Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Pontio a Theatr Clwyd a dilyniant i Llew a’r Crydd yw Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig.
Fe’n tywyswyd drwy antur hudolus gan y brodyr Metso (Siôn Eifion) a Cwilsyn (Siôn Emyr) a’u ffrind newydd, y ddawnswraig Ballera (Elan Catrin Elidyr).
Teithio gan gasglu straeon a’u perfformio i gerddoriaeth mae Metso a Cwilsyn, a thro ‘ma gyda’r elfen ychwanegol o ddawns gan Ballera. Mewn ymgais i annog Ballera i ymddiried ac i fod yn fwy dewr mae Metso a Cwilsyn yn adrodd stori’r hen Drol gas.
Mae Seren, Siwan a Sara yn byw yn dlawd ond digon hapus gyda’u mam nes i’r Drol ddod ar y sin. Cyn bo hir mae ffrind gorau Seren, Chwcichwcs yr iâr, a’i chwiorydd wedi diflannu. Gwyddai Seren mai’r Drol sydd wedi eu dwyn, ac ar hyd y ffordd mae hi’n cwrdd ag ambell i gymeriad difyr sydd â chyngor gwerthfawr i’w helpu yn ei chynllun i drechu’r Drol.
Ond i wneud hynny, bydd angen bod yn gyfrwys, yn glyfar ac yn ddewr…wneith Seren lwyddo?
Roeddwn i a’r merched wedi clywed stori wreiddiol Y Trol wedi ei adrodd yn ddoniol iawn gan gyfarwyddwr y ddrama Emyr John mewn un o ddigwyddiadau teuluol Theatr Clwyd o’r blaen. Ond yn y cynhyrchiad hwn roedd y stori wedi ei ddatblygu yn ddrama i dri actor.
Roedd y set gan y dylunydd Lois Prys yn syml ond effeithiol a’r gerddoriaeth wreiddiol gan Siôn Eifion a’r symudiadau gan y coreograffydd Angharad Jones yn ychwanegu sawl dimensiwn effeithiol.
Roedd yr actorion yn chwarae sawl cymeriad yr un ac yn swyno wrth chwarae pob un. Cyferbyniad rhyfedd oedd gweld Siôn Eifion yn chwarae cymeriad mor hynod o annwyl dim ond ychydig ddyddiau ar ôl ei weld fel troseddwr mewn cell ar ddiwedd Craith ar S4C – ond dyma brawf o’i sgil.
Braf oedd gweld plant bach y gynulleidfa’n eistedd mor agos at y llwyfan a’r actorion yn rhyngweithio gyda hwy ac yn dod i blith y gynulleidfa – roedd yna naws arbennig iawn.
Roedd y defnydd o Makaton neu Iaith Arwyddion Prydain a’r gwahoddiad i’r gynulleidfa ymuno â’r caneuon yn ychwanegu at y teimlad cynhwysol.
Drama ddifyr, deimladwy a doniol ar gyfer teuluoedd yw Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig – brysiwch i’w weld cyn iddo orffen!
Mae Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig yn Theatr Clwyd tan Ragfyr 30.