Cofnodwyd sawl merch ‘llawn ysbryd’ ar bapur dros y blynyddoedd, o Minnie the Minx i Beryl the Peril ar dudalennau’r Dandy a’r Beano, i lyfrau Anne of Green Gables a Pipi Hosan Hir. Ar deledu, ar hyd fy ieuenctid, dilynais helyntion Jini Mê Jones a Marmalade Atkins, ynghyd â Grotbags, The Worst Witch a Supergran (ydy, mae hi’n cyfri!). Ac yn boblogaidd â phlant bach yng Nghymru ar hyn o bryd mae Donna Direidi, a ddisodlodd ei chefnder Rapsgaliwn fel ‘rapiwr gorau’r byd’.
I blith yr enwau hyn – nid criw mawr, i gymharu â’r bechgyn – daeth enw newydd yn 2014, mewn cyfres o lyfrau gan Meleri Wyn James. Yn ôl disgrifiad y casgliad cyntaf o straeon ar gyfer darllenwyr 7-9 oed, ‘mae Nel yn ferch ddireidus ac mae ei rhieni’n gorfod gweiddi ‘Na, Nel!’ arni’n aml!’. Fel un sydd ddim (cweit) yn blentyn, nag (eto) yn riant, dwi heb ddarllen un o’r llyfrau’r poblogaidd. Ond fel un a’m swynwyd gan sioeau plant diweddar cwmni Arad Goch, ro’n i’n fwy na bodlon cael fy nghyflwyno i ‘haden’ newydd Cymru trwy fyd y theatr.
Wel.. dwn i ddim a yw natur hoffus Nel wedi’i golli wrth ei drosi, ond allai’m dweud i mi gynhesu llawer i’r sosiopath bach. Mae’r stori’n ein cyflwyno i ferch sydd wedi’i sbwylio’n rhacs, wrth i’w rheini cariadus (Ffion Wyn Bowen ac Owain Llyr Edwards) redeg a rasio o’i chwmpas i sichrau ei bod hi’n hapus. Mae hi’n aelod passive-aggressive o driawd clos o ffrindiau, Barti Blin (anger management issues) a Mair Mwyn (sy’n dioddef yn enbyd o ddiffyg hyder). Mae hi’n trin ei hathro cerddoriaeth, Macsen Boyce (Owain Llyr Edwards), â dirmyg pur, ac yn synnu nad yw wedi cynhesu ati.
Mae huan-hyder Nel (Nia Ann) ymhell oddi ar y raddfa, yn grediniol mai hi yw’r gorau ym mhob dim; does neb tebyg iddi, mae’n debyg, am ddringo wal fel mwnci. A phan glywai am ragbrofion sioe gerdd newydd sbon, mae hi’n gwbod mai hi sy’n haeddu’r brif ran. Yn waeth na dim, ymddengys fod ganddi gydwybod – ffrind dychmygol o’r enw Bogel Jogel (Owain Llyr Edwards), sy’n ei chynghori hi mai’r oll sydd angen arni yw rhagor o H-Y-D-E-R. Er mwyn dyn! Trwy drugaredd, ni wobrwyir ein Narcissus, ond oherwydd hynny fe aiff ati a chryn bleser i ddinistrio llais Barti (Tomos Wyn), a gipiodd y rhan
Nawr maddeuwch i mi – a gollais i rywbeth yn yr Ysgol Sul? Dyma foeswers i genhedlaeth o ‘blu eiria’ Donald Trump; eu hymateb i stori Achilles byddai’n ddi-amau, ‘ffêc niws!’, mae’n siwr. Dwi’n cofio cymeriadau fel hyn yn yr ysgol, ac ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd; anwyliaid beirniaid ac athrawon, a neb arall. Wna i ddim datgelu’r diweddglo – digon yw dweud yw y caiff Barti a Mair eu ‘gaslightio’. Ni chaif y cysyniad o ‘nemesis’, yn dilyn ‘hubris’, ei gyflwyno o gwbl! Aaaarghhhhh!!
Yr unig beth , ar unrhyw bwynt,wnaeth ddenu elfen o empathi, oedd clywed am gymeriad hyd yn oed mwy anioddefol na Nel; Twm , ei brawd mawr, sy’n ‘berffaith’. ‘Paging Dr Freud!’ yn wir. Mae hynny’n egluro’r cyfan, ac yn cynnig is-destun ddiddorol, mewn egwyddor, wrth roi cyd-destun i’w hymddygiad patholegol. Nawr, petasai’r ‘plentyn aur’ hwn yn bresennol yn ystod y sioe, byddai na gyfle i ni uniaethu a Hell. Sori, Nel. Ond fel Diane o Twin Peaks a Maris yn Frasier, mae’n gymeriad anweledig, a cham gwag oedd ei hepgor o’r sioe.
