Macbeth, Theatr Genedlaethol Cymru, Chapter

February 10, 2017 by

Bu bron i hoffrennydd yr heddlu darfu ar lwyfaniad Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth yng Nghastell Caerffili yr wythnos hon. Ond cyfrannu at naws y noson wnaeth gwasanaeth Heddlu De Cymru, a’r cyd-ddigwyddiad, a amserwyd i’r dim . Ar y pryd, roedd Macbeth (Richard Lynch) yn ei lordio hi o amgylch Porthdy Mewnol y Dwyrain, dan gochl neuadd Castell Inverness. Fe ddisgleiriodd o flaen y dorf,  yn Tony Montana o Macbeth, wedi gwireddu’i holl freuddwydion gwrach.   Ag yntau newydd esgyn yr orsedd, ’rol lladd y Brenin Duncan (Llion Williams) mewn gwaed oer, roedd y cyrch uwchlaw yn gwbl addas i’r achlysur . Ni fyddwn i wedi synnu i weld llong awyr Scarface  uwchben yn ogystal, ag arni’r geiriau meddwol  ‘The World is Yours’…

Rhaid oedd aros tan yr olygfa ail-act hon i weld y prif actor yn perchnogi’r llwyfan. Does dim bai ar Lynch, yr actor lleol, am hyn; tan hynny, yn wir, mae’r cymeriad yn  dipyn o lipryn llwyd. Mae’r dyn ei hun, ar ddechrau’r sioe yn ryfelwr anrhydeddus; ond fe bendilia am hir, ar ôl cwrdd â thair gwrach, sy’n rhannu sawl proffwydoliaeth ag ef.

Crea’i gyfaill,  y Banquo (Gareth John Bale) lawn cydwybod, fwy o argraff ar ddechrau’r sioe, cyn y cipia’i wraig (Ffion Dafis)  y sylw – a theitl y ddrama – o’i mynediad hithau ar lwyfan. Ond yn sgil brad Macbeth – wrth iddo gydnabod ei chwant  – dilynwn stori afaelgar dros ben; un sy’n ’run mor berthnasol i’n gwleidyddiaeth gyfoes ni, ac sy’n sail i gyfresi fel Game of Thrones a House of Cards.

Er i’r ffasiwn am theatr ymdrochol, safle-benodol ddistewi ers tro, profiad gwych oedd cael myned Castell Caerffili liw nos, i sawru blas o arswyd go iawn.  Cyrhaeddais  ar garlam, a’m gwynt yn fy nwrn, trwy’r porth, â neb o nghwmpas. O nunlle, daeth tywysydd carpiog i’m croesawu, a’m hanner dychryn – a ngadael a gwên. O’r eiliad honno, fe gredais i mi gael fy nanfon yn ôl mewn hanes; a serch y rhybudd i wisgo’n gynnes, profais sawl ias oer lawr fy nghefn.

Fe’m swynwyd gan gyfieithiad y diweddar Gwyn Thomas, a lifai’n naturiol a dealladwy dros ben. Ac er i ugain mlynedd basio ers i mi astudio’r testun gwreiddiol, ro’n i’n llawn cynnwrf a chwilfrydedd i glywed ambell linell; ‘Dwbwl dwbwl poen a thrwbl, llosga dan a berwa’r cwbl…’. yn eu plith.  Hyderaf yr af ati i ddysgu swyn y gwrachod ar gof, i’w hymadrodd mewn acen ‘Craca Hyll’!

Ond nid pawb oedd yn glir yn ystod y sioe, wrth i’r actorion droi eu cefnau ar y dorf yn gyson. A galla i gredu fod y sgript yn rhodd i rai actorion Gogleddol y cast; ond yn eu brwdfrydedd i dylino’r perlau llên ar hast, fe nryswyd,  a’m dadrithiwyd braidd. Rhaid canmol yngangu eglur a hamddenol Gareth John Bale, a gyflwynodd gravitas i actiau cynta’r sioe. Cipiodd Ffion Dafis hefyd fy sylw i gyd, wrth i Mrs M dra-arglwyddiaethu ar ei gŵr.  Cafwyd fflach o amwysedd ganddi hi, wrth drafod y plentyn a aned iddi, a led-awgrymodd wreiddiau cymhleth i’w dyheadau duon hi.

Carais eiliad yr aduniad rhwng y rhyfelwr a’i wraig, a agrymodd lawer o ryw a thân gwyllt. Ond diflannodd yr elfen honno wrth i uchelgais y naill a’r llall rwygo’u huniad a diffodd eu fflam.  Gydag actorion mor ysgubol a Ffion Dafis a Richard Lynch, hoffwn weld rhagor o anogaeth i gemeg naturiol y ddau Macbeth; er yn ddau unigolyn,  maent yn rhannu’r un ffawd, ac mae teitl y ddrama yn perthyn i’r ddau.

Cryfhau wnaeth Macbeth – mewn statws a grym – nes y mynodd y prif actor ein sylw ni i gyd. Ond yn ei wendid, mae modd cydymdeimlo ag ef, a dymunwn iddo faddeuant o fath.  Roedd olygfa’r ddagr anweledig yn gwbl gaboledig – a pherfformiad Richard Lynch yn hollol hypnotig .

Does dim dianc rhag y ffaith fod hon yn ddrama faith, ac mae’r llwyfaniad yn ffydlon iawn i’r testun gwrieddol. Bu’r symud o stafell i stafell yn fendith yn wir i gynulleidfa theatr gyfoes Gymraeg – ynghyd â’r ysbaid i dorri syched.  Bu manylion fel y gwisgoedd moethus, a’r goleuo tan gamp yn falm yn ogystal   – ynghyd â’r gerddoriaeth gerddorfaol gyfareddol. A cafwyd digon o gyfleoedd i archwilio’r goruwchnaturiol,  i gadw’r dorf ar flaenau eu traed. O’r ‘mellt a tharannau’, i weryru meirch a chrawcian brain, a coup de théâtre i’ch gadael yn gegrwth cyn troi am adre drachefn!

Perthynai statws i bob rhan o’r cynhyrchiad hwn, sy’ wirioneddol werth ei weld. Mae’n deyrnged o fri i’r diweddar Gwyn Thomas, ac yn dechre gwych i’r Theatr Gymraeg yn 2017.

 

Leave a Reply