Nid oedd 2015 yn dymor rhy wych i dîm criced Sir Forgannwg; gyda charfan lai na’r arfer, fe lanion nhw’n bedwaredd yng Nghyngrair 2. Serch hynny, mae na gyfle iddynt wella cryn dipyn flwyddyn nesa, wrth gynnig lloches dros dro i griw llawn daioni yn neuadd stadiwm SWALEC.
Yno tan yr ail o fis Ionawr mae sioe Nadolig National Theatre Wales, sy’n diffinio’r tymor ewyllys da ; bocs siocled danteithiol, sy’n edrych yn wych, os braidd yn or-felys ar brydiau.
Ysbrydolwyd y sioe gan albwm Candylion (2007) Gruff Rhys, yr artist aml-gyfryngol o Fethesda; mae’n cynrhychioli aduniad rhyngtho ef a Tim Price a’r gyfarwyddwraig o Ogledd Lloegr ,Wils Wilson Y nhw oedd yn gyfrifol am Praxis Makes Perfect (2013) – gig theatrig wefreiddiol NTW yn 2013. Bryd hynny, cyflwynwyd hanes bywyd hynod un dyn, miliwnydd o Gomiwnydd a chyhoedwr o’r Eidal o’r enw Giangiacomo Feltrinelli. Cysyniad hollol boncyrs, ond cynhyrchiad hollol wych – wnaeth godi ngobeithion i’n fawr ar gyfer sioe eleni.
Wel, mae’r pwyslais ar gynnig sioe deuluol tro ma, wrth groesawu plant o bob oed i neuadd SWALEC. Ac nac anghofiwch, wrth gwrs, y plentyn bach hwnnw sy’n llechu ynddom oll! Wrth gamu i fewn i’r neuadd, ges i’n saethu’n syth ’nol i mhlentyndod – mae’r sioe yn dwyn adlais o’r raglen deledu Rainbow i gof, a cheir cyfuniad o’r cymeriadau George a Zippy. Mae hefyd yn ymylu ar ddyfeisgarwch y ffilm Inside Out, gan stiwdios Disney Pixar eleni.
Theatr Ymdrochol ydy’r cyfrwng dan sylw, sef profiad theatrig 3D; yn sylfaenol, mae’r perfformiadau yn digwydd o’ch cwmpas. Yn y gornel, cafwyd llwyfan i fand diweddaraf Gruff Rhys, wnaeth ein tywys i fyd Pixel Valley. Dyffryn ddychmygol, sy’n orlawn o anifeiliaid gwych, fel losinlew – neu Candylion (Remy Beasley).
Dyma lewes fach ddiddig a grewyd o gandi fflos, sy’n fodlon ei byd gyda’i ffrindiau. Yn eu plith mae creaduriaid o bob lliw a llun, a grewyd o enwau cyfansawdd; Merangutang (croes rhwng orangwtang a meringue, a chwareir gan Lisa Jên , 9 Bach), Cheffyl (croes rhwng ceffyl a chef, a chwareir gan Dyfrig Morris), Caruin (croes rhwng carnation a phengwyn – a chwareir gan Matt Bulgo) a Dalmon (croes rhwng Dalmation a Lemon – a chwareir gan Dyfan Dwyfor) yn eu plith.
A hithe’n dymor cynhaeaf, mae nhw i gyd wrth eu bodd i fynd i gasglu ffrwythau pixel ffres; peli bach gwyn, llawn daioni a ‘positive vibes’ – ond caiff Candylion ei gadael ar ei hol. Wedi’i brifo i’r byw, mae’n bwyta ‘negative vibe’ sy’n ei throi yn gawres o lewes; yn ei dicter, mae’n cefnu ar ei ffridniau bore oes, gan sefydlu Candy Town.