Mae hyn yn biti mawr; dyw plant bach ddim yn dwp – mae nhw’n deall cymhlethdod cymeriad, ac yn synhwyro’n reddfol y gwahaniaeth rhwng rhyfyg ac anghyfiawnder . Mewn cyfres o weithdai mewn ysgolion cynradd yng Nghaerdydd a Thrimsaran, cyflwynais gyfres o chwedlau, rhai o’r Mabinogi, eraill yn gymeriadau colledig Caerdydd, i blant Blwyddyn 2 a 3. Gwirionodd y bechgyn cymaint a’r merched â’r cymeriadau benywaidd, boed yn elynion neu’n arwresau. A ph’run ai’n Arianrhod neu’n Blodeuwedd, Cati Goch neu Ladi Lwyd, fe werthfawrogwyd fod wastad rhywbeth yn llechu islaw i esbonio ymddygiad (ymddangosiadol) ‘afresymol’.
Deallais o gyhoeddusrwydd Na Nel! Wwwww! y bu cynulleidfaoedd wrth eu boddau; rwy’n mawr obeithio i ddarllenwyr y llyfrau amsugno cymaint o’r straeon cefndirol mai dim ond fi sy’n gor-feddwl, ac ar fy ngholled yn llwyr. Ond clywais dipyn o ‘shwshio’ i ‘Na Nel’s’ yn nhorf y Sherman gan athrawon, wrth i’r plant tawedog swnian a symud yn eu hunfan. Y tro cyntaf iddynt ddeffro a cherthin yn iach, oedd ar gyflwyniad cymeriadau’r oedolion, Mr Boyce (Owain Llyr Edwards) ac Ifana Slic (Ffion Wyn Bowen), cyflwynydd Shwmai Heno?. Cymeriadau boncyrs, atyniadol, fel cartwns wedi’i gwireddu, gyda dillad a gwalltiau dros ben llestri.Synhwyrais hefyd apel rhen Barti, wrth fynd amdani a chanu’n harti.
Apêl oesol, hollol abswrd, sydd i oedolyn yn ymddwyn fel plentyn… fel Jimmie Krankie, dyweder (slawer dydd), neu Plwmsan, y Twmffat Twp. Ac fel y profodd sioeau diweddar, Oes Rhaid i Mi Ddeffro? (i blant bach bach) ac Y Glec (i bobol ifanc), mae gan gwmni Arad Goch hanes helaeth o drin plant mewn ffordd deallus, ac aml-haenog, yn enwedig pan eu bod nhw’n ymddwyn yn ‘anghonfensiynol’.
Yn anffodus, roedd yr ymateb braidd fel tumbleweed pan oedd y triawd o blantos ar lwyfan, yn canu caneuon braidd yn blentynaidd i gynulleidfa’r diwrnod hwnnw. Cyfranodd y cast gymaint o egni ar hyd y sioe – yn arbennig Nia Ann fel Nel ei hun; mae’n drueni chafodd hi ‘elyn’ go iawn i adweithio yn ei erbyn. Beth pe bai cymeriad lliprynaidd Mair Mwyn (Miriam Isaac) wedi’i wenwyno gan or-hyder Nel, a throi mewn i fwystfil i’w ddofi? Roedd cymaint o glyfrwch geiriol yn bresennol yn y sgript swreal – ac mae na apel i ferch chwilfrydig sy’n cwestiynu ‘pam ham?’ byth a benydd, ac sy’n bwyta ‘coco pops gyda banana, ond heb fanana.’
Serch slicrywdd sain trawiadol y cyfansoddwr Osian Gwynedd, dwn i ddim pa mor lwyddiannus oedd cyflwyno cerdd dub-step ac elfennau rapio – oedd hyn i fanteisio ar lwyddiant torfol Donna Direidi? Un peth sy’n bendant, roedd y set symudol yn ffantastic, gan sicrhau fod y cynyrchiad yn symud yn chwim. Hoffais hefyd gyfraniad y gath led-sinigaidd, Mr Fflwff – mae na wastad le i bwped mewn sioe o’r fath. Yn wir, ceir cmaint o botensial i ddatblygu’r cymeriadau, ond ar hyn o bryd mae nhw’n sownd ar dudalen dau-ddeimensiwn. Pam ham na roddwyd cyfle i ddatblygu cymeriadau Na Nel! Wwww! yn ddigonol ar gyfer yr addasiad i’r llwyfan? Rwyf o blaid cyflwyno arwres sydd yn gwbl anghonfensiynol, ond mae gen i ofn mai bwwwww yw fy nyfarniad y tro ma.