Rai misoedd ar ôl i mi brofi Y Tŵr – yr opera gyntaf i mi ei gweld erioed yn yr iaith Gymraeg – ces i’r cyfle i fwynhau cynhyrchiad operatig arall a addaswyd o un o weithiau mawr yr Ugeinfed Ganrif.
Nid gwaith abswrdaidd yn deillio o ddrama alegorïaidd oedd hwn, ond cynhyrchiad hwyliog a ‘hygyrch’ dros ben, yn seiliedig ar nofel wyddonias boblogaidd gan Islwyn Ffowc Ellis, Wythnos yng Nghymru Fydd (1957). Cywaith ydy’r darn Opra Cymru hwn rhwng y Prifardd Mererid Hopwood, sef awdur y libretto, a’r cyfansoddwr Gareth Glyn.
Fel yn y nofel, dilynir siwrne Ifan Powell (Robin Lyn Evans) i ddau fersiwn gwahanol o’r flwyddyn 2033; y naill yn ddelfryd o’r Gymru hyderus anibynnol, a’r llall yn ‘Western England’ hunllefus dros ben. Mae’n cwrdd â merch ei freuddwydion, yr actores Mair Llywarch (Gwawr Edwards), sy’n ei sbarduno i newid ei agwedd at wleidyddiaeth Cymru, a brwydr yr iaith. Trwy’r gweledigaethau rhyfeddol hyn, daw Ifan i ddeall fod ganddo ran bendant i chwarae yn nyfodol ei wlad a’i iaith.
 minnau braidd yn nerfus o ddychwelyd i fyd yr opera, wedi profiad heriol yn ystod yr haf, es i ati i ail-ddarllen y nofel a gyhoeddwyd 60 mlynedd yn ôl. Dwi’n falch i mi’i wneud a dweud y gwir; mae’n nofel hawdd iawn i’w darllen a’i mwynhau. Ceir nifer o fanylion y gwnaeth yr awdur eu rhagweld, fel pŵer y rhyngrwyd ac effaith tîm pel droed o fri ar hyder a hunaniaeth gwlad. Ond serch hynny, mae gwendidau, ac mae wedi dyddio’n fawr mewn mannau, ac felly edrychais ymlaen i weld beth allai’r addasiad cerddorol hwn i gynnig i un lled-newydd i fyd yr opera fel fi.
Rwy’n hapus iawn i ddweud i mi fwynhau’r cynhyrchiad yn fawr. Am un peth, mae’r gerddoriaeth swynol yn eich cipio i le arallfydol, yn llawn ‘motifs’ ac adleisiau y gall bawb eu dilyn yn rhwydd. Roedd y perfformiadau, gan bawb, yn afaelgar dros ben, sy’n pwysleisio mai drama ramantus – mewn sawl ffordd- yw’r stori apelgar hon yn y bôn. Symleiddiwyd y stori, trwy drugaredd, gan gywasgu 174 tudalen o ‘faniffesto’ o’r Gymru ddelfrydol i hanner cyntaf sy’n symud yn chwim, cyn bwrw mlaen â hanner olaf arswydus, sy’n cynnig blas cas o’r dystopia Cymreig
Un o wendidau mwya’r nofel yw mai propaganda gwleidyddol yw hi; fe’i chyhoeddwyd gan Blaid Cymru, ac fe’i chyflwynwyd i Gwynfor Evans, yn blwmp ac yn blaen. Golygai hyn nad oes llawer sy’n amwys a ‘llwyd’ am y ddau ddyfodol gwahanol, y cofnodir yn glir mewn du a gwyn. Ar adegau, wedi darllen am BOB haen o’r gymdeithas Gymreig sydd wedi gwella yn y dyfodol, dechreuais ddiflasu ar y weledigaeth sosialaidd oedd yn ymylu ar fod mor un mor unffurf â’r Western England dotalitraidd ei naws. Wedi’r cyfan, yn nyfodol llawn ‘daioni’ yr awdur, mae’r rhan fwyaf o bobol yn lwyr-ymwrthodwyr llysieuol sy’n nyts am grefydd, cerdd dant a dawnsio gwerin, ac sy’n yfed fawr ddim ond ysgytlaeth mwyar duon. Mae hefyd yn gymdeithas sydd yn boenus o batriarchaidd, gyda’r Stepford Wives Cymraeg un ai’n gweini neu’n nyrsio ynteu’n gwenu’n siriol iawn ar eu gŵyr.
