Mae dychwelyd i Aberystwyth yn bleser pur i gyn-fyfyrwraig y ‘Coleg Ger y Lli’. Mae ‘cicio’r bar’ ger y prom, sawru’r machlud haul a mwynhau peint mewn hoff dafarn yn rhannau annatod o’r ddefod, wrth gynnig tonic i’r enaid a dwyn atgofion i gof, gan atgyfnerthu rhan fawr o’m hunaniaeth.
Yn rhyfedd ddigon, dyna hefyd oedd prif gynhwysion noson ddiddan yn ystod Gŵyl Hen Linell Bell cwmni Arad Goch, sef Ar Drywydd Cantre’r Gwaelod. Profiad perffaith, mewn gwirionedd, i un a raddiodd mewn Daearyddiaeth a’r Gymraeg, cyn dilyn MA mewn Theatr, Ffilm a Theledu.
Dim ond un ‘profiad theatrig’ mewn pythefnos ohonynt oedd hwn, yn dathlu chwedl leol Cantre’r Gwaelod. Cynhaliwyd gigs tra llwyddiannus, gweithdai llên, dawns a chelf, gyda’r pwyslais ar weithgareddau cymunedol. Mae penllanw mawr yr ŵyl – Gwledd Gwyddno, ar hyd y prom – eto i ddod, ac yn gaddo’n noson wych.
Ond yn ’nol at gynhyrchiad annisgwyl dros ben, aeth ati i herio a chwestiynnu’r hen chwedl. Meddyliais droeon, tra’n ei hadrodd wrth ambell un, ‘stori denau yw hynt a helynt Seithenyn’. Ganrifoedd yn ôl, diolch i feddwyn di-raen , boddwyd teyrnas dan donnau Bae Ceredigion. Ac ar ambell noson stormus, gallwch glywed yn glir glychau’r deyrnas, Cantre’r Gwaelod, dan y dŵr.
Ond serch symylrwydd y stori, ni’i chwestiynnais hi erioed… byddai fel holi pam fod draig goch ar ein baner. Pa bwynt mynd i hela sgwarnogod o’r fath? Mae’r chwedlau i gyd ynghlwm â’n hetifeddiaeth! Sy’n egluro’n handi iawn gefndir Blwyddyn Chwedlau Cymru, sbloets fawr Croeso Cymru eleni.
The Pink Ladies – Vivienne Vaughan (Mari Rhian Owen) and Susan Reynolds (Ffion Wyn Bowen)
Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Sampurnaa Chattarji, Subhro Bandopadhyay and Nicky Arscott
BlAGur and AGwedd, two of Arad Goch’s youth performing groups
Chwarae teg felly i Arad Goch am gynnig noson ‘feirniadol’ yng nghwmni beirdd a chantorion, enwogion o fri – a daearyddwyr! Estynnwyd croeso i ymwelwyr i ymgynnull yng Ngwesty’r Richmond i gychwyn helfa drysor ddiwylliannol. Ychydig a wyddom mai crôl dafarn oedd hon, a honno’n un go ddadlennol…
Aweinwyd y criw gan Vivienne (Mari Rhian Owen) a Susan (Ffion Wyn Bowen) – dwy ‘lodes leol’ – yn gwisgo pinc o’u corrun i’w sawdl. Perchnogai’r ddwy haden hon sawl swyddogaeth ar y noson; tywyswyr busneslyd, tynnwyr hun-luniau a chantorion gwerin.
Yn gyntaf, fe’n denwyd i berfeddion y gwesty am gyflwyniad gan ddau Brifardd lleol; datguddiwyd gan Hywel Griffiths (a’i gynorthwy-ydd Eurig Salisbury), wrth astudio Llyfr Du Caerfyrddin, fod cryn dipyn mwy i’r stori. Yn un peth, roedd na ferch – femme fatale o’r enw Mererid – a chwaraeodd ran yn y pechod gwreiddiol. Cafwyd datganiad gan Eurig, yn ei Gymraeg Canol gorau, o rai o’r cerddi gwreiddiol hyn. Serch ei shorts a’i goesau noethion, ni chafwyd perfformiad gan Eurig ohoni … efallai syniad i’r dyfodol. Dyna’r tro ola, a dweud y gwir, y crybwyllwyd Mererid gwaetha’r modd; hoffwn fod wedi profi triniaeth greadigol bellach ohoni, o bosib yng nghwmni’r ‘Pink Ladies’.
Pasiwyd awennau’r meicroffon i dri bardd arall – Cymraes o Lanbrymair (Nicky Arscott) a dau ymwelydd o India (Sampurnaa Chattarji a Subhro Bandopadhyay) , fel rhan o gyfnewidfa lên – dan nawdd asiantaethau Literature Across Frontiers, y Cyngor Prydeinig a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Yn ogystal â bardd coronog, mae Dr Hywel Griffith yn ddarlithydd yn adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, ag arbenigedd ym maes Llifogydd. Rhoddodd yntau Cantre’r Gwaelod mewn cyd-destun ‘Cynhesu Byd-Eang’, gan roi cyfle i’r beirdd gwâdd ymateb yn ddiddan yn eu ffyrdd eu hunain. Clywsom am ddilyw mawr Mumbai pob tymor monsŵn, stomydd tywod trwm dinas Calcutta, a gweledigaeth o ganolbarth Cymru ’rol Dydd y Farn.
