Profiad digon swreal ydy gwylio Tudur Owen yn perfformio yn yr iaith fain. Yn gyflwynydd amlwg ar Radio Cymru, ac wedi blynyddoedd ar S4C ef yw seren fawr y sin gomedi stand-yp Cymraeg. Ond ag yntau wedi arfer a gigio yng nghlybiau Gogledd Lloegr, mae ei arddull yr un mor naturiol hyderus ag yn y Gymraeg. Bu mor serchog ag estyn croeso personol i aelodau torf The Mash House yn ystod Gwyl Ffrinj Caeredin ym mis Awst, wrth i seiniau’r Super Furries ein cofleidio o’r uchel seinydd.
Sioe Gymreig yn y Saesneg oedd cynhyrchiad ‘The Ll Factor’, a gyflwynwyd yn llawn direidi. Archwiliodd Tudur Owen labeli di-ri, o’r term ‘Cymro’ i’w enw ei hun, gan ddatguddio yn raddol gynhwysion yr ‘Ll Ffactor’, a herio cysyniadau’r dorf o genedlaetholdeb Cymreig.
Fel diddanwr, mae e’n giamstar ar gybwyso’i falchder am ei filltir sgwâr, a sylwadau deifiol amdano’i hun a’i gyd-Gymry. Un o atyniadau mawr ei raglen radio yw ei ffraethineb chwim wrth ymateb i bob pwnc dan haul; yng Nghaeredin, diolch i sicrwydd trefn ‘sgript’ a baratowyd o flaen llaw, gwlewyd fflachiadau niferus o’i allu byrfyfyr – gan amlaf wrth feithrin a chynnal perthynas wresog â’r dorf.
Mewn corwynt o berfformiad, llwyddodd i ddychan ei deulu ei hun, gan gynnwys Richard ei frawd – oedd yn bresennol yn y dorf – a dawnsio erotig ei ‘Anti Margaret’. Llwyddodd hefyd i osod pin yn swigen hunan-fodlon ambell un, gan gynnwys cigyddion ger gorsaf niwclear Sir Fôn. Ymestynnodd y thema wleidyddol – a gwleidyddiaeth y teulu yn arbennig – wrth gymharu sefydllfa’r Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd i un o deuluoedd ‘dysfunctional’ Jeremy Kyle.
Ond llwyddodd hefyd i’n denu i’w fyd o rwystredigaethau bob dydd, o wetsuits, Cefn Gwlad a Pingu – a arweiniodd, yn anochel, at fonllefau o chwerthin o’r dorf. Mae ar ei orau yn ‘tampan’ fel ffigwr y Celt Crac – un o destunau mawr y sioe; ond mae e ar ei anwylaf fel ‘Trevor/ Trudy’; y plentyn ysgol â’r enw rhyfedd, a hepgorwyd gan siopau cofroddion Caerliwelydd a Sŵ Caer.
Daw ei hyder o’i ‘gigs’ cyson – bob pnawn Gwener a bore Sadwrn ar BBC Radio Cymru – sy’n ffordd wych o ymarfer ei gomedi arsylwgar, cyn perffeithio’r defnydd ar gyfer y llwyfan. Ond teg dweud mai’r fersiwn 12-yn-ymylu-ar-15 a glywn ar y tonfeddi; yn y cnawd, caiff archwilio stwff sy’ bach mwy ‘rated R’, sy’n rhyddhau ei hun, a’r dorf, i ymlacio’n llwyr. Un pwnc anarlledadwy, yn anffodus, yw ymateb amhrisiadwy ei wraig i arferion rhywiol yr ystlum ffrwyth .
O gofio i’w sioe ddiwethaf yng Ngwyl Caeredin 2008 arwain at nofel lwyddiannus Y Sŵ, synnwn i ddim na glywn ni ragor am yr ‘Ll Factor’ cyn bo hir. Mae profi comedi Tudur Owen ar lwyfan yng Nghaeredin yn ein hatgoffa o’i athrylith, ac i fachu pob cyfle i’w weld o ’nol yng Nghymru.