Mae Guto a’i Nain yn dipyn o ffrindiau. Aiff Guto ati ar ôl ysgol pob dydd nes i’w fam ddychwelyd o’i gwaith. Bydd Guto’n ei ‘helpu’ gyda’r gwaith pwysig o hongian dillad ar y lein a’u tynnu eto, ac mae Nain yn un daer am wneud hyn y ffordd gywir. Weithiau bydd y ddau’n cael picnic ar y traeth, a bron bob nos bydd Nain yn paratoi ‘wy, chips a beans’ i Guto.
Ond mewn amser mae Nain yn drysu ynglŷn â’r picnic, ac yn gofyn a ydy Guto eisiau ‘wy, chips a Nain’. Mae hi’n clywed cathod bach yn y to ac yn disgwyl ei diweddar ŵr i de. Ar ôl i badell sglodion heb sylw achosi tân yn nhŷ Nain, mae’n rhaid iddi symud i gartref.
Am ddementia mae’r ddrama, ond mae o hefyd llawn cymaint am berthynas traws-cenhedlaeth a’r budd mae’n gwneud i’r ddwy genhedlaeth.
Mae perfformiadau’r actorion Gwenno Hodgkins ac Iwan Garmon a’r cydweithio rhyngddynt yn benigamp. Maent yn cyfleu perthynas naturiol, arbennig, agos a heriol yn berffaith.
Mae Guto yn hogyn llawn hwyl a direidi ond yn amlwg yn teimlo i’r byw.
Er bod y salwch yn gwneud ymddygiad Nain yn annifyr ar adegau, mae’i phersonoliaeth gref yn disgleirio drwodd – person galluog gyda safonau uchel, tafod ffraeth a blas am antur.
Gall y dementia godi tristwch ac ofn ofnadwy, ond gall hefyd dywys atgofion melys o’r amseroedd hapusaf – plentyndod, gwyliau, dyweddïo.
Wrth i Nain ddirywio mae’r tristwch yn gymysg gyda’r hwyl yn sgript sensitif Gwyneth Glyn.
Roedd y set yn syml ond effeithiol iawn, yn llwyddo i gyfleu cartref Nain, y traeth a’r cartref preswyl gyda’r lleiaf o newidiadau. Wnes i fwynhau’r defnydd clyfar o ffilm yn cael ei thaflu hanner ar dair sgrin fawr a hanner ar ddillad Nain ar y lein. Roedd y lluniau’n cyfleu rhai o’r pethau roedd Nain yn eu gweld neu eu cofio nad oedden ni, ac weithiau’n cyfleu beth oedd yn digwydd ger llwyfan, yn y gegin er enghraifft.
Roedd fy merch wyth oed hefyd wedi mwynhau’r ddrama. Roedd hi’n deall bod ‘Nain wedi dechrau mynd yn sâl’ felly achubais ar y cyfle i drafod dementia mewn ffordd addas i’w hoed ar ôl y perfformiad.
Mae’n dda pan mae’r celfyddydau’n gallu helpu i godi ymwybyddiaeth ac mae ‘Wy,Chips a Nain’ yn sicr wedi cyflawni hynny. Cafodd y ddrama ei ddatblygu gyda disgyblion Ysgol Pentreuchaf a staff a phreswylwyr Canolfan Gofal Dementia Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon. Mae’r ddrama’n dangos bod mwy i berson na’r dementia a’r rhaglen yn cynnig ffyrdd y medrwn ni helpu.
Lluniau: Krisitna Banholzer
Mae Wŷ, Chips a Nain ar daith tan Mawrth 22. Ewch i http://www.franwen.com/en/events/wychipsnain/ am fanylion.