Dim ond dau actor ond degau o gymeriadau, dyma ddrama sy’n gwneud i chi chwerthin a chrio.
Dangos neges bwerus yw bwriad y ddrama, ein dysgu am beryglon alcohol. Fe welwn griw o blant ysgol mewn parti mewn tŷ a chawn weld yr alcohol yn eu swyno. Ond nid dyma’r unig wers, mae sawl thema arall am gyfeillgarwch, hunan hyder ac ymddiriedaeth. Mae e’n berfformiad dwfn gyda sawl haen i’w darganfod.
Wrth gerdded i mewn i’r theatr mae cerddoriaeth clwb yn seinio o amgylch a dau ddyn mewn crys a thei yn chwarae guitars ar y llwyfan. Mae’r teimlad fod parti ar droed yn glir. Wrth i’r perfformiad ddechrau mae’n amlwg fod sawl cymeriad yn y stori ond pob un yn cael ei bortreadu gan y ddau actor. Dyma un o’r pethau gorau am y ddrama yma, gallu a sgiliau’r actorion i gyfleu’r cymeriadau mor glir. Yn wir, mae’n sioc ar y dechrau fod cymaint o bethau’n digwydd mewn cyn lleied o amser ond unwaith rydych yn deall beth sy’n mynd ymlaen, mae’n hollol wych. Does dim amheuaeth pa gymeriad yw pa un, ac mae’r newid yn slic a phendant. Roedd hi’n braf medru ymlacio gan wybod fod yr actorion yn hollol ymwybodol o ba gymeriad sy’n dod nesa a phryd.
Mae’r defnydd o wisg yn wych, maent yn llwyddo i greu’r gwahaniaeth rhwng y cymeriadau’n amlwg trwy addasu eu gwisgoedd a’u hosgo a lleisiau eu hunain. Ffordd syml ond effeithiol iawn o wneud i’r llwyfan deimlo’n llawn er mai dim ond dau actor sydd yno.
Mae hanner cyntaf y ddrama â naws eithaf cyfforddus ond eto cyffrous, mae popeth yn mynd yn dda ac mae’r gerddoriaeth yn eich denu i dŷ’r parti. Mae hi’n sefyllfa gyfarwydd i sawl un, oedolion yn cael eu hatgoffa o’u harddegau neu bobl ifanc sy’n gwneud yr un peth heddiw. Mae ynddi rywbeth i bawb, gall bawb uniaethu ag un cymeriad. Mae’r hanner cyntaf i gyd yn hwyliog ond yr eiliad mae’r gerddoriaeth yn peidio mae popeth yn newid yn llwyr. Does dim angen newid dim byd arall, dim newid goleuo na set dim ond diffodd y gerddoriaeth.
Mae’r ail hanner yn hollol wahanol ac mae’r teimlad cyfforddus yn diflannu’n llwyr, yn sydyn rydych ar flaen eich sedd yn barod i gael gwybod mwy. Yn yr ail hanner mae un o’r darnau mwyaf emosiynol, ble mae plentyn bach yn adrodd rhywfaint o’r hanes. Dyma olygfa sy’n tynnu ar y galon ac sy’n dod a’r stori’n fyw.
Roedd hon yn ddrama a oedd yn taro pob tant ac yn canolbwyntio ar yr actio a’r perfformio yn hytrach na’r set a goleuo. Er bod y llwyfan yn syml doedd dim angen mwy, roedd yn ddigon i danio fy nychymyg. Mae gallu’r actorion wir yn haeddu cymeradwyaeth ac roedd yn braf gweld drama a oedd yn addas ar gyfer ystod eang o gynulleidfa. Fe lwyddodd i wneud i mi deimlo emosiynnau cryf iawn ac roedd yr uchafbwynt wir yn glec.
http://aradgoch.cymru/index.php/beth-sy-mlan/llawn1/y_glec_king_hit
Other reviews:
http://www.asiw.co.uk/reviews/y-glec-king-hit
Images: Keith Morris