Atebwyd y broblem olaf hwn gan benderfyniad ysbrydoledig ar gyfer yr addasiad operatig; newidiwyd rhyw dau gymeriad mawr, sy’n cyflwyno Ifan i’r gweledigaethau dyfodolaidd. Yn yr opera, mâe Sian Meinir yn chwarae’r bio-ffisegydd Dr Heineke, sy’n gyfrifol am greu’r ‘peiriant amser’, a hefyd prif dywysydd Ifan, Alfana Llywarch – sy’n academydd, ac yn fam i Mair.
Problem fwya’r cynhyrchiad opera, hyd y gwelwn i, oedd y pwyslais gormodol a roddwyd ar is-stori’r ‘Crysau Porffor’, sef yr heddlu cudd sy’n gymharol ymylol yn y nofel wreiddiol. Rhoddwyd llawer mwy o sylw’r rhain yn yr opera, gan ddrysu nifer o nghwmpas nad oedd wedi darllen y nofel ers tro byd. Ond wedi dweud hynny, rhaid canmol cyfraniad Sion Goronwy, sy’n chwarae’r ffasgydd Capten Steele; hawdd oedd dilyn pob gair wrth iddo leisio’n gyfoethog ddyhaeadau ei wrthblaid ei hun.
Roedd y bartneriaeth rhwng Robin Lyn a Gwawr Edwards yn un ddisglair, gyda’r cemeg rhwng y ddau yn tasgu o’r llwyfan yn ystod eu meet-cute yn Theatr Genedlaethol y dyfodol. Ond wrth i’r ddau droi eu cefnau yn achlysurol ar dorf neuadd Memo y Barri, collwyd ystyr ac yngangiad ambell linell yma a thraw.
Cafodd y ddau, ynghyd ag eraill, rannu deuawdau a thiawdau gwych; yn aml iawn, teimlais fy mod y arnofio ar gwmwl rhif 9 o bleser wrth wylio ffilm gerddorol o Hollywood yr oes aur. Cyflwynodd y delyn adlais hardd o stori eu rhamant, a wreiddiwyd yng Ngwlad y Gân.
Creodd Siân Meinir argraff gref fel tair merch amrywiol a gynigent borth i Ifan i’r dyfodol. Yn achos y Fraulein Doktor Heineke, ac Alfana Llywarch, cawsom gip delfrydol ar y dyfodol; ond yn achos ‘Hen Wraig y Bala’, yn ei dryswch a’i dementia, torrwyd ein calonnau, gan ysbrydoli’r anthem ola’ angerddol, am frwydro ‘Ymlaen’.
Cafwyd cefnogaeth gref gan aelodau ifainc y corws, a hefyd gan leisiau ‘addawol’ cwmni Opra Cymru; Seimon Menai a Gethin Lewis yn arbennig, mewn rhannau cynorthwyol. Gwerthfawrogais y gwisgoedd, a’r deunyddiau sgleiniog Bucks-Fizz, a lynodd yn gawslyd o daer at weledigaeth hen-ffasiwn Islwyn Ffowc Elis ar gyfer dyfodol baco-foil. Dibynai’r set syml ar waith goleuo celfydd iawn i gyfleu’r ‘daith amser’ yn ddeheuig, a hoffais gysgodion y coedwigoedd i’n daearu yn y Gymru hunllefus, fel a gafwyd yn y nofel, er na aethpwyd i fanylder am hynny yn y sgript.
Yr oedd digon i’w fwynhau, ac i’n hatgoffa o’r clasur llenyddol, sydd fel Cysgod y Cryman, mewn ffordd, yn cynnig ‘sebon’ o gynhyrchiad poblogaidd ei apêl. Wedi denu cynulleidfaoedd i ddau gynhyrchiad opera Cymraeg a addaswyd o glasuron o ganol yr Ugeinfed Ganrif, efallai ei bod hi’n bryd i ni brofi opera gyfoes, a honno’n un newydd sbon.
Efallai fod rheiny yn eiriau wwnaiff ddychwelyd i’m meltithio i, ond dwi’n credu mod i’n barod i gamu i lawr nesaf yr opera Cymraeg. Fe brofodd y cynhyrchiad llwyddiannus hwn nad oes rhaid ‘ofni’r’ opera, a bod modd cynnig celfyddyd o’r radd flaenaf wrth hefyd apelio at y gynulleidfa graidd. Fel y dywed Islwyn Ffowc Ellis yn y nofel ei hun, ‘Mae cenedl yn gwneud pethau mawr wedi colli’i chymhleth israddoldeb’. ‘Ymlaen’ yn wir i’r opera nesaf Gymraeg.
An exuberant adaptation of a Welsh sci-fi classic that reminds us that we all have a part to play in the future of Wales.