Fe nryswyd i braidd dros y penwythnos a fu, gan wrth-dystiad dros eirinen wlanog. Denodd y ffug-brotest hon dyrfaoedd lu i lenwi strydoedd ein prifddinas. Rhan fechan o ddigwyddiad Dinas yr Annisgwyl oedd hyn, i nodi canmlwyddiant yr awdur Roald Dahl. Gwych o beth oedd y ‘cynnwrf’ , ond cwbl ddi-bwrpas y brotest fawr, tra roedd cannoedd o filoedd yn llenwi strydoedd Catalonia dros hunan-lywodraeth, rai dyddiau ynghynt.
Dwi wedi dod i deimlo’n gynyddol mai dim ond mewn gofod theatrig bellach y mae’r Cymry yn cael mynediad i ‘angerdd’ o’r fath. Heb raglen ddychan ar radio neu deledu, heb sôn am wasanaeth newyddion a gwasg genedlaethol o unrhyw werth; ry ni bellach yn allanoli ein dicter i faes ‘adloniant’ (ar yr arwyneb) y Theatr.
Ni allwn anghytuno â disgrifiad Simon Brooks o sbloets Dahl fel digwyddiad ‘Baudrillardaidd, ble mae ‘simulacra’ yn disodli realiti’. Ond dyma welwn ni’n aml yn y Theatr Gymreig, yn wyneb yr ennui sy’n ein mygu mewn cyfnod o ansicrwydd mawr .
O archwiliad Tim Price o berthynas Chelsea Manning â Merched Beca, i’w gywaith â Gruff Rhys am y Comiwnydd Giangiacomo Feltrinelli, hyd at weithiau ar effeithiau Streic y Glowyr, a sefydlu Cymdeithas yr Iaith; i gyd yn engrheifftiau o ddramau gwleidyddol a lwyfannwyd yn lled-ddiweddar gan y ddwy theatr genedlaethol Gymreig. Does dim dadlau mai rhan fawr o rôl y theatr yw herio ac anesmwytho, gan roi cyd-destun hanesyddol i anghyfiawnderau cyfoes; ond i ba raddau y caiff y dorf , wedi eu hymweliad â’r theatr, eu cyflyrru i gwffio dros y Gymru sydd ohoni?
Rhyw feddyliau o’r fath a fu’n ffrwtian yn fy mhen ar ymweliad i ysgol gynradd ym mhentre Blaina, fry yn nhopiau Blaenau Gwent yr wythnos hon; dyma’r fro a fu mor gadarn o blaid ‘Brexit’, serch derbyn y cyfanswm uchaf o nawdd Ewropeaidd ‘y pen’. Nid golwg hirlwm oedd ar y cwm hynod hardd yn yr haul, ond mae na wirioneddau cudd i’w canfod islaw.
’Nol yng Nghaerdydd, yn addas iawn, profais ddrama brotest newydd, yn rhannol-seiliedg ar safiad trigolion Troedrhiwgwair yn 1973. Mae The Good Earth gan Motherlode Theatre, yn cynnig cip bersonol o frwydr faith, a dyma docyn theatrig y tymor yn fy marn i.
Fe’i chanmolwyd i’r cymylau mewn adolygiad The New York Times – yn dilyn llwyfaniad yn Flea Theatre TriBeCa yn ystod mis Awst.Trwy drugaredd, ni chafwyd cymhariaeth â gweithiau Dylan Thomas, er y ceir adlais o Under Milkwood ar gychwyn y sioe. Ond mae’r ddrama gerddorol, sydd yn cynnwys elfen gref o ganu gwerin, yn cynnig mwy na chymeriadau cartŵn. Yn wir mae ambell berfformiad ymysg y gorau i mi’u gweld ar lwyfan y Theatr Gymreig eleni.
Dilynwn deulu a chymuned mewn pentre yng Nghwm Rhondda, ar achlysur ymweliad annisgwyl; daw dieithryn i adrodd fod y mynydd cyfagos yn cynnig peryg mawr i bawb. Anogir pawb yn y pentref i symud filltir i ffwrdd, lle mae’r cyngor yn cynnig gwasanaethau newydd; archfarchnad, pwll nofio, ysgol a thai llai tamp na’r terasau traddodiadol.
Derbyn y cynnig yn ddi-ddadl wna nifer o’r cwm, ag eithrio un teulu penodol.
Cawn gyflwyniad i’r cyfan trwy lygaid merch ifanc; Jackie Adams (Gwenllian Higginson), sy’n byrlymu o chwilfrydedd. Cawn restr gweledol gomig o’i chymdogion lu, sy’n byw yn yr un stryd â hi; o’r cigydd a’r groser i’r meddyg a’r athrawes – mae hon yn gymuned fyw, yn ‘gymuned onest’. Yn olaf, fe’n cyflwynwn i Dina (Rachel Boulton) ei Mam, sy’n magu Jackie a’i brawd hyn James (Mike Humphreys) ar ei phen ei hun. ‘Gadawodd’ y gŵr, wedi colli ei waith, a bu bywyd yn frwydr fyth ers hynny.
Ni chrybwyllir y Streic, na’r pyllau glo, ond ceir cyfeiriadau at Mimi Vice a’r ‘Harvester’ newydd, gan ein gosod ni, a’r stori, mewn cyfnod o wacter, yn nhir neb hanner ola’r Wythdegau.
