Wales Reviews/ Adolygiadau Cymru

Dillad Newydd yr Ymerawdwr, Theatr y Sherman

Fe es i weld sioe yn Theatr y Sherman o’r enw Dillad Newydd yr Ymerawdwr: stori gan Hans Christian Andersen....

Appreciate and share

Jump to comments

Fe es i weld sioe yn Theatr y Sherman o’r enw Dillad Newydd yr Ymerawdwr: stori gan Hans Christian Andersen. Roedd y lleoliad yn y theatr yn dywyll iawn ac roedd lawer o ddillad o amgylch yr ystafell. Doedd dim llwyfan a roedd y seddi mewn cylch gyda matiau ar y llawr i’r plant eistedd arnynt. Roedd yn dda sut oedd yr actwyr yn siarad i’r cynulleidfa ar y ddwy ochr o’r theatr fel bod pawb yn rhan o’r stori.

 

 

Fy hoff cymeriad oedd yr ymerawdwr pryd yr oedd yn bachgen bach. Roedd e’n doniol iawn ac yn ymddwyn fel babi. Roedd pawb yn chwerthin wrth ei weld. Roedd y cymeriadau eraill, Olga a Luca, yn actio’n dda ac yn chwarae cerddoriaeth yn dda. Roedd Olga yn chwarae y saxophone a’r clarinet, Luka yn chwarae y gitar a’r banjo a’r ymerawdwr yn chwarae y trwmped.

Mae’r drama yn addas i blant bach ond roedd y rhieni yn mwynau’r stori hefyd ac yn ymuno gyda’r chwerthin. Dechreuad da i dymor y Nadolig.

 

Gan Megan Callaghan. Oed 6

Gan Hans Christian Andersen
Ysgrifennwr Alun Saunders
Cyfarwyddwr Kevin Lewis
Cynllunydd Charlotte Neville
Cynllunydd Goleuo Rachel Mortimer

Rhagfyr 31

 

Images:

Kirsten McTernan

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Join the conversation

Jump to comments

Latest Reviews

View all

Visiting Theatre

View all

In My Own Words

View all

Latest News

View all