Merched Caerdydd/Nos Sadwrn o Hyd, Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr Clwyd

March 19, 2019 by

Comisiynwyd Merched Caerdydd, gan Catrin Dafydd, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae’n rhoi llais i dair merch o’r ddinas sy’n siarad Cymraeg o gefndiroedd tra gwahanol gyda phroblemau tra gwahanol, a thebyg ar yr un pryd.

Mae Emmy Stonelake yn chwarae Cariad, merch fywiog, uchelgeisiol ond ansicr yn cychwyn gyrfa ym maes gofal plant. Mae’n dod i drafferth wrth i helyntion ei chariad dechrau tarfu ar ei bywyd mewn sawl ffordd.

Mae Liberty, nid ei henw go iawn, (chwaraewyd gan Hanna Jarman) ac Anwen (Gwenllian Higginson) o gefndiroedd mwy dosbarth canol ond mewn sefyllfaoedd reit fregus hefyd.

Er nad ydynt yn adnabod ei gilydd mae ganddynt bobl mewn cyffredin – un o’r ffyrdd mae Catrin Dafydd yn plethu byd bach Cymry Cymraeg â byd merched Caerdydd gyfoes. Un o’r pethau sydd gan y merched yn gyffredin yw dynion anaddas, sy’n cymryd y gorau o’r merched, ac yn cynnig dim – neu dim digon – yn ôl.

Tua diwedd y ddrama mae penderfyniadau reit anodd i’r merched eu gwneud. Mae’n galonogol eu bod yn cymryd rheolaeth dros eu cyrff a’u bywydau eu hunain yn y diwedd, ond eto mae marc cwestiwn dros ddyfodol y merched i gyd. Hwyrach bydd cadwyn digwyddiadau a ddechreuodd yn rhannol oherwydd eu penderfyniadau bellach yn drech na hwy, hwyrach ddim.

Braf oedd gweld drama ffeministaidd yn y Gymraeg yn delio’n agored a materion sy’n effeithio merched – mislif, beichiogrwydd, erthyliad, rhyw, perthnasau, teulu. Gorau fyth yw gweld merched realistig, di-flewyn ar dafod yn lle syniad dramodydd gwrywaidd o ferch.

Roedd perfformiadau’r merched yn wych, yn ddeialog ac yn symudiad (canmoliaeth i’r cyfarwyddwr corfforol Jess Williams), yn enwedig Emmy Stonelake sydd yn archwysu carisma yn fy marn i.

Roedd y set yn syml ond effeithiol, tywyll gyda ffrâm wedi’i wneud o diwbiau fflworoleuol ac ychydig ddarnau o ddodrefn tywyll fel propiau. Roedd y ffrâm lachar yn effeithiol wrth gyd-fynd gyda dawnsio guriadol pwerus y merched rhwng ymsonau, a hefyd yn gweithio’n dda i gyfleu clybiau nos Nos Sadwrn o Hyd.

Roedd natur hawdd, doniol a deniadol Nos Sadwrn o Hyd yn gyferbyniad braf i angerdd Merched Caerdydd.

Stori diwedd perthynas Lee gyda Matthew a chychwyn carwriaeth â Carl yw Nos Sadwrn o Hyd, wedi’i berfformio’n gyfan gwbl gan Sion Ifan.

 

Actor hynod o hyblyg yw Ifan, yn camu mewn i rôl yr annwyl Lee ac yn troi ei gymeriadau llai hoffus yn Byw Celwydd a Garw yn atgof pell. Roedd cymaint o ddeialog i’w ddysgu, weithiau’n ffraeth, weithiau’n fyrlymus, weithiau’n hardd ofnadwy a fe’i cyflwynwyd yn berffaith.

Roedd stori Lee a Carl yn stori gariad gwirioneddol, yn dal y momentau bach sydd ar yr un pryd yn arbennig o bob dydd ac yn arbennig o ddwys. Y momentau pan mae rhywun yn sylweddoli mai dyma’r ‘un’ – “mae’n dod i ni gyd” fel ebe Lee.

Mae hefyd mewn ffordd yn llythyr cariad i Gaerdydd a’i gymeriadau, ond nid cariad sy’n ddall i wallau’r brifddinas. Wrth i ni gael ein sgubo i fyny yn rhamant, hwyl a hapusrwydd stori Lee a Carl roedd llais bach yng nghefn fy mhen yn dweud plîs diwedda’n hapus, plîs diwedda’n hapus.

Ond trist iawn yw’r diweddglo yn anffodus. Drama Saesneg o’r enw Saturday Night Forever ysgrifennodd Roger Williams yn wreiddiol ym 1998, ac fe ddychmygaf ei fod yn reit arloesol ar y pryd pan nad oedd gymaint o drafodaeth o gwmpas materion amrywiaeth a chydraddoldeb. Mae Williams wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y llynedd a’i ddiweddaru. Trist yw meddwl bod homoffobia yn dal i fodoli’r dyddiau hyn, ond hwyrach nid cymaint homoffobia, ond casineb cyffredin – lle mae’r ‘cryf’ a chas a thwp yn ysglyfaethu ar yr hen, y merched, yr hoyw, y ‘gwan’.

Dyma ddwy ddrama bwerus sy’n aros yn y cof am hir. Yn delio a themâu pwysig a chyfoes ond yn darparu digon o chwerthin wrth ochr y tristwch – rwyf yn sicr yn awgrymu i chi eu gweld.

Mae Merched Caerdydd/Nos Sadwrn o Hyd ar daith tan Ebrill 13.

 

 

Theatr Clwyd, Mold: 13–15/3/2019

Pontio, Bangor: 19 + 20/3/2019

Canolfan Garth Olwg, Church Village: 22/3/2019

Borough Theatre, Abergavenny: 25/3/2019

Pontardawe Arts Centre:26/3/2019

Theatr Mwldan, Cardigan: 28/3/2019

Aberystwyth Arts Centre/ Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth :29 + 30/3/2019

Canolfan S4C Yr Egin,Carmarthen: 1 + 2/4/2019

Galeri, Caernarfon: 4 + 5/4/2019

Ffwrnes, Llanelli: 8 + 9/4/2019

Weston Studio/ Stiwdio Weston, Wales Millennium Centre/ Canolfan Mileniwm Cymru, Cardiff: 10–13/4/2019

 

This is a Welsh language production. The Sibrwd app provides English-language access.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *