Sioe bendigedig i’r holl teulu oedd Caban Hud. Roedd y perffomiad yn hudolus, gyda cerddoriaeth bywiog ond eto hamddenol.
Gyda stori syml am eneth a’i dymuniad Nadolig, roedd yn creu awyrgylch Nadoligaidd. Perffomiodd y tri actor yn llawn ysbryd a mwynhaodd rhai o’r plant cael ymuno ar y llwyfan. Roedd yr eira a’r ser yn rhoi cefndir swynol, gaeafol i’w gwerthfawrogi gan yr ifanc a’r hen.
Roedd hi’n pleser cael newid o’r sioeau bywiol, swnllyd sy’n arferol adeg yma’r flwyddyn. Bysa’n braf tasa Nadolig go iawn fen hyn.
Trwy’r sioe roedd yna cyffro am beth oedd yn dod nesaf, ond heb codi ofn ar y plant ifanc. Doedd dim gormod o geiriau, roedd yn hawdd dilyn a hyd yn berffaith am blant ifanc.
Cast : Rhodri Siôn, Morfudd Hughes, Manon Alaw a Miri Siôn.
Cynhyrchwyd gan Murmur.
Cerddoriaeth gan Osian Gwynedd.
Mwy o sioeau Nadolig
More Christmas shows
https://asiw.co.uk/reviews/hansel-gretel-gate-cardiff
https://asiw.co.uk/reviews/snow-white-seven-dwarfs-new-theatre
https://asiw.co.uk/reviews/snow-white-new-theatre-cardiff
https://asiw.co.uk/new-voices/snow-white-seve-dwarfs-new-theatre-cardiff
https://asiw.co.uk/reviews/charles-dickens-chimes-chapter-production