Fel arfer, mae’n well gen i gyfrwng drama na ffilm, ond synnais imi gael fy nghyfareddu gan y ffilm ‘Y Llyfrgell.’ Cofiaf ddarllen nofel Fflur Dafydd o’r un enw a enillodd wobr goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2009, a mwynhau’n aruthrol. Dyma gyfrol gwbl gyfoes a oedd yn cyffroi’r darllenydd, gan ddelio â themâu perthnasol yn y byd sydd ohoni megis terfysgaeth, cof cenedl a sefydliadau cenedlaethol. Yn fy mhrofiad i, nid yw addasiadau ffilm o lyfrau hanner cystal, a chefais fy siomi gyda fersiynau o Anna Karenina a Far from the Madding Crowd. Teimlais fy mod yn colli craidd y neges, a’r cyfrwng yn rhy gyflym i fynegi hanfod y gwaith. Nid felly mo hon. Cefais gystal mwynhad o ddarllen y gyfrol ag a gefais wrth weld y ffilm, a phrawf o’i llwyddiant yw bod y ffilm yn atgyfnerthu’r hyn sydd ar ddu a gwyn ac yn dod â’r cyfan yn fyw i’r darllenydd. Yn wir, roedd beirniaid y wobr ar y pryd yn trafod cyfoeth sinematig y gyfrol, ac felly cam naturiol oedd addasu’r cyfanwaith ar gyfer y sgrin.
Canolbwynt y stori yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae’r efeilliaid Ana a Nan, sy’n gweithio yno, yn penderfynu dial ar yr ymchwilydd Eben Prydderch am iddynt dybio ei fod wedi llofruddio eu mam, Elena Wdig. Lleolir yr holl ddigwyddiadau dramatig yn y llyfrgell, sy’n sail ar gyfer yr elfennau cynhyrfus ac annisgwyl. Mae’r stori yn ei chrynswth yn ddeunydd crai delfrydol ar gyfer ffilm, a chefais wefr o weld y cameos grymus yn bywiogi’r hyn a ddychmygais.
Mae’r tempo yn hollol briodol, ac yn cyfleu’r cyffro i’r dim. Yn wir, roedd fy nghydymaith yn neidio bob hyn a hyn gan nad oedd wedi darllen y gyfrol ymlaen llaw! Cafwyd cydbwysedd addas rhwng cyflymu er mwyn cyfleu tensiwn ac arafu hollol bwrpasol er mwyn cnoi cil. Hoeliwyd fy sylw drwy gydol y ffilm wrth i’r golygfeydd lifo’n rhwydd, ac nid oedd y rhai mwy araf yn peri i’r gwyliwr golli diddordeb.
Credais fod y castio’n gyfan gwbl addas a’r actorion yn llwyddo i argyhoeddi bob tro. Mae Sharon Morgan yn gofiadwy oherwydd ei llais yn bennaf oll, y prif gymeriad Catrin Stewart oherwydd ei phortread o gymhlethdod hunaniaeth, a Dyfan Dwyfor yn sgil ei gyfuniad o hiwmor a dwyster. Yn wir, roedd ambell gyffyrddiad o hiwmor yn torri ar y naws dywyll o bryd i’w gilydd.
Cafwyd golygfeydd gwych a chlir o Aberystwyth a’r Llyfrgell, ac roedd y ddyfais o amrywio saethu’n bell ac agos yn drawiadol. Defnyddiwyd cerddoriaeth yn effeithiol drwyddi draw er mwyn creu awyrgylch ac ennyn chwilfrydedd, ac roedd y defnydd o dywyllwch a chreu cysgodion yn gweddu. Yn achlysurol, roedd yr isdeitlau Saesneg yn mennu ar y gwylio, ond mae’n allweddol bod y ffilm yn cael ei gweld gan gynulleidfaoedd di-Gymraeg. O bosib, mae’r rheidrwydd i farchnata yn egluro’r gwahaniaeth rhwng y teitlau yn y ddwy iaith: ‘Y Llyfrgell’ a ‘Library Suicides.’
Mwynheais y diweddglo arbennig o ddirdynnol, a oedd yn gadael y gwyliwr yn fud gydag anesmwythyd, amheuaeth a dirgelwch. Mae’n procio’r meddwl wrth i ni gwestiynu beth yw gwirionedd a ffantasi, a’r ffin rhwng ffuglen a ffaith. Mae’r deuoliaethau a awgrymir hefyd yn gysyniad tu hwnt o ddifyr, ac ymdrin â chof yn enwedig yn rymus yn yr oes ohoni.
Roedd hi’n gryn gamp cywasgu’r nofel i awr a hanner, ond llwyddwyd i wneud hynny yn rhyfeddol. Efallai nad yw’n bosib i ni fynd dan groen y cymeriadau fel ag y gwneir wrth ddarllen, ac efallai bod rhagor o gymhlethdodau a haenau i’w canfod yn yr efeilliaid, ond byddai’n amhosib i gyfrwng ffilm wneud hyn cystal â’r gwaith gwreiddiol beth bynnag. Un o seiliau cyfrol brint yw datblygiad y cymeriadau, tra bo ffilm yn dibynnu ar yr elfen weledol gref. Hoffwn longyfarch Fflur Dafydd ac Euros Lyn am eu partneriaeth hynod ffrwythlon fel awdur a chyfarwyddwr. Nid bob amser ychwaith mae awdur yn gallu troi ei law at sgriptio, ond roedd doniau Fflur yn y maes hwn ac yna Euros yn cyfannu’r profiad yn weledol yn amlwg yn gweithio.
Trueni mawr oedd bod y sinema yn Llanelwedd yn wag. Mae cymaint yn gwirioni ar ffilmiau Hollywood, ond ychydig sy’n sylweddol bod modd buddsoddi yn agosach at adref yn ein diwydiannau creadigol. Wedi’r cwbl, mae Aberystwyth yn lleoliad i’r gyfres Y Gwyll hefyd. Wedi dweud hynny, er gwaethaf llai o adnoddau, roedd hon llawn cystal ag unrhyw ffilm a welais sydd wedi derbyn miliynau o nawdd. Er bod y ffilm ar gael ar ffurf DVD, byddwn yn argymell mynd i sinema i’w gweld ar sgrin fawr. Mae’r ffilm yn brawf bod modd cyfleu’r un stori mewn cyfrwng gwahanol, a honno wedi ei deall a’i dehongli i’r dim yma yn fy marn i.