio i Affrica yn ei dychymyg, a chrëwyd naws arbennig yn y darn hwn.
Roedd yr actorion yn fywiog ac yn hwyliog. Chwarddodd sawl un pan ddisgynnodd y cymeriadau ar y llawr, ac efallai y gellid bod wedi ehangu’r hiwmor yn y cynhyrchiad er mwyn diddanu’r gynulleidfa ymhellach. Serch hynny, prif ddiben y perfformiad oedd ymlacio’r plant, ac oherwydd nad oedd ei hyd yn rhy hir, daliwyd sylw’r rhan fwyaf drwyddo draw. Tipyn o gamp!
Rhinwedd pennaf y darn i mi oedd yr elfen gorfforol a’r symudiadau celfydd. Llwyddwyd i greu siapiau diddorol a oedd yn gyfuniad o ddawns ac ystum, ac roedd y coreograffi’n taro deuddeg drwy gydol y darn. Un o’r prif gryfderau hefyd oedd y tempo hamddenol, a’r golygfeydd yn llifo’n rhwydd o un i’r llall. Mae’n bosib y byddai ychwanegu rhagor o ddeialog wedi gwthio’r digwydd yn ei flaen ar adegau ynghyd â chynnig amrywiaeth i wrthgyferbynnu â’r rhannau mwy corfforol, ond roedd y symud yn amlwg yn cynnal diddordeb y plant. Yn wir, ychydig iawn o ystwyrian a welwyd yn ystod y perfformiad.
Llwyddwyd i greu naws freuddwydiol a hudolus. Er bod y stafell yn eithaf tywyll, roedd y goleuadau yn gynnil ac yn feddal. Cafwyd cerddoriaeth a sain pwrpasol er mwyn cyd-fynd â’r symud, ac roedd adegau o dawelwch hefyd yn effeithiol. Roedd y set moel yn gwbl addas ar gyfer symud o gwmpas y gofod, a defnyddiwyd propiau hefyd er mwyn amrywio’r delweddau, gan eu hymgorffori’n rhwydd yn y symudiadau. Un o’r nodweddion mwyaf trawiadol oedd y lliwiau cynnes yn y golygfeydd. Er bod sioeau fel Cyw yn boblogaidd ac yn difyrru plant ledled Cymru, gall y rhialtwch a’r sŵn fod yn llethol i rai ifanc iawn. Roedd y perfformiad hwn felly yn cynnig rhywbeth amgen, a’r tynerwch yn debygol o apelio at fwlch oedran rhwng 2-7 oed, sy’n gallu bod yn heriol ym myd y theatr.
Ar y diwedd, siaradodd y ddau actor gyda’r plant mewn arddull sgyrsiol, a oedd yn ychwanegu cyffyrddiad personol. Soniwyd am wyliau hanner tymor, a’u hannog i adael y theatr fel eliffantod, sy’n ffordd dda i’w hysbrydoli. Yn fwy na dim, credais fod ymdrin â theimladau chwaer hŷn yn berthnasol iawn i gynifer sy’n gorfod dygymod â babi newydd yn y teulu.
Roedd y cynhyrchiad yn amlwg yn addas i rai dan saith oed oherwydd gwelwyd ystod o oedran yno, ac roedd hyd yn oed y plant ieuengaf wedi eu swyno ac yn hynod o llonydd. Eisteddai’r rhieni ar feinciau yn y cefn tra oedd y plant yn eistedd ar glustogau yn y tu blaen, ac felly roedd yr awyrgylch yn glyd ac yn gartrefol. Mae llawer o ganmol wedi bod i’r cwmni ieuenctid hwn yn y gorffennol, ac yma gwelais brawf o’u llwyddiant. Dyma agoriad llygad i fyd theatr plant a’i bosibliadau.
http://www.franwen.com/en/events/dilynfi/