Anaml fydda i’n gadael y theatr dros riniog tafarn, gyda bar o siocled yn fy llaw, ond noson felly a gafwyd ar fy ymweliad cyntaf â The Other Room. Dan sylw yng nghlwb Porters, Cwrt Harlech, Caerdydd, tan yr 16eg o Fai y mae drama drawiadol dros ben; y cynhyrchiad dwyieithog A Good Clean Heart gan Alun Saunders.
Mae’r ddrama yn dilyn dau gymeriad cyfoes – y naill o Lundain a’r llall o un o Gymoedd y De; dau frawd a fagwyd ar wahân mewn ieithoedd gwahanol.
Fe’n cyflwynir yn gyntaf i Hefin (James Ifan), y brawd iau, ar ei ben blwydd yn ddeunaw oed. Yn brif ddisgybl ei ysgol a chwaraewr rygbi tan gamp, mae ganddo ddiawl o benmaenmawr. Ond dwyshau wna’i gur pen pan dderbynia lythyr â newyddion syfrdanol.
Awdur y llythyr yw ei frawd mawr Jay (Dorian Simpson), sydd heb anghofio’i hoff degan erioed – y baban a fabwysiadwyd gan gwpwl diarth o Gymru. Bu’n chwilio amdano ers amser maith, ac yn pori proffilau facebook di-ri ; o’r diwedd, mae geiriau Jay yn cyrraedd eu cyrchfan.
Profwn effaith y daranfollt ar y ddau ddyn ifanc wrth iddynt drefnu i gwrdd yn Llundain, lle ddaw’r gorffennol , presennol a’r dyfodol ynghyd i seilio eu ffawd. Fel Dorothy yn Oz, sylweddola Hefin yn gynnar nad ydyw yng Nghymru mwyach. Ond yn rhydd o hualau ei hunaniaeth-hyd-yma, sut mae dechrau dygymod â’i etifeddiaeth? Fel y profir tua diwedd y ddrama, mae gwaed yn dewach na dwr.
Os fwynheoch chi Llwyth gan Dafydd James, bydd y ddrama hon yn sicr at eich dant; ceir elfennau cyffredin, ond yn ieithyddol – a gweledol – mae’r ddrama yn cymeryd cam ymlaen. Trwy ddefnydd chwim o dafluniadau ac uwchdeithlau amrywiol, awn ar wibdaith wefreiddiol i Lundain; yr un mor slic yw’r sgript sy’n sboncio’n rhwydd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Llwydda’r gerddoriaeth i greu argraff trwy gydol y sioe, wrth i guriadau electronig helpu i gynnal y tensiwn, a chyfateb i symud parhaol yr actorion ar lwyfan. Cyrhaeddir crescendo cerddorol mewn fersiwn dwyieithog o Bonkers Dizzee Rascal; teitl sy’n cyfleu sefyllfa’r brodyr i’r dim.
Cydymdeimlir yn syth gyda’r Cymro hoffus – bachgen da i’w rieni cariadus Gwilym a Ros – diolch i berfformiad James Ifan o Aberdâr, a gipiodd Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts yn 2013 . Llwydda’r actor ifanc i gydbwyso dryswch a dicter Hefin tuag at ei rieni mabwysiedig, cyn archwilio’i chwilfrydedd ar siwrne o hunan-ddarganfyddiad.
Ond yn bur annisgwyl, Dorian Simpson o Lundain sy’n cipio calonnau’r dorf, diolch i berfformiad llawn angerdd chwyslyd fel y brawd mawr bregus . Mae Jay yn gymeriad cryn dipyn mwy cyflawn na’r arddegyn bach annwyl o Gymru.
Y rheswm, o bosib, am yr anghydbwysedd hyn yw lleoliad prif-destun y sioe; cynefin Jay (a Hefin) yn Llundain , lle cawn hefyd gwmni Reann eu mam a’i chariad Raymond.
Nid gwendid mo’r sefyllfa wyrdroedig hon; archwilir ddiwylliant estron o berspectif Cymreig, a cawn ein sbario, trwy drugaredd, gan ormod o rwtîn stand-yp am elfennau mwyaf cwyrci’r iaith Gymraeg.
Mae amseru’r actorion trwy gydol y ddrama yn rhyfeddol a dweud y lleia; yn enwedig ag ystyried nad yw Dorian Simpson yn medru’r Gymraeg. Tipyn o her, ag ystyried fod y ddeialog gyhyrog bron yn gyfangwbl ddwyieithog . Mae’r diolch am hyn yn bennaf i gyfarwyddo crefftus gan Mared Swain, ac ymddiriedaeth lwyr y ddau actor yn ei gilydd.
Dyma waith ffraeth ac atyniadol gan awdur newydd sy’n sicr yn werth ei weld; mynnwch berfformiad gyda’ch peint yn Porters dros y pythefnos nesa.