Fordd o fyw ydy brwydro i’r teulu clos hwn, a does dim cwestiwn ond gwrthwynebu’r awdurdodau; gofynnir am dystiolaeth o’r mynydd ‘ansefydlog’, ond fe’u hanwybyddir am dair blynedd a mwy. Yn y cyfamser, ymadael yn raddol wna’u cymdogion bore oes, sy’n dechrau troi yn erbyn y teulu. ‘Troublemakers’ twp, sy’n gibddall i ddatblygiad, yw’r teulu, yn ôl athrawes Jackie. ‘Gofyn di iddi hi beth yw ystyr integriti,’ yw ateb cadarn Dina.
Ond wrth i’r brwydro neshau at adre, tynhau wnaiff tensiynau’r cartre, gan fygwth tanseilio’r teulu clos yn llwyr. Ydy’r egwyddor yr ymgyrch yn drech na theyrngarwch teuluol?
Ceir diweddglo go amwys i’r ddrama – sy’n llai gobeithiol na Tir Sir Gâr; cynhyrchiad nid anhebyg am etifeddiaeth yn y fantol. Serch hynny, ceir haenau comig ar hyd y sioe hon, sy’n taro deuddeg, diolch i berfformiadau gwych gan bawb.
Er mai Gwen o Abergwaun – dyweddi James – yw prif gymeriad Anni Dafydd, mae hi’n cynnig dosbarth meistr wrth gynnig tri chymydog comig mewn llai na munud. Mae Gwenllian Higginson, fel Jackie Adams, yn annwyl tu hwnt, a chredadwy, fel merch ddiniwed dan ddeg. Ar goll ym myd natur, mae hi’n dotio at y sêr, cyn gweld ei byd yn troi ben i waered. Cynigodd Mike Humphreys berfformiad grymus fel ei brawd – y dyn teulu angerddol dan warchae. Serch anaf i’w benglin, fe ymroddodd yn llwyr i holl heriau corfforol y sioe. Ychwanegodd Kate Elis ysgafnder i’r sioe fel Trish, yr haden gegog drws nesaf; ar ei gorau, yn ddwys a digri – trwy ddŵr a thân – yng nghwmni ei ffrind pennaf, Dina.
Trwy’r cyfan, gan y cast, ceir chwa grymus o egni corfforol; trwy symudiadau torfol, cydweithia’r pum actor yn reddfol, i gyfathrebu naws o undod a harmoni. Mae effeithiau sain gan y cast eu hunain yn syml ond hynod effeithiol; ochneidio trwm, a chanu gwerin hudolus .
Ers mai drama ddi-Gymraeg yw sioe The Good Earth, mae’r seinlun byw hyn yn cynnig ‘sylwebaeth’ gefndirol Gymraeg. O ‘Tŷ Bach Twt’ i ‘Gwyn Fyd yr Aderyn’ i’r hwiangerdd ‘Si Hwi Hwi’ – yr olaf, a sgwennwyd yng nghyfnod caethwasanaeth – mae’r themau yn asio’n berffaith i bob golygfa, ac yn cynnig haenen ddwysach i gynulleidfa Gymraeg – llongyfarchiadau i’r cyfarwyddwr cerdd Max Mackintosh ar drefniannau grymus.
Yn weledol, mae’r llwyfan yn wag ag eithrio byrddau a chadeiriau haniaethol, a gosodwaith metalig sy’n dwyn pibellau organ capel i’r meddwl.
Deillio wnaeth y ddrama o gynllun Incubator Canolfan y Mileniwm yn 2013, cyn cael ei datblygu ymhellach gan gynllun Theatrau Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Theatr Parc a Dâr Treorci, cyn myned ar daith. Mae ôl sglein ar y ddrama, a’i llywio’n ofalus i daro’r nodau cyn cyrraedd yr uchelfannau.
Heb os, uchafbwynt y sioe yw perfformiad Rachel Boulton – sefydlydd cwmni theatr Motherlode – sy’n portreadu ‘Mam Gymreig’ cynhyrchaid The Good Earth, Dina. Fe welsom ‘Y Fam’ mewn cynyrchiadau di-ri, ond daw Rachel â ffresni newydd i’w dehongliad hithau, a dôs da o realiti bob-dydd. Er yn actores gymharol ifanc, mae’n trawsffurfio’n fenyw hŷn – nid trwy brostheteg, ond dealltwriaeth lwyr o gorffolaeth merched Cwm Rhondda. Daeth teulu fy nhad o’r Porth, ac mae ei hacen yn taro tant; y rhyddmau tonnog, a’r llafariaid elastig. Ond diolch i’w meistrolaeth o gomedi gwynepsyth, wedi’i gydbwyso â thor-calon pur, cawn ymgorfforiad o gadernid y Cymoedd ynddi hi.
Os na chaiff pawb eu sbarduno ganddi i gynnal eu chwyldro eu hun, mae na rywbeth mawr iawn o le yng Nghymru. Ond o gofio’r corwynt o berfformiad cyffelyb a gafwyd gan Sophie Melville yn Iphigeniah in Splott y llynedd – cyn daeargrynfeydd gwleidyddol 2016 – mae’n debyg mai difyrrwch dros-dro yn unig fydd hanes Dina.