Fe’n siarsiwyd ymlaen ar hyd y Prom gan y ‘Merched Pinc’, lle glywsom grawcian gwylanod ac acenion tramor. Clywais lu o Almaenwyr, a Yank crintachlyd mewn côt, yn cymharu haf Cymru â mis Hydref Efrog Newydd. Fe’n hudwyd, yn ogystal, gan osodiadau dawns yn cyfleu rhyferthwy tonnau’r môr. Yn eu plith roedd aelodau o glybiau BlAGur ac AGwedd , perfformwyr ifanc y fro, a hyfforddwyd gan y Cyfarwyddwr Artistig, Jeremy Turner.
Ymlaen i Mimosa, un o gaffi-bars cyfoes y dref, lle cafwyd cyfle am lymaid ac alawon gwerin. Naws morwrol, yn naturiol, oedd i’r canu gwych; Fflat Huw Puw a Lawr ar Lan y Môr, yn eu plith. Cafwyd hefyd ddarlith fechan gan Sioned Llywelyn, Myfyrwraig PhD o adran Ddaeryddiaeth y Brifysgol, yn rhannu’r ffeithiau daearegol am Gantre’r Gwaelod. Yn un peth, rhannwyd hanes y goedwig tanddwr ger y Borth, a gysylltir gan rai â Chantre’r Gwaelod. Eglurwyd hefyd – yn rhannol – bresenoldeb gefnen Sarn Cynfelyn gerllaw, sy’n ymestyn am rai cilomedrau i fewn i’r môr. Er mor ddifyr oedd y ffeithiau dadlennol hyn, clowyd â chasgliad cywir, ond killjoy-aidd braidd o wyddonol; ‘Heb dystiolaeth archaeolegol falle bod rhaid i ni dderbyn mai chwedl yn unig yw Cantre’r Gwaelod’ . Boo-his!! Ond digon teg…
Hefyd, rhaid i mi ddweud – ac mae hyn yn wir am y prif arweinwyr i gyd – does dim yn waeth gen i na chyfieithu air-am-air. Mewn digwyddiad mor greadigol, rhaid meddwl mor aml-ddeimensiynol â phosib, rhag diflasu crynswrth y Cymry Cymraeg. Mater o gynnig elfen bach ychwanegol yn y Gymraeg yw hyn, i heolio sylw’r dorf a hawlio cydymdeimlad pawb. Dioddefais artaith faith o araith briodas un waith i’w wneud yn deal-breaker ym mhob achlysur erbyn hyn. Mae bywyd yn rhy fyr o lawer!
Serch hynny, roedd pawb yn eu hwyliau wrth adael am Yr Hen Llew Du, lle roedd band gwerin yr Armagh Rhymers wrthi’n diddanu ger y bar – a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1771 . Tybed ai yma, neu rywle arall, roedd Seithennyn slawer dydd, yn slochian tra roedd ei gantref yn boddi? Neu tybed a gafodd enw’r gwarcheidiwr ei bardduo gan yr enigma o ferch, Mererid?
Ni archwiliwyd chwaneg o’r chwedl yn Yr Hen Llew Du, a fu’n ’chydig o siom – mae’r gofod yn berffaith am hel rhagor o glecs dros chwisgi a thanllwyth o dân! Ond efallai mai dyna fydd dan sylw yng Ngwledd Gwyddno ar nos Sadwrn y 5ed o Awst, a gynhelir ar hyd y prom. Cafwyd casgliad o’r cerddi sy’n rhan o’r gyfnewidfa lên, gan gynnwys teyrnged i lymeitiwr arall, Dafydd ap Gwilym, gan Eurig Salisbury, a chwip o gerdd dyner am Y Treiglad Meddal gan Nicky Arscott, aeth ati i ddysgu’r Gymraeg. Plethwyd y noson ynghyd gan gerdd glo didwyll iawn Hywel Griffiths i’w ferch gyntaf-anedig, a’i ddyhead i’w gwarchod hithau rhag pob mewnlifiad.
Rhaid canmol crefft a dawn Sampurnaa Chattarji wrth swyno’r’r dorf, ac Eurig Salisbury yn ogystal. Rhaid meddu ar gryn hyder, pinsiad o hud a phersona, i gyfarwyddo ac arwain noson o farddoniaeth . Daw hynny, wrth reswm, â phrofiad dros y blynyddoedd, ond nid pawb sydd yn meddu ar y sgiliau hynny. Bron iawn fod y cyflwyniadau yn bwysicach na’r geiriau ar noson o’r fath, fel a brofwyd mewn sawl Stomp – a Bragdy’r Beirdd – dros y blynyddoedd.
Ond serch ambell wendid – ac absenoldeb Seithenyn gan Cwrw Llŷn (doh!) – profodd y noson yn llwyddiant, wrth gynnig cymaint o haenau gwahanol. Agorwyd y llifddorau i wledd o lawenydd, a lluniaeth i’r ymennydd.