Try’r Dyffryn heddychlon yn ffiaidd o ffasgaidd wrth i Candy arglwyddiaethu dros y lle; sefydla ffatri Candy Bars, i gael eu creu o’r peli pixels, gan gyflwyno cyfalafiaeth i’r dre. Mae’n llarpio’i chyfeillion, au llowcio mewn chwinciad – ond mae Caruin yn dianc dros dro. Ai yntau ar bererindod, a chanfod croeso’r Cone People, gan weld eu bod nhw’n ddigon bodlon eu byd. Dychwela Caruin i Candytown i geisio rhesymu â Candy, ond ydy hi’n rhy hwyr i Pixel Valley?
Dros gyfnod o awr a hanner, cawn wledd o waith pypedau, a cherddoriaeth, animeiddio a gwisgoedd hollol wych; trueni mawr na chafwyd cadeiriau call i’r dorf!
Un peth yw cynnal gig, lle allwch ddawnsio fel ffwl, i gerddoriaeth hudolus Gruff Rhys. I fod yn deg, yn go gynnar, anogodd Candylion i ni gyd i ddilyn cyfaryddiadau dawns. Ond am gyfnodau go faith cafwyd sioe hynod statig, wrth i ni wrando’n astud iawn. Cafwyd sgript oedd yn weddol lafurus mewn mannau, er mwyn i’r lleiaf yn ein plith ddeall dameg am ganfod dedwyddwch mewn cwmwl o gariad a chytseinedd.
Gwell sibrwd hyn, ond dwi’n dechrau syrffedu ar sioeau ‘sefyll ar eich traed’. Oedd, roedd cratiau caled i ambell un, ond ag ystyried fod y sioe yn cynrhychioli gwibdaith nefolaidd i fyd o hud a lledrith, mae’n rhyfeddol na flaenoriaethwyd cyfforddusrwydd y gynulleidfa, i annog y ‘positive vibes’! A phan welais i glustog mawr Polar Pear – a ddefnyddiwyd ar Candy ‘mewn argyfwng’ – fu bron i mi amneidio amdano! Bean bags tro nesaf, NTW, neu clustogau o gandi fflos, os gwelwch yn dda!
Rhag swnio fel Grinch y Nadolig, ga i bwysleisio fod y sioe yn wledd i’r llygaid, gyda chymaint o egni creadigol a chysyniadau atyniadol ar waith; yn eu plith y gwisgoedd hollol wych, sy’n ffrwyth dychymyg cymaint o bobol, gan gynnwys yr animeiddiwr Pete Fowler, a’r cynllunydd Laura Hopkins. Ffrog llawn tassles Merangwtang yw’r dilledyn pertffaith ar gyfer partion Dolig, a cheir cyfle i weld pengwyn mewn siaced puffa, a drymiwr wythfraich o’r enw Cactopuss. Roedd y Cone People a’u hiaith garbwl yn adlais braf o Cone-Men Saturday Night Live, a’u gêm badminton nhw â Caruin yn un uchafbwynt, ynghyd â’r linell conga dorfol i Gyrru Gyrru Gyrru, yn ogystal â llais hyfryd Lisa Jen.
Fel ym mhob gwaith gan Gruff Rhys (fel Seaparado, ac American Interior), mae na lawer o hwyl hunan-gyfeiriadol, sy’n rhodd i ffans ffyddlon fel fi. Ond rhaid cyfadde i mi deimlo na ches i gymaint o Gruff yn hwn a’i gyfraniad i Praxis Makes Perfect, a brofoodd ei fod yn actor talentog dros ben!
O dystio wrth ymateb hypnotig y plant bach, roedden nhw – a nifer o’u rhieni – wrth eu bodd. Dwi wedi canmol gwaith Gruff Rhys i’r entrychion o’r blaen, ond tro ma, ond fe deimlais i weithiau fod na ormod o syniadau, wnaeth arwain at sgript blonegog. Gallai’r sioe fuddio’n fawr o gael ei thynhau, a chynnig clustog neu ddau i’r dorf.
Yn sylfaenol, dyma ddameg danteithiol i ffans ffyddlon Gruff Rhys – a chyflwyniad clodwiw i genhedlaeth newydd i’w weledigaeth wych.
Read Mike Smith’s review:
https://asiw.co.uk/reviews/insatiable-inflatable-candylion-national-theatre-wales