Mae Nyrsys yn gynhyrchiad gwahanol ar y naw. Cynigir ciplun o ddiwrnod pum nyrs ar ward oncoleg yn ysbyty Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
Mae’n glir o’r cychwyn bod y ddrama wedi’u greu wrth siarad gyda nyrsys oncoleg go iawn. Mae nerfusrwydd naturiol pobl nad ydynt wedi arfer bod yn ffocws sylw yn amlwg, ond wrth gyfuno gyda natur eisiau helpu nyrsys, mae mwy o wybodaeth a mwy o ymddiriedolaethau yn cael eu rhannu gan y cymeriadau.
A chymeriadau gwych ydyn nhw hefyd wedi’u portreadu’n hynod gredadwy, annwyl ac agos atoch gan y bum actor ardderchog. Roedd pob un yn wahanol, a’n union fel oedd y nyrsys yn gweithio fel tîm ardderchog, felly hefyd oedd y cast. Ar y noson cefais fy effeithio fwyaf gan berfformiadau Bethan Ellis Owen a Carys Gwilym, ond mae pob un perfformiad wedi aros yn fy meddwl, sy’n anarferol ac yn arwydd ardderchog o ansawdd y sgript a’r actio.
Mae gan bob nyrs ei hochr difrifol, ei hochr ysgafn, ei stori bersonol, ei rheswm am wneud y proffesiwn heriol hwn a’i ffordd o ymdopi. O, a’i llais….am leisiau!
Mae caneuon gwreiddiol Rhys Taylor a Bethan Marlow yn gyfoes ac yn drawiadol, yn atsain y digwyddiadau drwy fod yn fyrlymus a beiddgar lle bo angen ac yn iasol ac angerddol pan fo’r galw. Wnes i fwynhau cyfraniad tri cherddor y band yn ofnadwy ac roedd lleisiau’r actorion yn ategu a chydgordio’i gilydd yn wych. O bum llais cryf, efallai Carys Gwilym ac Elain Lloyd oedd yn serennu.
Roedd stori pob nyrs yn ein swyno ar sawl lefel. Roedd yn ddifyr i mi i gael mewnwelediad i mewn i swydd mor anodd heb lawer o dal ond eto i’w weld yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei wneud ar ryw lefel ddofn, hyd yn oed tra mae’n cymryd ohonyn nhw. Roedd hefyd pwyntiau pwysig i’w gwneud am newidiadau i’r swydd a chyflwr y GIC er y gwaethaf wrth i adnoddau leihau a gwaith papur gynyddu.
Roedd straeon y cleifion a rannwyd gan eu nyrsys yn ddoniol, yn drist, yn ddirdynnol. Roedd straeon personol y nyrsys yn bwerus ac yn bob dydd ar yr un pryd, yn llawn pethau mawr fywyd sy’n effeithio’r rhan fwyaf helaeth ohonom ryw ben: priodi, salwch, dathlu, gwaith, plant, colled, tor-priodas, iselder.
Roedd defnyddio geiriau go iawn nyrsys go iawn i lunio’r ddrama’n dechneg bwerus ofnadwy gan Bethan Marlow ac yn enghraifft o Theatr Gair am Air. Roedd y ddeialog yn naturiol – Wenglish and all – ac roedd y ffaith nad oedd y geiriau o hyd y rhai mwyaf croyw yn ychwanegu at eu hystyr a’u heffaith, ac nid eu lleihau.
Does dim dwywaith amdani, mae Nyrsys yn siwrne emosiynol ofnadwy. Cancr yw bwgan ein bywydau – siawns bod pob un ohonom yn y gynulleidfa wedi goroesi cancr, yn byw gyda chancr neu wedi colli o leiaf un ffrind neu berthynas iddo.
Ond roedd yn siwrne roedd yn sicr yn werth mynd arni. Roedd yna wenu a chwerthin ymysg y tristwch, a chawsom ein hatgoffa gwaeth pa mor greulon ac annheg yw bywyd, byddai’r golled ddim mor ddwys os nad oedd yna gymaint i golli – hynny yw gymaint o bleser mewn bywyd. Fel mae’r nyrsys yn ei ddweud – rhaid byw.
Mae Nyrsys yn Hafren, Y Drenewydd Tachwedd 23, Theatr Borough, Y Fenni, Tachwedd 27, Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe, Rhagfyr 1, Theatr Mwldan, Aberteifi, Rhagfyr 4, a Galeri, Caernarfon, Rhagfyr 7 & 8.
This review is supported by the Wales Critic Fund.